Lola Villard-Coles
Cefndir
Mae gan Mrs Lola Villard-Coles dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant lletygarwch, ar ôl gweithio yn Ffrainc a Chymru mewn amrywiaeth o rolau gweithredol a rheoli mewn gwestai moethus. Cyn symud i addysg uwch, roedd hi’n Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer grŵp bach o westai 4 a 5 seren yng Nghymru, lle cynorthwyodd gyda datblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a hyfforddiant staff.
A hithau bellach yn Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Lola yn dod â’i chefndir mewn diwydiant i’r ystafell ddosbarth i helpu myfyrwyr i gysylltu theori ag ymarfer y byd go iawn. Mae hi’n arwain y rhaglen BA Lletygarwch a Rheoli Gwestai ac yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr i gefnogi eu cynnydd academaidd a’u datblygiad proffesiynol.
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar greu cysylltiadau ystyrlon rhwng diwydiant ac addysg, gyda phwyslais cryf ar ddysgu seiliedig ar waith, ymgysylltu â chyflogwyr, a lleoliadau myfyrwyr i helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn lletygarwch.
Pynciau Arbenigol
- Gwasanaethau Lletygarwch a Gwesteion
- Rheoli ac Ymddygiad Sefydliadol
- Rheoli Gweinyddu Gwestai
- Lletygarwch Cynaliadwy
- Rheoli Gweithrediadau Gwasanaethau Gwesteion
- Rheoli Gweithrediadau Bwyd a Diod
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Yn ogystal, archwiliodd ei hymchwil ôl-raddedig effaith Brexit ar gyfansoddiad y gweithlu, recriwtio a chadw talent yn y diwydiant lletygarwch yn y DU. Tynnodd yr astudiaeth sylw at heriau cynyddol y sector a'r angen am strategaethau newydd i fynd i'r afael â phrinder llafur ar ôl Brexit a chynaliadwyedd y gweithlu.
Cymwysterau
- MBA
- TAR (PCET)