Ymarfer Gofal Iechyd (Rhan amser) (CertHE)
Mae Tyst AU a Dip AU Ymarfer Gofal Iechyd wedi’u cynllunio i alluogi unigolion sy’n dyheu am weithio mewn proffesiwn sy’n ymwneud â gofal iechyd, i gwblhau cymhwyster ffurfiol cydnabyddedig ar lefel pedwar (TystAU) neu lefel pump (DipAU).
Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal tosturiol a datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen yn sail i ymarfer effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Cewch chi gipolwg ar agweddau allweddol ar ymarfer gofal iechyd gan gynnwys gweithio integredig, ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a datblygiad proffesiynol, wrth archwilio hefyd gysyniadau a damcaniaethau biolegol, cymdeithasol a seicolegol sylfaenol.
Mae’r rhaglenni’n darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymhwyster sy’n cynyddu tebygolrwydd ymgeiswyr gradd o gael mynediad i’w gradd dewis cyntaf. Wrth astudio mae myfyrwyr yn parhau i wneud cais i’w rhaglen gradd ddewisol ac yn gadael cwrs Y Drindod Dewi Sant ar ddiwedd blwyddyn un neu ddau yn dibynnu ar bryd y byddan nhw’n ennill eu lle.
O 2024 ymlaen, bydd y cwrs hwn yn disodli ein cyrsiau Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd presennol (yn amodol ar ei ddilysu)
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o brofiad diwydiant nyrsys cymwys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n dysgu ar y rhaglen. Mae cyfuniad o’u canfyddiadau proffesiynol a’u trylwyredd academaidd yn sicrhau bod yr hyn a ddysgwch bob amser wedi’i yrru gan ymarfer a’i lywio gan ymchwil.
Bydd cwblhau’r Dystiolaeth Addysg Uwch/Diploma Addysg mewn Ymarfer Gofal Iechyd, yn eich galluogi i ddilyn gyrfa sy’n gysylltiedig ag iechyd; gwnewch gais am raglenni hyfforddiant proffesiynol pellach megis nyrsio cyn-gofrestru, bydwreigiaeth, gofal iechyd perthynol, gwyddor barafeddygol neu ewch ymlaen i astudiaethau pellach yn un o’n rhaglenni gradd (BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc, BSc Rheolaeth Iechyd a Gofal).
Gorfodol
Gorfodol
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.
- Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
- Os ydych chi’n siarad Cymraeg
- Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
- Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
- Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.
Angen DBS Manwl Plant ac Oedolion.
-
Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.
Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.
Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.
- Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
- Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
- Cyflwyniadau
- Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
- Prosiectau ymchwil
- Blogiau adfyfyriol
- Mentora gan gymheiriaid
- Beirniadaeth fideo
- Traethodau
- Adroddiadau
- Profiad gwaith/lleoliadau.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.
Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.
I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.