Skip page header and navigation

Cefndir

Cyn ymuno â’r Brifysgol bu Ken yn gweithio ym maes addysg bellach, gwaith ieuenctid, Gyrfa Cymru a gwella ysgolion.  

Tra roedd gyda Gyrfa Cymru bu’n ymwneud â llawer o ddatblygiadau’r agenda Llwybrau Dysgu yng Nghymru, gan gynnwys creu’r cymhwyster Hyfforddwr Dysgu, gan symud ymlaen i rôl Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu, yn gyfrifol am DPP dros 130 o staff. 

Ymunodd Ken â’r Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion (ESIS) Yn Gynghorydd Cyswllt 14–19. Roedd hyn yn cynnwys datblygu DPP ar gyfer Hyfforddwyr Dysgu a chefnogi ysgolion i leihau effaith tlodi.  

Yn Uwch Gydymaith ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau yn y WCEE, roedd Ken yn gyfrifol am weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i greu a nodi modelau ymarfer effeithiol ym maes ymgysylltu â theuluoedd. 

Ym mhob un o’r rolau hyn mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effaith anghydraddoldeb ar unigolion a chymunedau. 

Pynciau Arbenigol

  • Ymgysylltu â Theuluoedd
  • Theori Gymdeithasol
  • Amrywiaeth a Gwahaniaeth
  • Cyflogadwyedd a Chynllunio Gyrfa Creadigol
  • Ôl-wirionedd

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Roedd Ken yn rhan o dîm a secondiwyd i Lywodraeth Cymru i greu'r pecyn cymorth Wynebu'r Her gyda'n gilydd ar gyfer ysgolion. Cynlluniwyd y gwaith hwn i helpu ysgolion i wella eu harferion ymgysylltu â theuluoedd. Dolen: https://dera.ioe.ac.uk/id/eprint/23239/1/150615-face-main-guidance-en.pdf

Cymwysterau

  • BA (Cyd Anrh) Saesneg a Hanes
  • TAR (Addysg Ôl-16)
  • MA Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Barnardo's Cymru. Dolen: https://www.barnardos.org.uk/wales/advisory-board