Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Geraint dros 20 mlynedd o brofiad o ddarlithio mewn addysg uwch ynghyd â phrofiad helaeth o weithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd fel hyfforddwr personol a rheolwr campfa. 

Mae gan Geraint MSc mewn Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, MA mewn Addysg Awyr Agored, mae’n Wyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff achrededig CASES ac yn Faethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff cofrestredig. Yn ogystal, mae gan Geraint  ystod o gymwysterau hyfforddi gan gynnwys Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig NSCA, Hyfforddwr Personol CIMSPA a nifer o gymwysterau hyfforddi awyr agored. 

Yn achubwr bywyd syrffio cystadleuol, mae Geraint yn angerddol am ymarfer corff yn ei holl ffurfiau, ac os nad yw yn y gampfa yn hyfforddi gyda chydweithwyr mae allan yn syrffio, caiacio a rhedeg llwybrau.

Pynciau Arbenigol

  • Ffisioleg Ymarfer Corff
  • Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Cryfder a Chyflyru
  • Hyfforddiant Personol

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Cyn symud i ddarlithio, gweithiodd Geraint yn y diwydiant ffitrwydd mewn rolau o hyfforddwr campfa i reolwr clwb, gan weithio yn rhai o'r clybiau iechyd mwyaf mawreddog yn Llundain. Ers symud i'r byd academaidd mae Geraint wedi datblygu a rheoli rhaglenni gradd mewn Gweithgareddau Awyr Agored, Ffitrwydd Awyr Agored a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Cymwysterau

  • MSc Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Rhagoriaeth), PCYDDS
  • MA Addysg Awyr Agored (Rhagoriaeth), PCYDDS
  • TAR PcET, Prifysgol Cymru, Casnewydd.
  • BA (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon a Symudiad Dynol, UWIC

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg a Chymraeg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

CASES- Gwyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Achrededig
NSCA - Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig
AfN - Maethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Graddedig
CMSPA - Aelod Proffesiynol a Hyfforddwr Personol
Advance HE - FHEA (Cymrawd yr Academi Addysg Uwch)

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Gwobr Darlithydd Cyswllt y Flwyddyn y Coleg Cymraeg 2021