Skip page header and navigation

Astudiaethau Celtaidd (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan Amser

Mae’r Astudiaethau Celtaidd (MA) yn rhaglen dysgu o bell unigryw sy’n cynnig i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gyfle i astudio amryw agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd yn eu cartrefi eu hunain.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Os hoffech ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth, crefydd a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol i chi.
02
Gellwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd.
03
Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd meistr amlddisgyblaethol hon yn caniatáu myfyrwyr i astudio ystod eang o bynciau yn y meysydd canlynol: hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol cynnar a diweddar, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth Arthuraidd, llên gwerin, crefydd, ysbrydolrwydd ac eiconograffi.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon (ac eithrio’r Gymraeg), oherwydd bydd y myfyrwyr yn astudio ffynonellau Celtaidd mewn cyfieithiad. Addysgir y rhaglen trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoddir cyfle i fyfyrwyr fireinio’u Cymraeg ysgrifenedig.

Yn Rhan Un gwerth pob modwl yw 30 credyd ac yn ogystal ag astudio’r ddau fodwl gorfodol HPCS7003 Y Celtiaid o’r Cychwyn i’r Cyfnod Modern a HPCS7002 Yr Arthur Celtaidd a chwedlau’r Mabinogi, bydd myfyrwyr yn cael dewis dau fodwl dewisol o blith y rhestr o fodylau dewisol a geir isod.

Wedyn, yn Rhan Dau, rhoddir cyfle i’r myfyrwyr ymchwilio’n fanwl i bwnc sy’n apelio atynt ac ysgrifennu traethawd ymchwil estynedig. Bydd cyfarwyddwr yn eu cynorthwyo ac yn goruchwylio eu hymchwil. Cydweithredwn â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a goruchwylir rhai o’n myfyrwyr MA gan staff y Ganolfan sydd hefyd yn cynnig arbenigedd o’r radd flaenaf ym maes Astudiaethau Celtaidd.

Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr di-Gymraeg ddygu’r Gymraeg.

Gorfodol 

Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau'r Mabinogi

(30 credydau)

Y Celtiaid: o'r Cychwyn i'r Cyfnod Modern

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Astudiaethau Celtaidd)

(60 credydau)

Dewisol

Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o'r Rhanbarthau Celtaidd

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Cymraeg i Ddechreuwyr

(30 credydau)

Adfywio'r Celtiaid: O'r Ddeunawfed Ganrif Hyd Heddiw

(30 credydau)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto i gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ôl-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd ac y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.

  • Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), astudiaethau cymharol, gwerthfawrogiadau ac adolygiadau llenyddol, aseiniadau byrion, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheini sydd am ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r rhanbarthau Celtaidd er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith. Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen yn rhan amser eisoes mewn gwaith cyflog ac yn dymuno cael cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o hyrwyddo neu newid rôl eu swydd. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau twristaidd neu dreftadaeth. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen hefyd i wneud ymchwil bellach mewn Astudiaethau Celtaidd ar lefel PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau