Skip page header and navigation

Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd (Llawn amser) (MA)

Llambed
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar astudio ac ymchwilio i grefyddau, ieithoedd a thestunau nodedig hynafol Tsieina.

Bydd myfyrwyr yn astudio ‘doethineb hynafol’ Tsieina, sydd o arwyddocâd diwylliannol ac sy’n cael ei hystyried yn gynyddol berthnasol i bryderon cyfoes, megis llesiant personol a chymdeithasol a chynaliadwyedd.

Bydd y cwrs MA mewn Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn apelio’n arbennig at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio testunau hynafol Tsieina, datblygu gwybodaeth gyfoethog ac academaidd am destunau Clasurol traddodiadol Tsieina; a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill. 

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu gan y goreuon yn y pwnc ac i astudio gan ddefnyddio’r dull addysgegol unigryw sy’n deillio o fodel addysgol y ‘Ddysgeidiaeth Fawr Frenhinol’ (皇家太学), sy’n dibynnu ar astudiaeth destunol ddwys a myfyrio.

Bydd myfyrwyr yn astudio yn yr Academi Sinoleg yn PCYDDS, sef Academi sydd newydd ei sefydlu yn Llambed sy’n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon Sage, a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol dyddiol a’u gweithgareddau addysgu eu hunain.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag iaith draddodiadol Tsieina a thestunau Bwdhaidd Tsieineaidd ar lefel uwch a’r gwerthoedd ac arferion ysbrydol, diwylliannol a gwleidyddol y maent yn eu hymgorffori.

Bydd Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg (SICH7023) yn canolbwyntio ar wella’r astudiaeth o Sinoleg a’r ddealltwriaeth o iaith a methodolegau Tsieineaidd Clasurol megis beirniadaeth destunol, sylwebaeth, a dadansoddi testun.

Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 1: ‘Swtra Bywyd Anfeidrol’ (SICH7024) yn myfyrio’n feirniadol ar y syniadau athronyddol a chrefyddol sydd yn y Swtra Bywyd Anfeidrol (Tsieineaidd) a’r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.

Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 2: ‘Swtra Deimwnt’ (SICH7025) yn arddangos lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o sylwebaethau beirniadol a myfyrdodau eraill ar y Swtra Deimwnt.  

Bydd Dehongli’r Pedwar Llyfr (SICH7028) yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o destunau allweddol o’r Pedwar Llyfr o wahanol safbwyntiau hanesyddol, diwylliannol ac athronyddol/moesegol. 

Bydd Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol (SICH7029) yn myfyrio’n feirniadol ar yr athroniaethau moesol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n cael eu hegluro mewn testunau penodol o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol, a’r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.

Mae modiwl ychwanegol, sef Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg (SICH7004), yn datblygu lefel uchel o ddealltwriaeth o hanes a dulliau damcaniaethol a methodolegol o gyfieithu testunau Tsieinëeg Clasurol i’r Saesneg.

Gan adeiladu ar y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei haddysgu, mae’r Traethawd Hir (SICH7022) yn caniatáu i’r myfyrwyr gynhyrchu darn sylweddol o waith ysgolheigaidd ar astudiaeth destunol Fwdhaidd Tsieineaidd.

Traethawd Hir: Astudiaethau Testunau Tsieineaidd Clasurol

(60 credydau)

Dehongliad o'r Pedwar Llyfr

(20 credydau)

Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg

(20 credydau)

Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg

(20 credydau)

Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol

(20 credydau)

Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 1: 'Sutra Bywyd Anfeidrol'

(20 credydau)

Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 2: 'Sutra Deimwnt'

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn seiliedig ar gyfweliad gyda staff addysgu perthnasol yn y Brifysgol a’r Academi Sinoleg. 

    Mae natur ddwyieithog y rhaglen yn gofyn am rywfaint o gymhwysedd mewn Tsieinëeg a Saesneg.

  • Mae ein gradd MA Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng y Saesneg a Tsieinëeg Hynafol, yn dibynnu ar y modiwl penodol sy’n cael ei astudio. 

    Mae dulliau asesu yn cynnwys traethodau, cyfieithu i Tsieinëeg fodern neu i’r Saesneg, cyfieithu gydag anodiadau neu sylwebaeth feirniadol, cyflwyniad llafar, portffolio lleoliad dysgu ac, wrth gwrs, y traethawd hir.

    Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae swyddi posibl i raddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:

    • athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau yn Tsieina a’r DU
    • ymchwilwyr academaidd i destunau traddodiadol a thestunau hynafol Tsieina
    • gwaith cyfieithu
    • gweinyddiaeth a pholisi addysgol
    • busnes a mentrau masnachol moesegol
    • mentrau a gwaith cymunedol
    • y diwydiannau gwirfoddol a theithio
    • cadwraeth treftadaeth; gwaith archif ac amgueddfa
    • hyfforddwyr corfforaethol a phersonol mewn ‘athroniaeth’ a sgiliau bywyd hynafol Tsieina

    Mae disgwyl y bydd y graddedigion ar y rhaglenni hyn yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd sy’n cynnwys sgiliau wrth drin gwybodaeth a chyfathrebu uwch; lefelau uchel o hunanreolaeth a rheoli prosiect; cymhwyso sgiliau lefel uchel yn ymarferol wrth ddadansoddi testun a dehongli.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau