Skip page header and navigation

Arfer Archeolegol (Llawn amser) (PGDip)

Llambed
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cwrs PGDip mewn Arfer Archeolegol wedi’i chynllunio i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer dadansoddi ôl-gloddio sy’n amrywio o ddadansoddi amgylcheddol i drin a dadansoddi arteffactau.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli prosiect a/neu weithio yn y diwydiant treftadaeth.

Mae Llwybr Arbenigwr Archeolegol ar gael hefyd sy’n cynnig prentisiaethau i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ymwneud ymarferol ag ystod o dechnegau ôl-gloddio yn y labordy.
02
Gweithio gyda deunydd cloddio ac arolygu sy’n destun ymchwil ar hyn o bryd gan eich darlithwyr.
03
Y cyfle i ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs PGDip hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer graddedigion Archeoleg a myfyrwyr eraill sy’n dymuno dod yn ymarferwyr archeolegol yn y maes. Fe’i cynlluniwyd yn benodol i ganiatáu i’r myfyrwyr hyn feithrin sgiliau ymarferol wrth drin a dehongli deunyddiau ôl-gloddio. Agwedd allweddol o’r rhaglen yw ei dull ymarferol, gydag ymarferion trin a thrafod a dysgu yn y labordy. Mae hyn wedi’i ymgorffori’n drylwyr o fewn fframwaith damcaniaethol sy’n briodol i ddehongliad archeolegol cyfredol, ac yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr gyflwyno’r deunydd archeolegol mewn amrywiaeth o gyfryngau i gynulleidfaoedd amrywiol.

Yn Rhan Un, mae pob modiwl yn werth 30 credyd ac, yn ychwanegol at yr un modiwl gorfodol, caiff myfyrwyr ddewis o’r rhestr o fodiwlau dewisol a nodir isod.

Gorfodol

Dulliau Ymchwil Archeolegol

(30 credydau)

Dewisol

Sgiliau Ymarferol ar gyfer yr Archeolegydd

(30 credydau)

Dylunio a Chyflwyno Prosiect Archeolegol

(30 credydau)

Treftadaeth yn y Byd Gwleidyddol: Cymunedau ac Agweddau Cymharol

(30 credydau)

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Lleoliad Gwaith

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: adroddiadau, traethodau, dadansoddi gwrthrychau, dadansoddiadau cymharol, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â gradd mewn archaeoleg ond a hoffai ddewis modiwlau mwy ymarferol i’w helpu i wella eu rhagolygon gyrfa ym maes archaeoleg.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau