Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (Rhan amser) (PGDip)
Mae Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Lles (MA) yn cynnig cymhwyster ôl-raddedig mewn arferion theatr, drama a pherfformio sy’n gynhwysol ac sy’n digwydd y tu allan i leoliadau theatr traddodiadol gyda, gan ac ar gyfer ystod o gyfranogwyr a chymunedau.
Bydd y rhaglen ôl-raddedig unigryw hon yn eich herio i ddatblygu ac i ymestyn eich arfer. Drwy leoli eich darganfyddiadau a’r hyn y byddwch yn ei ddysgu o fewn maes ehangach theatr gymhwysol, byddwch yn gallu gweld beth yw eich rôl o fewn arfer drama gyfranogol a chanolbwyntio ar eich cwestiynau arfer sy’n dod i’r amlwg.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (MA) yn cynnig cyfres o fodiwlau sy’n dyfnhau ac yn ehangu eich sylfaen o sgiliau ym maes arferion theatr gymhwysol a hwyluso, yn ogystal â’ch annog i ehangu dyfnder a thrylwyredd eich arfer myfyriol er mwyn datblygu arfer theatr gymhwysol effeithiol. Mae’n gyfle i gwestiynu’r trafodaethau beirniadol sy’n digwydd yn y maes ar hyn o bryd, ac i ymateb i’r meysydd mwy problemus o fewn arferion sy’n cynnwys y gymdeithas gyda gwreiddioldeb a dealltwriaeth.
Mae’r rhaglen yn annog ymreolaeth ac annibyniaeth drwyddi draw, yn ogystal ag yn cadw lle gyfer eich arbenigeddau a’ch diddordebau unigol chi, a bydd yn eich helpu i ddatblygu gwaith mewn maes sy’n fwy anghyfarwydd. Mae’r MA yn gorffen gyda Phrosiect Mawr Theatr Gymhwysol, lle byddwch yn gweithio’n annibynnol er mwyn datblygu prosiect sylweddol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.
Mae gan y rhaglen Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (MA) gysylltiadau cryf â sefydliadau a chwmnïau lleol a chenedlaethol gan gynnwys People Speak Up, Hijinx Theatre, Theatr y Torch, Theatr Byd Bach, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales, yn ogystal ag ysgolion a chyfleusterau addysg lleol a byrddau iechyd lleol.
Ynghylch theatr gymhwysol
Mae theatr gymhwysol yn cyfeirio at brosesau drama neu theatr sy’n gyfranogol ac sy’n fwriadol: y bwriad, yn fras, yw gwella bywydau’r unigolion a’r cymunedau sy’n cymryd rhan.
Gall theatr gymhwysol gynnwys: drama mewn addysg, theatr mewn addysg, theatr gymunedol, theatr mewn carchardai, theatr hel atgofion, adrodd straeon, theatr gyda phobl ifanc, theatr stori bywyd, Theatr y Gorthrymedig, theatr ar gyfer datblygu, Theatr Ail-greu, theatr mewn ysbytai, dulliau celfyddydol cyfranogol, moddau therapiwtig a mwy.
Gall ddigwydd yn unrhyw le, mewn ysgolion neu neuaddau cymunedol, mewn ysbytai neu garchardai, mewn cartrefi neu theatrau.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 Credydau)
(30 Credydau)
(30 Credydau)
(60 Credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd gan fyfyrwyr brofiad o’r celfyddydau perfformio a/neu o arfer celfyddydau cyfranogol yn ogystal â gradd 2:2 neu uwch mewn pwnc perthnasol, neu bydd ganddynt brofiad proffesiynol helaeth mewn maes perthnasol. Hefyd, byddwn yn gwahodd pob ymgeisydd i gael cyfweliad anffurfiol a/neu i weithdy lle mae disgwyl iddynt arddangos ymrwymiad priodol mewn gweithdy ymarferol.
-
Nod yr asesiadau yw creu cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu trwy greu cyd-destunau theatr gymhwysol gwirioneddol a rhai efelychiadol. Mae asesu wedi’i gydbwyso’n ofalus ar draws y rhaglen er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o wahanol ffyrdd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar draws y gyfres fodiwlau. Mae’r asesiadau’n seiliedig ar bortffolio a gallant gynnwys: cyflwyniadau, hwyluso prosiectau, hwyluso gweithdai, dogfennau ysgrifenedig, traethodau gweledol, perfformiadau byw a dyddiaduron myfyriol.
-
Costau teithio ar gyfer brosiectau a lleoliadau: Hyd at £300, gorfodol
Gliniadur/offer cyfrifiadurol personol ar gyfer aseiniadau: Hyd at £500, i’w ysgwyddo o reidrwydd
Offer ar gyfer arwain gweithdai: Hyd at £200, dewisol
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â theithiau amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.