Skip page header and navigation

Cefndir

Yn dilyn gyrfa mewn addysg gynradd mewn ysgolion gwledig yng Ngheredigion, ymunodd Nanna gyda PCYDDS yn 2008 fel darlithydd Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol.  Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cyfrwng Cymraeg ac yn 2013 fe’i hapwyntiwyd yn uwch ddarlithydd gyda chyfrifoldeb dros arwain ADY ar draws y cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon.  Ar hyn o bryd mae’n uwch ddarlithydd yn y Ganolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth, yn gyfarwyddwr y rhaglen MA (Addysg) Cymru, yn addysgu ar gyrsiau israddedig ac olraddedig, yn arolygu traethodau hir cyrsiau Meistr, ac yn gweithio ar amryw o brosiectau ymchwil. Yn ogystal a’i chyhoeddiadau academaidd, mae Nanna wedi cyhoeddi amryw o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr ag ADY.  Mae testun ei doethuriaeth gyfredol yn ffocysu ar les emosiynol a chymdeithasol dysgwyr rhwng 7 ac 11 oed yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. 

Pynciau Arbenigol

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Lles plant
  • Cwricwlwm i Gymru

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

1. Athrawes Gynradd

2. Mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Glasgow a Llywodraeth Cymru bu Nanna yn aelod o dim ymchwil yn edrych ar ddatblygiad Cwricwlwm i Gymru yn y prosiectau canlynol:

Camau: Arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (2017-2019) - https://athrofa.cymru/2018/06/01/learning-progression-for-wales/

Camau i'r Dyfodol: Uwch ymchwilydd (2023-2025) - https://www.uwtsd.ac.uk/research/camau-ir-dyfodol

Cymwysterau

  • BA
  • MEd
  • TAR (Cynradd)
  • TAAU
  • FHEA

Ieithoedd a Siaradwyd

Cymraeg, Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cyngor y Gweithlu Addysg UCAC

Addysgu Academaidd

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Arholwr Allanol Cwrs TAR Cynradd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (2014-2019)

Arholwr Allanol Cyrsiau MA Addysg Gynradd, PGDE Cynradd, a PGDE STEM, Prifysgol Glasgow (2024 - presennol)

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • Greenway, C., Ryder, N., & Eleri, S. (2025) 'From policy to practice: Education practitioners' engagement with Wales' framework on embedding a whole-school approach to emotional and mental health and well-being'. Pastoral Care in Education. pp. 1-17. h
  • Ryder, N. (2024) ‘Y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – ffordd bell i fynd!’, Gwerddon Fach. Ar gael yn: Y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – ffordd bell i fynd! – Golwg360.
  • Ryder, N., Greenway, C. & Eleri, S. (2024) ‘Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru’, Gwerddon, 38. Tt. 77-102. Ar gael yn: https://doi.org/10.61257/HEOY7439.
  • Ryder, N. & Packer, Rh. (2024) ‘Cynefin and Wales: The key to the future of language and culture / Cynefin a Chymru: Yr allwedd i ddyfodol iaith a diwylliant’ BERA blog, 24 May. Available at/Ar gael yn: Cynefin and Wales: The key to the future of langu
  • Greenway, C. & Ryder, N. (2022) ‘Inclusive Play’ yn ‘Introduction to Play’ Waters-Davies, J. (ed.). London: Sage.
  • Ryder, N. (gol.) (2018) Cefnogi Pob Plentyn (e-lyfr). Caerfyrddin: Canolfan Peniarth/Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ar gael yn: https://adnoddau.s3.eu-west-2.amazonaws.com/pdfs/CefnogiPobPlentyn.pdf

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Nac ydw