Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth (Llawn amser) (DipAU)
Nod y rhaglen hon yw rhoi i chi wybodaeth gynhwysfawr, sgiliau ymarferol ac ymagweddau arloesol at brosesau dylunio modurol a thrafnidiaeth cynaliadwy, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r fframwaith amgylcheddol, cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol y byddwch yn gweithio ynddo. Mae’r rhaglen yn llwyddiannus iawn ac mae wedi cynhyrchu nifer o raddedigion nodedig sydd wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr yn eu maes.
Cyflwynir y rhaglen gan dîm profiadol o Ddylunwyr Modurol sefydledig, wedi’u cefnogi gan ddarlithwyr ac ymarferwyr gwadd a thîm technegol profiadol. Mae’n cynnwys rhaglen BA pedair blynedd gyda lleoliad diwydiannol dewisol.
Caiff sgiliau traddodiadol, yn cynnwys modelu clai eu haddysgu ochr yn ochr â thechnolegau mwy newydd fel dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD), Rhith Wirionedd a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAM).
Nod y rhaglen yw addysgu dylunwyr, cerflunwyr clai a digidol a modelwyr caled yn y diwydiant dylunio modurol a thrafnidiaeth (yn cynnwys badau hwylio a dylunio beiciau modur) sy’n hyfedr i fodloni anghenion amgylchedd cyfoes ac amgylchedd y dyfodol.
Trwy fabwysiadu ymagwedd fwy cynhwysfawr, byddwch yn gallu bod yn ymaddasol, dyfeisgar a chynhyrchiol wrth fodloni heriau dyfodol dylunio modurol a thrafnidiaeth gyda meddylfryd a fydd yn ystyried agweddau amgylcheddol, cymdeithasol a chynaliadwy.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dosbarthiadau bach o fyfyrwyr
- Mae’r tîm Academaidd yn cynnwys Dylunwyr hynod brofiadol
- Prosiectau Dylunio Byw
- Cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Cysylltiadau â’r diwydiant
- Cyfle i symud ymlaen i Raglen Gradd Meistr
- Wedi’i leoli ar lan y môr mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i hwyluso datblygiad dylunydd trwy atgynhyrchu amgylchedd proffesiynol, gan annog graddedigion i fynd i’r afael â’r her ddylunio yn yr un modd â dylunydd modurol proffesiynol.
Bydd ein graddedigion yn gallu creu syniadau ynghylch pecynnau peirianneg, sefydlu tueddiadau newydd o ran iaith ddylunio a dysgu am gyfraneddau. Byddwch yn cysylltu dyluniad penodol â brand; yn dychmygu symudedd y dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithlon, cynaliadwy a deniadol; yn dylunio mathau o gludiant gyda dull ‘o’r tu mewn allan’; ac, yn bwysicaf oll, yn troi darlun yn realiti.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Mae cymwysterau’n bwysig, fodd bynnag, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@pcydds.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
-
Asesir trwy waith cwrs, yn ysgrifenedig ac yn ymarferol. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol trwy gydol modwl, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu trwy gydol y cwrs sy’n cynnwys, ymhlith eraill, y canlynol:
Tiwtorialau Anffurfiol
Cynhelir y tiwtorialau hyn yn rheolaidd, ar draws pob lefel. Ym Mlwyddyn 1, mae pob myfyriwr yn gweld ac yn trafod ei waith gydag aelod o staff ym mhob sesiwn stiwdio, ac yn yr un modd ym Mlwyddyn 2. Mae myfyrwyr y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn tueddu i weithio’n fwy annibynnol ac maen nhw’n cofrestru ar gyfer tiwtorial pan fyddant yn teimlo bod angen. Fodd bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr ym Mlwyddyn 3 yn cael ei weld gan o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod cyfle i weld staff mor rheolaidd ag y dymunwch.
Tiwtorialau Ffurfiol
Cynhelir y rhain ddwywaith y tymor gydag o leiaf dau aelod o staff. Trafodir y gwaith, datblygiad ymarferol a chysyniadol, bwriadau’r myfyriwr i’r dyfodol ac ati. Mae’n gyfle i’r naill barti neu’r llall godi unrhyw broblemau/pryderon. Caiff adroddiad ysgrifenedig o’r tiwtorial ei ddyblygu, a bydd y myfyriwr yn cadw un copi a chaiff y llall ei storio yn ei ffeil cofnodion.
Beirniadaethau grwp
Cynhelir y rhain yn rheolaidd, ar draws pob lefel, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn modd strwythuredig yn ogystal â chael mewnbwn gwerthfawr gan staff.
Cyflwyniadau Anffurfiol a Ffurfiol
Mae natur y cyflwyniadau’n amrywio yn ôl y lefel: ym Mlwyddyn 1, cyflwynir cyflwyniadau anffurfiol hanner ffordd drwy’r semester cyntaf er mwyn helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth sôn am eu gwaith gyda’u cyfoedion a staff. Maen nhw fel arfer yn rhan o’r asesiad ar ddiwedd pob prosiect hefyd. Disgwylir i fyfyrwyr ail flwyddyn roi Cyflwyniad Ffurfiol fel rhan o’u Modwl Arfer Proffesiynol a Dylunio Grŵp ac ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o’u Prosiect Mawr. Ym Mlwyddyn 3, mae Cyflwyniad Ffurfiol yn rhan o’r asesiad terfynol yn y Sioe Raddio.
Arddangos gwaith
Eto, mae natur hyn yn amrywio yng nghyd-destun y prosiectau, y gwaith i’w asesu a chyfnod y rhaglen - o ran ffurfioldeb, gall amrywio o fod mewn lleoliad cyhoeddus i fod wrth ddesg y myfyriwr unigol.
-
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Lleoliad
Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a’r cyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Astudio Dramor
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am flwyddyn yn Ewrop, UDA neu Ganada
-
Mae graddedigion ein cyrsiau wedi dod o hyd i swyddi gyda rhai o enwau mwyaf sefydledig y byd mewn gweithgynhyrchu ac ymgynghoriaeth dylunio megis:
- Adidas
- Aston Martin
- Callum Design
- Daimler Truck Usa
- Envisage Group
- Futura Design
- Gordon Murray Design
- Jaguar
- Jaguar Svo
- Icona Design
- Kiska
- Land Rover
- Lotus
- Mclaren Automotive
- Morgan
- Pininfarina
- Priestman Goode
- Puma
- RDM Group
- Renault
- Rolls Royce
- SAIC
- Tata
- Triumph