Skip page header and navigation

Gwareiddiadau Hynafol (Llawn amser) (PGCert)

Llambed
6 Misoedd Llawn amser

Mae’r MA mewn Gwareiddiadau Hynafol yn rhaglen unigryw, sydd ar gael ar y campws ac fel gradd dysgu o bell.

Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr henfyd astudio gwahanol agweddau ar hanes, archeoleg, a diwylliant gwareiddiadau hynafol amrywiol o’r hen Aifft i Mesopotamia, o Wlad Groeg Glasurol a Rhufain i Tsieina hynafol, o’r Oes Efydd Aegeaidd i Geltiaid gorllewin Ewrop.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Misoedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Os hoffech ddysgu mwy am archeoleg, hanes a chrefydd diwylliannau amrywiol yr henfyd y tu hwnt i Wlad Groeg a Rhufain, mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol i chi.
02
Byddwch yn gallu dewis o blith ystod eang o bynciau sy’n cael eu haddysgu gan ddarlithwyr prifysgol profiadol sy'n arbenigwyr yn eu maes.
03
Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag amrywiaeth o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd meistr amlddisgyblaethol unigryw hon yn caniatáu i fyfyrwyr astudio amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys y meysydd canlynol: Archaeoleg Aegeaidd a’r Dwyrain Agos, Hanes yr Henfyd, Eifftoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Tsieineaidd, yr Hen Destament, astudiaethau rhywedd, crefydd, ac eiconograffeg.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr henfyd ar gyfer y rhaglen hon, gan ei bod yn manteisio ar amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau a dulliau deallusol.

Gorfodol

Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir

(30 credydau)

Traethawd Hir MA Gwareiddiadau Hynafol

(60 credydau)

Dewisol

  • Newid Crefyddol a Gwydnwch: Astudiaeth achos Amarna (30 credyd)

Rhufain a Chefnfor India: Y Byd Clasurol mewn Cyd-destun Byd-eang

(30 credydau)

Hanes a Diwylliant yr Henfyd Diweddar

(30 credydau)

Celf a Chynrychiolaeth yn y Hen Ddwyrain Agos

(30 credydau)

Crefyddau yn Tsieina, 1500 CCC - 500 CC

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
O'r Patriarchiaid i'r Proffwydi: Darllen a Derbyn
Lleoliad Gwaith

(30 credydau)

Dewisol

  • Myth mewn Arwrgerdd Groegaidd a Rhufeinig (30 credyd)
Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir

(30 credydau)

Traethawd Hir MA Gwareiddiadau Hynafol

(60 credydau)

Optional

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Crefydd yr Hen Aifft

(30 credydau)

Celf a Chynrychiolaeth yn y Hen Ddwyrain Agos

(30 credydau)

Crefyddau yn Tsieina, 1500 CCC - 500 CC

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
O'r Patriarchiaid i'r Proffwydi: Darllen a Derbyn
Lleoliad Gwaith

(30 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.

    Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Bydd y modiwlau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau asesu. Nid oes arholiadau, ac mae pob fformat yn canolbwyntio ar elfen ysgrifenedig neu lafar. Bydd pob elfen ysgrifenedig yn arddangos gwahanol arddulliau o ysgrifennu academaidd ac maen nhw wedi’u cynllunio i annog meddwl yn feirniadol a hunan-fyfyrio. Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y gwahanol fformatau asesu yn uniongyrchol berthnasol i ystod eang o broffesiynau ymchwil cymhwysol a thu hwnt.

    • Adolygiad Systematig
    • Papur Briffio
    • Cyflwyniad Proffesiynol
    • Asesiad Sgiliau Ymarferol
    • Traethawd Myfyriol
    • Portffolio o gymwyseddau
    • Cynnig ymchwil
    • Papurau ymchwil
  • Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu mwy am yr henfyd, ond mae hefyd dewis o fodiwlau mwy ymarferol i helpu myfyrwyr i wella eu rhagolygon gwaith.

    Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn rhan-amser eisoes mewn gwaith ac yn dymuno ennill cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o gael dyrchafiad yn eu swydd neu newid rôl eu swydd.

    Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth neu dreftadaeth.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau