Lynne Seymour
Cefndir
Mae gan Lynne dros 35 mlynedd o brofiad proffesiynol fel actor a chyfarwyddwr ynghyd â 10 mlynedd o brofiad addysgu fel Uwch Ddarlithydd. Mae gan Lynne rwydwaith diwydiannau creadigol helaeth ac angerdd dros ddatblygu cysylltiadau a chydweithrediadau newydd gyda gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr.
Ymunodd Lynne â PCYDDS fel darlithydd ar y cwrs BA Actio yn 2016 ac mae wedi symud ymlaen i fod yn Uwch Ddarlithydd, Rheolwr Rhaglen ac mae bellach yn arwain Portffolio Cyrsiau’r Diwydiannau Dylunio a Pherfformio fel Cyfarwyddwr Academaidd.
Mae Lynne yn Aelod o Fwrdd Theatr Na Nog ac mae’n parhau i weithio yn y diwydiannau creadigol naill ai fel hwylusydd creadigol, perfformiwr neu fel rhan o banel cynghori.
Mae profiad helaeth yn y diwydiant a gwaith perfformiad ymarferol Lynne yn helpu i lywio ei haddysgu a’i harweinyddiaeth ar draws y portffolio israddedig ac ôl-raddedig.
Pynciau Arbenigol
- Actio a Pherfformio
- Cynhyrchu a Rheoli Prosiect
- Ymarfer Cydweithredol
- Theatr Glasurol
- Radio Drama
- Trosleisio
- Theatr Deithiol
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Cymwysterau
- BA Actio
- MA Cyfarwyddo Theatr
- PGCert AU