Skip page header and navigation

Cefndir

ACADEMAIDD  

 2007 - Presennol  

  - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y DU 

Darlithio ‘Wyneb yn Wyneb’ ac ‘ar-lein’ i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser ar gyfer yr Ysgol Peirianneg.  Gweithio gyda chyflogwyr lleol a chyfathrebu â nhw i sicrhau bod cyrsiau’n diwallu  eu hanghenion ac anghenion eu myfyrwyr ar y cyrsiau hyn.  Arbenigwr adrannol mewn cymhwyso Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) a thechnegau optimeiddio yn ymarferol.  Rheolwr Rhaglen ar y Cwrs Ynni a’r Amgylchedd BEng. 

DIWYDIANNOL 

1999 - 2007  

  - Meridian Technologies, y DU 

Yn atebol am ddadansoddi elfennau meidraidd (FEA) a ddefnyddiwyd i ddatblygu cydrannau deigastio pwysedd uchel Magnesiwm yn Ewrop.   

  - Ford Racing Awstralia, Awstralia 

Datblygu BIW a chawell rholio ar gyfer y V8 Supercar, gan ddefnyddio rhediadau Topoleg a Thopograffeg Optistruct a rhediadau optimeiddio Nastran. 

 - Jaguar Cars Ltd, y DU 

Rhan o’r tîm peirianneg â chymorth cyfrifiadur sy’n cynnal dadansoddiad elfennau meidraidd (FEA) i ddatblygu’r gallu i wrthsefyll trawiadau a nodweddion dirgryniad, sŵn a garwder (NVH) cerbydau. 

Pynciau Arbenigol

  • Optimeiddio
  • Dadansoddiad Elfennau Meidraidd
  • Straen
  • Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae'r ymchwil yn cynnwys:

‘A Design Methodology for the Utilisation of Structural Orthotropic Composite Materials by Micro Enterprises’, Lake, K. Cyflwynwyd yng Nghynhadledd Deunyddiau Uwch Chwaraeon, Prifysgol Loughborough, Loughborough, y DU.

‘Modal Analysis: a Comparison Between Finite Element Analysis (FEA) & Practical Laser Doppler Vibrometer (LDV) Testing’. Pagano, L. Lake, K. Cyflwynwyd yn 19eg Gynhadledd Ryngwladol IEEE UKSim-AMSS ar Fodelu Mathemategol/Dadansoddol ac Efelychu Cyfrifiadurol, UKSim2017, Caergrawnt, y DU.

'The application of FEA in the optimization of die cast automotive components, their interpretation into a manufacturable design & the consequent reduction in development costs & time'. Lake, K. Thomas, R. Speech, Y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Dechnoleg a Gwasanaethau Auto Modern, Wuhan, Tsieina.

Cymwysterau

  • Prifysgol Leeds, Leeds, DU 1995 - 1999 MEng gyda Rhagoriaeth
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, y DU 2011 - 2021 (Rhan-amser) PhD         

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

2009 Aelod siartredig o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
2016 Cymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch (HEA)

Addysgu Academaidd

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Nac ydw