Judith Marshall
Darlithydd
Cefndir
Astudiodd yn:
Prifysgol Caerdydd: PhD; MSc; TAR
UWIC: BSc (Anrh,)
Mae ei phrofiad addysgu blaenorol yn cynnwys:
Darlithydd rhan-amser mewn Seicoleg ar gyfer rhaglen ‘Prifysgol y Cymoedd’ Prifysgol Casnewydd.
Darlithydd amser llawn mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Darlithydd amser llawn mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant o 2008.
Pynciau Arbenigol
- Hunaniaethau, Cymunedau a Lleoliadau.
- Dulliau ansoddol, yn enwedig dulliau naratif, tynnu lluniau a dulliau cyfweld 'cerdded a siarad'
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Seicolegydd cymdeithasol ansoddol, y mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar groesffordd yr unigolyn a'r cymdeithasol.
Sef:
- Sut mae pobl yn gwneud synnwyr o ffenomenau newydd a chyfnodau o aflonyddwch a thrawsnewid trwy dynnu ar ddealltwriaeth hanesyddol a diwylliannol o fewn cymunedau i adeiladu gwybodaeth a rheoli hunaniaeth.
- Y ffyrdd y mae gwybodaeth, sgiliau ac arferion ymgorfforedig yn effeithio ar ffurfio hunaniaeth.
- Pŵer lleoliadau cymdeithasol a chorfforol i gyfyngu a hwyluso'r ffyrdd y mae pobl yn gallu ymgysylltu ag addysg a dychmygu dyfodol mewn addysg a gwaith.
Cydweithrediad ymchwil rhyngddisgyblaethol cyfredol: 'Diagnosis Hwyr o Wahaniaethau Dysgu Penodol: Rheoli Hunaniaeth ac Ymgysylltu'
PhD: 'Dychmygu’r Dyfodol mewn Lleoliadau sy'n Newid'
PhD a Doethuriaeth Broffesiynol Cyfarwyddwr Astudiaethau/Goruchwyliwr

Cymwysterau
- PhD
- MSc Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol
- BSc (Anrh.) Seicoleg a Chyfathrebu
- TAR (AB)
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Cymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain
Seicolegydd Siartredig
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol
Ydw