Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (BSc Anrh)
Mae’r rhaglen hon yn gymhwyster cydnabyddedig ym maes iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn darparu rhaglen o astudiaethau blaengar sy’n berthnasol i yrfaoedd o fewn swyddogaethau cynradd gofal ym maes iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc sy’n cyfoethogi eich gallu i ymgymryd â grymoedd ymchwilio, adfyfyriol, dadansoddol a rhesymu mewn cyd-destun.
Ar y rhaglen hon, byddwch yn dysgu i ddeall y theorïau sy’n gysylltiedig â datblygiad a llesiant plant a phobl ifanc, ac i roi gwybodaeth ddamcaniaethol am ddatblygiad a llesiant ar waith i gyfoethogi gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o heriau cyfoes perthnasol i’r ddisgyblaeth sy’n wynebu unigolion, sefydliadau, cymunedau a chymdeithas, o bersbectif lleol, cenedlaethol a byd-eang. Byddwch yn codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r rôl mae Iechyd Cyhoeddus yn ei chwarae wrth ymateb i faterion cyfoes sy’n effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau a phoblogaethau.
Byddwn yn ffocysu ar ddatblygu eich sgiliau astudio annibynnol a dysgu gydol oes. Bydd hyn yn rhoi i chi sylfaen ar gyfer cwblhau eich rhaglen radd yn llwyddiannus, yn cefnogi eich cyfleoedd gwaith yn y dyfodol ac yn datblygu’r sgiliau a’r medrau sydd eu hangen ar gyfer gwydnwch gyrfaol a datblygiad proffesiynol yng nghyd-destun gwaith y dyfodol.
Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ogystal â bod yn fan cychwyn ardderchog i’r rhai sy’n ansicr o’u nodau gwaith yn y sector iechyd a gofal plant a phobl ifanc, ond gall agor drysau ym myd gwaith sy’n para gydol eich gyrfa. Mae’n cynnig ystod eang o sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd yn cynnwys addysg, seicoleg, ymchwil ac iechyd a lles plant.
Mae rhaglenni’r Portffolio Iechyd wedi’u hintegreiddio’n bwrpasol i ganiatáu mynediad ac ymadawiad hyblyg rhwng llwybrau a chyrsiau. Ar ddiwedd pob blwyddyn gallwch symud ymlaen i wahanol raglen os bydd eich dewisiadau gyrfa neu gyfleoedd cyflogaeth yn newid.
Mae myfyrwyr blaenorol wedi defnyddio’r radd hon i gael swyddi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae myfyrwyr blaenorol hefyd wedi defnyddio’r cwrs hwn fel platfform i astudiaethau pellach ym maes iechyd, gwaith cymdeithasol, seicoleg ac addysgu plant.
Rydym yn cynnig mynediad i sefydliadau a phobl allweddol o fewn y sector iechyd. Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Sylwch fod pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. Gallwn hefyd wneud cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar eich profiad bywyd neu waith.
I ymgeiswyr sy’n dymuno astudio am gymhwyster Diploma AU (dwy flynedd), bydd cynnig yn cael ei wneud yn seiliedig ar eich profiad addysgol a chyflogaeth.
I’r rhai sy’n dymuno astudio’r BSc (tair blynedd) bydd angen i chi fod wedi sicrhau o leiaf 88 o bwyntiau UCAS.
-
Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, blogiau adfyfyriol a phortffolios proffesiynol.
Gofynnir i chi ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a sgiliau trefnu ar gyfer eich aseiniadau.
-
Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gennym gymorth cyflogaeth cryf iawn a system profiad gwaith yn y Portffolio Iechyd.
Rydym yn cysylltu a gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar gyfer gwaith â thâl a heb tâl ar gyfer myfyrwyr.
Yn arbennig, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc mewn rhyw ffordd yn barod
Sylwch nad yw’r cwrs hwn yn cymryd lle’r cymhwyster Lefel 3 CCLD. Os ydy’ch swydd, rôl neu yrfa’n gofyn am y cymhwyster hwn, rydym yn argymell i chi ei wneud ar wahân.