Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Gwyddor Deunyddiau (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Mae Peirianwyr Deunyddiau ar flaen y gad o ran darganfod a datblygu’r atebion gorau o ran deunyddiau cynhyrchion.

Ar ôl cwblhau’r radd hon mewn Gwyddor Deunyddiau, caiff ein graddedigion amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth sy’n canolbwyntio ar y diwydiannau metelegol, megis meysydd awyrofod, moduro, biofeddygol a datblygu cynaliadwy.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu dylunio a deall y gofynion ynghylch y deunyddiau gorau ar gyfer cynhyrchion newydd ynghyd â datblygu deunyddiau newydd, i fodloni gofynion technoleg fodern.

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Gwyddoniaeth Ffisegol ar gyfer Deunyddiau

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg 1

(20 credydau)

Peirianneg Drydanol

(20 credydau)

Electroneg I

(20 credydau)

Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau

(20 credydau)

Ymbelydredd Electromagnetig

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Peirianneg a Rheoli Prosiectau

(20 Credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol

(20 credydau)

Electroneg II

(20 credydau)

Dylunio Systemau Electronig

(20 credydau)

Electroneg a Gyriannau Ynni

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau