Skip page header and navigation

Cefndir

Dr Dylan Blain yw Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon a Byw’n Iach ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) lle mae’n darparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol ar gyfer portffolio o raglenni israddedig ac ôl-raddedig ar draws sawl campws yn Ne-orllewin Cymru. Mae’r rôl arwain hon yn goruchwylio rhaglenni gan gynnwys BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc (Anrh) Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol, BSc (Anrh) Maetheg, Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd, ac MSc Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff. 

Cwblhaodd Dr Blain ei PhD a’i radd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae’n athro Addysg Gorfforol uwchradd cymwysedig gyda phrofiad helaeth o addysgu mewn ysgolion. Mae’n hyfforddwr pêl-droed Trwydded A UEFA ac wedi gweithio mewn clybiau proffesiynol a lled-broffesiynol. Yn academaidd, mae gwaith Dr Blain yn canolbwyntio ar hyrwyddo llwybrau cymhelliant cadarnhaol trwy raglenni ymgysylltu mewn cyd-destunau chwaraeon ac ymarfer corff. 

Pynciau Arbenigol

  • Cymhelliant a Newid Ymddygiad mewn Gweithgarwch Corfforol:
  • Ffactorau seicolegol sy'n dylanwadu ar gymryd rhan mewn chwaraeon / ymarfer corff
  • Ffactorau seicolegol sy'n dylanwadu ar gymryd rhan mewn chwaraeon / ymarfer corff
  • Addysg Gorfforol a Llythrennedd Corfforol:
  • Dylunio cwricwlwm ar gyfer addysg gorfforol mewn ysgolion
  • Datblygu llythrennedd corfforol ar draws grwpiau oedran
  • Dysgu Cyfunol a Dysgu o Bell mewn Addysg Gorfforol
  • Datblygu Chwaraeon Ieuenctid:
  • Modelau hyfforddi a chwricwlwm ar gyfer plant a phobl ifanc

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Cwblhaodd Dr Blain ei PhD ym Mhrifysgol Caerfaddon, ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar brosesau cymhelliant mewn chwaraeon ac ymarfer corff, newid ymddygiad, ac addysgeg a gyfoethogir gan dechnoleg mewn addysg gorfforol, chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'n chwarae rôl strategol yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) fel Dirprwy Arweinydd Thema Strategol mewn Newid Ymddygiad, gan arwain ymchwil gymhwysol gyda'r nod o wella gweithgarwch corfforol ac iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn cyfrannu at grŵp Plant Iach Egnïol Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r cerdyn adroddiad ar weithgarwch corfforol fel rhan o'r Gynghrair Fyd-eang. Mae'n aelod o fwrdd golygyddol Physical Education and Sport Pedagogy, cyfnodolyn swyddogol y Gymdeithas Addysg Gorfforol (AfPE).

Cymwysterau

  • Doethur mewn Athroniaeth (Iechyd). Perthynas rhwng cymhelliant disgyblion, llythrennedd corfforol, gweithgarwch corfforol a llesiant sy'n gysylltiedig ag iechyd - Prifysgol Caerfaddon
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) - Addysg Gorfforol - PCYDDS
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) / Statws Athro Cymwysedig (SAC) – Addysg Gorfforol Uwchradd. - Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - Prifysgol Caerfaddon
  • Trwydded 'A' ac Ieuenctid Elît ‘A’ CBDC/UEFA (Cwrs Cyfunol)

Ieithoedd a Siaradwyd

Cymraeg, Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Dirprwy Arweinydd Thema Strategol (Newid Ymddygiad) - Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru.
Aelod o Fwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Physical Education and Sport Pedagogy
Aelod Cyswllt o'r Ganolfan Cymhelliant a Newid Ymddygiad (Prifysgol Caerfaddon).
Darlithydd Cyswllt gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Aelod proffesiynol gyda'r Gymdeithas Siartredig ar gyfer Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (CASES/BASES gynt)

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Cymrodoriaeth gyda'r Academi Addysg Uwch (HEA).

Dolen i Broffil Orcid

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • Blain, D., Standage, M. & Curran, T. (2022). Physical education in a post-COVID world: A blended-gamified approach. European Physical Education Review, 28(3), 757–776.
  • Lang, J.J., Zhang, K., Agostinis-Sobrinho, C. Blain, D., et al. (2023). Top 10 International Priorities for Physical Fitness Research and Surveillance Among Children and Adolescents: A Twin-Panel Delphi Study. Sports Medicine, 53, 549–564.
  • Blain, D., Curran, T. & Standage, M. (2020). Psychological and behavioural correlates of early adolescents' physical literacy. Journal of Teaching in Physical Education. 40(1), 157-165.
  • Blain, D. & Bellamy, M. (2018). School Gym and physical activity. Yn Draper, N. & Stratton, G. (Gol.). Physical Activity: A multidisciplinary approach. Abingdon, Oxon: Routledge.
  • Goodyear, V.A., Blain, D., Quarmby, T. & Wainwright, N. (2016). Dylan: the use of 'mobile' 'apps' within a tactical inquiry approach. In Casey, A., Goodyear, V. A. & Armour, K. M. Digital Technologies and Learning in Physical Education: Pedagogical Cases.
  • Ymddangosiadau rheolaidd ar S4C fel pyndit a sylwebydd ar Sgorio.

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw