Skip page header and navigation

Cefndir

Ar ôl graddio gyda BA Dosbarth Cyntaf mewn Addysg Gynradd gyda SAC, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, aeth Siobhan Eleri ymlaen i astudio MSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio gyda theilyngdod. Dychwelodd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel Cynorthwy-ydd Ymchwil cyn cael ei dyrchafu’n Ddarlithydd a Chydlynydd Prosiectau ym mis Medi 2022. 

Pynciau Arbenigol

  • Addysg
  • Seicoleg
  • Y Gymraeg

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Hyd yn hyn, mae hi wedi cyfrannu at ystod o brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys Camau ar gyfer y Dyfodol, PYPC, EREiS, Trefniadau Asesu Drafft ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir, ymchwil ar arferion grwpio dysgwyr, ac ymchwil ar ysgolion cymunedol. Mae hi hefyd wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil mewnol, gan gynnwys astudiaethau ar brofiadau mentora myfyrwyr a mentoriaid ac ar arferion lles-llesiant mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae ei hymchwil wedi'i gyhoeddi mewn dau gyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, Gwerddon a'r Pastoral Care in Education Journal, ym meysydd Addysg a Seicoleg

Cymwysterau

  • 1af BA Addysg Gynradd gyda SAC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Teilyngdod MSc Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

Ieithoedd a Siaradwyd

Cymraeg
Saesneg