Skip page header and navigation

Prentisiaeth yn y Gadwyn Gyflenwi a Logisteg (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
4 blynedd
Lefel 3

Mae’r diwydiant Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod busnesau’n rhedeg yn ddiffwdan a bod cynhyrchion yn cyrraedd lle mae eu hangen. Heddiw, mae’r diwydiant hwn yn wynebu heriau newydd, megis addasu i dechnolegau newydd, dod yn fwy cynaliadwy, a delio â’r angen i leihau allyriadau carbon (a elwir yn ddatgarboneiddio). O ganlyniad, mae galw cynyddol ar fusnesau i fuddsoddi mewn talent newydd a all helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Mae’r Radd-brentisiaeth mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg wedi’i chynllunio i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym. Byddwch yn dysgu sut i optimeiddio gweithrediadau’r gadwyn gyflenwi, gan wneud prosesau’n fwy effeithlon a chost-effeithiol. Byddwch hefyd yn archwilio meysydd allweddol fel caffael, rheoli rhestrau eiddo, cludiant, a logisteg fyd-eang. Mae’r rhain i gyd yn rhannau hanfodol o gadw’r gadwyn gyflenwi i symud, boed hynny ar raddfa leol neu ryngwladol.

Un o’r prif bethau mae’r cwrs yn canolbwyntio arno yw cynaliadwyedd ac amgylchedd y gadwyn gyflenwi fodern. Mae hyn yn golygu deall sut i wneud cadwyni cyflenwi yn well i’r blaned, wrth barhau i sicrhau bod busnesau’n dal i fod yn gystadleuol. Byddwch yn archwilio’r tueddiadau diweddaraf o ran rheoli risg a rheolaeth strategol, gan eich helpu i nodi problemau posibl a dod o hyd i’r ffyrdd gorau o’u goresgyn.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Mae rheolau ariannu prentisiaethau’r Llywodraeth yn berthnasol i’r rhaglen hon. Ni fydd rhaid i brentisiaid dalu ffioedd.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen ran-amser BSc Cadwyn Gyflenwi a Logisteg yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a chymhwysol. Rydym yn cyfuno astudiaeth academaidd â heriau diwydiant y byd go iawn i sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y sgiliau beirniadol sydd eu hangen i lwyddo. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr y diwydiant, yn elwa o bartneriaethau diwydiant, ac yn cymhwyso’ch sgiliau trwy leoliadau diwydiant neu brosiectau sy’n seiliedig ar achosion.

Yn ystod y rhaglen cewch eich cefnogi i gwblhau portffolio seiliedig ar allu a fydd yn dangos sut rydych yn cymhwyso’ch gwybodaeth a’ch sgiliau yn y gweithle. Ar ddiwedd y rhaglen bydd rhaid i chi gwblhau Asesiad Terfynol ffurfiol a fydd yn cynnwys eich prosiect seiliedig ar waith, cyflwyniad ar ganfyddiadau eich prosiect a thrafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar y dystiolaeth yn eich portffolio.

Cynllunio Busnes

(20 credydau)

Egwyddorion Dadansoddeg Data

(10 credydau)

Cyflwyniad i Gaffael

(10 credydau)

Syniadaeth Ddarbodus

(10 credydau)

Rheolaeth Sefydliadol

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ac Ymchwil

(10 credydau)

Gwybodeg y Gadwyn Gyflenwi

(10 credydau)

Rheolaeth Cyllid

(10 credyd)

Cynaliadwyedd

(10 credyd)

Gweithrediadau Warysau a Rhestrau Cynnwys

(20 credyd )

Dadansoddeg Data

(20 credydau)

Cynllunio Capasiti

(10 credyd)

Moeseg a’r Gyfraith

(10 credyd)

Rheoli newid

(10 credyd)

Modelu ac Efelychu

(10 credyd)

Strategaethau Caffael

(10 credyd)

Prosiect Grŵp y Gadwyn Gyflenwi a Logisteg

(20 credyd )

Technoleg Logisteg

(10 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy

(10 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Byd-eang Strategol

(20 credyd)

Cadwyni Cyflenwi Darbodus

(10 credyd)

Gweithrediadau’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg

(20 credyd )

Gwendidau a Rheoli Risg

(20 credyd)

Technoleg y Gadwyn Gyflenwi

(10 credyd)

Prosiect Seiliedig ar Waith

(60 credyd)

Gorfodol ar gyfer y ddarpariaeth Brentisiaeth Saesneg

Asesiad Terfynol ar gyfer Gradd-brentisiaid

Dim ond ar gyfer y ddarpariaeth Prentisiaeth Saesneg mae Asesiad Terfynol yn asesiad craidd. Ni fydd angen y modwl hwn ar y Prentisiaid rhan amser a Chymraeg a ddilyswyd.

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Wedi’ch cyflogi mewn sector sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth. 

    3 blynedd o brofiad gwaith, cymhwyster L3 (Safon Uwch, Diploma BTech neu gyfwerth) neu Brentisiaeth L3 mewn sector perthnasol.

    TGAU: 

    Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg. 

    Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:

    ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn. 

    Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn. 

    Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.

  • I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr. 

    Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen Ceisio am Brentisiaethau. Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Extracurricular Welsh Opportunities 

    There are many ways to engage with Welsh culture and life at UWTSD, including joining clubs and societies for Welsh speakers and becoming a member of our vibrant Coleg Cymraeg Cenedlaethol branch.  

    Opportunities to Learn Welsh 

    We also provide a variety of opportunities to learn and develop your Welsh language skills.   

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau