Skip page header and navigation

Gwareiddiadau Hynafol (Llawn amser) (MRes)

Llambed
2 Blynedd Llawn amser

Mae’r MRes mewn Gwareiddiadau Hynafol yn rhaglen unigryw, sydd ar gael ar y campws ac fel gradd dysgu o bell.

Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr henfyd astudio gwahanol agweddau ar hanes, archeoleg, a diwylliant gwareiddiadau hynafol amrywiol o’r hen Aifft i Mesopotamia, o’r Oes Efydd Aegeaidd a’r cyfnod Neolithig yn y Dwyrain Agos i Tsieina hynafol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
1. Cyfle i ddatblygu eich diddordebau ymchwil personol yn yr henfyd.
02
2. Cewch gyfle i archwilio Oes Neolithig ac Efydd y Dwyrain Agos, crefydd yr hen Aifft, crefydd Tsieina, celfyddyd Mesopotamia a'r Dwyrain Agos, yn ogystal â'r Oes Efydd Aegeaidd.
03
3. Byddwch yn dysgu sut i archwilio dehongliadau amrywiol o'r gorffennol a gyflwynwyd gan arbenigwyr a defnyddio'r rhain fel fframwaith ar gyfer eich dehongliadau eich hun.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs Gwareiddiadau Hynafol (MRes) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â’u bryd ar astudio’r byd hynafol (yr Aifft, Mesopotamia, yr Oes Efydd Aegeaidd a Tsieina hynafol) i ymgymryd â gradd arbenigol a dwys o ran ymchwil, wedi’i theilwra i’r diddordebau hynny ac i fynd ar drywydd eu hymchwil annibynnol eu hunain i raddau mwy helaeth nag ar gyfer MA.


Mae’r cwrs MRes yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n mwynhau ymchwil annibynnol. Mae’r MRes yn cynnwys dau fodiwl a addysgir sy’n werth 60 credyd gyda’i gilydd, ond mae prif ffocws y radd ar ddarn hirach o ymchwil unigol (30,000 o eiriau). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr drafod eu hymchwil arfaethedig gyda’r Ysgol cyn gwneud cais, a rhaid i’r ymchwil arfaethedig ddod o dan un o’r meysydd goruchwylio a gynigir gan y staff - o’r hen Aifft, y Dwyrain Agos Neolithig a’r Oes Efydd Aegeaidd, Cyprus neu’r Dwyrain Agos, Mesopotamia a Tsieina hynafol.


Mae’r cwrs Gwareiddiadau Hynafol (MRes) yn dechrau gyda modiwl arbenigol ar Fethodoleg Ymchwil sy’n cyflwyno’r amryw ffynonellau, deunyddiau, damcaniaethau a methodoleg ar gyfer astudio’r byd hynafol i’r myfyrwyr. Yna caiff y myfyrwyr y cyfle i ddewis un modiwl sy’n canolbwyntio ar agwedd ar wareiddiad hynafol o’u dewis (crefydd yn yr Oes Neolithig ac Oes Efydd Dwyrain ardal Môr y Canoldir, celf o Mesopotamia i grefydd Aegeaidd, yr Aifft neu Tsieina). Mae’r dewis o fodiwlau a addysgir yn rhoi cyfle nid yn unig i fyfyrwyr archwilio meysydd na chawsant y cyfle i’w hastudio o’r blaen efallai, ond hefyd i arbenigo mewn agwedd benodol ar yr henfyd wrth baratoi ar gyfer y traethawd hir MRes.


Y traethawd hir sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r cwrs Gwareiddiadau Hynafol (MRes), gan fod myfyrwyr yn cael y cyfle i lunio ac ymchwilio i bwnc o’u dewis eu hunain sy’n fwy o ran hyd a dyfnder na’r traethawd MA.


Mae hyn yn galluogi’r myfyrwyr hynny sy’n ffafrio ymchwil annibynnol, ac efallai sydd â syniad cliriach ar ddechrau’r rhaglen o’r hyn y maent eisiau ei gynnwys yn sail i’w hymchwil, i fynd i’r afael ag ymchwil manwl o fewn rhaglen astudio strwythuredig. Bydd hefyd yn rhagarweiniad ardderchog i fyfyrwyr ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel MPhil neu PhD.

Gorfodol

Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir

(30 credydau)

Traethawd Hir MRes (Hen Fyd)

(120 credydau)

Dewisol

  •  

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Celf a Chynrychiolaeth yn y Hen Ddwyrain Agos

(30 credydau)

Crefydd yr Hen Aifft

(30 credydau)

Crefyddau yn Tsieina, 1500 CCC - 500 CC

(30 credydau)

Rhufain a Chefnfor India: Y Byd Clasurol mewn Cyd-destun Byd-eang

(30 credydau)

Newid Crefyddol a Gwytnwch: Astudiaeth achos Amarna

(30 credydau)

Gorfodol

Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir

(30 credydau)

Traethawd Hir MRes (Hen Fyd)

(120 credydau)

Dewisol

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Crefydd yr Hen Aifft

(30 credydau)

Celf a Chynrychiolaeth yn y Hen Ddwyrain Agos

(30 credydau)

Crefyddau yn Tsieina, 1500 CCC - 500 CC

(30 credydau)

Bywyd yn Anialwch Dwyreiniol yr Aifft

(30 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.

    Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af ar gyfer mynediad i raglen Lefel 7. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 

    Mae’n ofynnol i ymgeiswyr drafod eu hymchwil arfaethedig gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn gwneud cais, a rhaid i’r ymchwil arfaethedig ddod o dan un o’r meysydd goruchwylio a amlinellir uchod.

    Fel arfer, mae hyfedredd ymgeiswyr nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn cael ei brofi gydag isafswm sgôr IELTS (neu gyfwerth) o 6.0 a dim llai na 5.5 ym mhob rhan o’r prawf.

  • Bydd y modiwlau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau asesu. Nid oes arholiadau, ac mae pob fformat yn canolbwyntio ar elfen ysgrifenedig neu lafar. Bydd pob elfen ysgrifenedig yn arddangos gwahanol arddulliau o ysgrifennu academaidd ac maen nhw wedi’u cynllunio i annog meddwl yn feirniadol a hunan-fyfyrio. Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y gwahanol fformatau asesu yn uniongyrchol berthnasol i ystod eang o broffesiynau ymchwil cymhwysol a thu hwnt.

    • Adolygiad Systematig
    • Papur Briffio
    • Cyflwyniad Proffesiynol
    • Asesiad Sgiliau Ymarferol
    • Traethawd Myfyriol
    • Portffolio o gymwyseddau
    • Cynnig ymchwil
    • Papurau ymchwil
  • Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau