Skip page header and navigation

Dr Pierangelo Marco Scravaglieri MArch (Hons), PhD

Image and intro

male staff profile smiling

Darlithydd mewn Dylunio Amgylcheddol

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)

E-bost: p.scravaglieri@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rwy’n addysgu a chefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn Dylunio Amgylcheddol, gan weithio’n annibynnol a chydweithredol. Mae fy rôl yn cynnwys cyflwyno darlithoedd, seminarau, gweithdai, a thiwtorialau, yn ogystal â dylunio deunyddiau addysgu, asesiadau, a goruchwylio ymchwil a thraethodau hir myfyrwyr. 

Rwy’n darparu arweiniad academaidd a phersonol cynhwysfawr i fyfyrwyr, yn cymryd rhan mewn ymchwil ysgolheigaidd, ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus. Yn ogystal, rwy’n rheoli gwahanol gyfrifoldebau gweinyddol ac yn cydweithio’n weithredol gyda chydweithwyr yn y DU, Ewrop, a Tsieina, gan gyfrannu at dwf a diwylliant y ddisgyblaeth academaidd.

Cefndir

Rwy’n dod yn wreiddiol o Catania, yr Eidal, lle cefais radd Meistr anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Pensaernïaeth a Pheirianneg Adeiladu. Wedi fy ngyrru gan angerdd am arfer creadigol mewn pensaernïaeth, dilynais astudiaethau doethurol ym Mhrifysgol Newcastle, lle archwiliais isadeiledd hylifau, cyfrifiant analog a photensial pensaernïol hylifau yn fy ymchwil PhD, o’r enw Liquid Architecture: Experimental Practices of Design in a State of Flux. Trwy herio’r egwyddor firmitas Fitrwfaidd, roedd fy ngwaith yn edrych ar heriau cymhleth a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, fel bioadweithyddion a ‘systemau gwlyb’ eraill, trwy gynrychiolaeth ailadroddol a phrototeipiau pensaernïol. Gwnaeth fy ymchwil, a gyhoeddwyd gan Routledge yn 2024, herio paradeimau pensaernïol traddodiadol a chyflwyno ymagwedd weledigaethol at ddylunio cynaliadwy, rwyf i’n dadlau ei fod yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â heriau cymhleth mannau deinamig, aml-asiant yn yr 21ain ganrif. 

Trwy gydol fy noethuriaeth, cymerais ran mewn nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol gyda’r gyfadran ym Mhrifysgol Newcastle a sefydliadau Ewropeaidd eraill. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, cymerais ran mewn arddangosfeydd a biennales pensaernïaeth flaenllaw, gan gynnwys Eco-Visionaries: Art for a Planet in a State of Emergency yn eiddo Matadero ym Madrid (2019), Self-Built Utopias yn rhan o’r ‘Innovation Route’ yn y ‘Great Exhibition of the North (GEOTN)’ yn y ‘Northern Stage’, Newcastle upon Tyne (2018), Tallinn Architecture Biennale 2017: BioTallinn yn Amgueddfa Pensaernïaeth Estonia, Tallinn (2017), a llawer o rai eraill ar draws Ewrop. 

Yn Brif Ddylunydd prosiect Living Architecture (LIAR), archwiliais sut mae gwybodaeth pensaernïaeth yn esblygu mewn ymateb i newidiadau economaidd a hinsawdd parhaus. Cafodd fy ngwaith ei gydnabod gan Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) ac Agenzia Spaziale Italiana (ASI), a ddyfarnodd i mi ysgoloriaeth ar y cyd i fynychu’r Rhaglen Astudiaethau Gofod yn 2022. Caniataodd y rhaglen hon, dan arweiniad y Brifysgol Ofod Ryngwladol (ISU), i mi archwilio croestoriad pensaernïaeth ac astudiaethau gofod ymhellach - thema gylchol yn fy addysgu a’m hymchwil - gan ehangu cwmpas ac effaith fy ngwaith. Ar hyn o bryd rwy’ cymryd rhan mewn nifer o brosiectau dylunio sy’n tarddu o’m rhwydwaith estynedig yn y Brifysgol Ofod Ryngwladol - lle mae proffiliau pensaernïaeth yn dal i fod yn lleiafrif - yn datblygu ymchwil aflonyddgar yn gynhyrchiol ar gyfer cenhedlaeth nesaf pensaernïaeth ofod.

Aelod O

  • Ysgol Bensaernïaeth Manceinion – Confensiwn TECHNICA

  • Prifysgol Northumbria – Space IDRT 

  •  ‘The Cultural Negotiation of Science (CNoS)’ 

  • Prifysgol Ofod Ryngwladol (ISU)

Diddordebau Academaidd

Rwyf wedi addysgu myfyrwyr pensaernïaeth yn nifer o sefydliadau’r DU ers 2017, gan gynnwys Prifysgol Newcastle, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, a Phrifysgol Sheffield. Mae fy mhrofiad yn cwmpasu cydlynu a darparu ystod eang o fodylau ar draws rhaglenni Meistr a Baglor, yn ogystal â goruchwylio myfyrwyr israddedig a PhD. Ar hyn o bryd, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rwy’n gweithredu dulliau addysgu creadigol sy’n herio ffyrdd o feddwl confensiynol, yn meithrin dadlau, ac yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol trwy dechnegau gwneuthuriad digidol ac analog. Ymhlith y modylau rwy’n eu haddysgu mae Time in Design Practices a Transdisciplinary Design, lle rwy’n archwilio’r croestoriad deinameg amseryddol ac ymagweddau cydweithredol ar ddylunio, gan annog myfyrwyr i feddwl tu hwnt i ffiniau pensaernïol traddodiadol.  

Rwy’n ymrwymo’n llwyr i ddatblygu tegwch a chyfiawnder cymdeithasol ym mhob agwedd ar fy ngwaith proffesiynol ac academaidd. I’r perwyl hwn, rwy’n cefnogi’n weithredol mentrau sydd wedi’u hanelu at hyrwyddo amgylchedd dysgu cynhwysol ac amrywiol, yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau cyhoeddus ac yn cyfrannu at adolygiadau cwricwlwm. Gyrrir fy ngwaith gan awydd i ymdrin â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan sicrhau bod fy nghyfraniadau yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned academaidd a chymdeithas yn ehangach. Yn wir, rwy’n ffynnu mewn lleoliadau trawsddisgyblaethol ac yn alinio’n llawn gyda gweledigaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i arloesi rhaglen addysgol trawswladol sy’n cydnabod y byd fel un gymuned ryng-gysylltiedig. Rwy’n cydweithio gyda chydweithwyr ledled y byd i symud y genhadaeth yma ymlaen, sydd â brys arbennig yn sgil yr argyfwng hinsawdd cyfredol, ac sy’n mynnu datrysiadau/penderfyniadau creadigol, byd-eang a chydweithredol.

Diddordebau ymchwil

Mae fy agenda ymchwil yn canolbwyntio ar dri phrif faes: a) integreiddio egwyddorion ecolegol i’r datrysiadau peirianneg a dylunio seiliedig ar ofod, b) archwilio effeithiau newidiadau o ran dylunio bensaernïol yng nghyd-destun newid hinsawdd, ac c) archwilio dimensiynau cyffredinol pensaernïol. Gan adeiladu ar y themâu hyn, rwy’n datblygu dau gynnig ymchwil ar hyn o bryd.

Mae’r cyntaf, Microgravity Design and Research for Spaceship Earth, yn defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg i ymchwilio goblygiadau pensaernïol amgylcheddau microddisgyrchiant. Mae’r ail, Inverted Architecture, yn ailfeddwl ein ffordd o fyw ar y Ddaear trwy fanteisio ar yr effaith trosolwg y mae gofodwyr yn ei brofi. Rwy’n awyddus i gydweithio gyda, a goruchwylio, myfyrwyr PhD sydd â diddordeb yn y meysydd hyn

Arbenigedd

Rwy’n ddylunydd arbrofol sy’n angerddol am integreiddio egwyddorion ecolegol ym maes Dyniaethau amgylcheddol sy’n dod i’r amlwg, a hynny o fewn cyd-destunau rhyng- a thraws-blanedol. Mae fy nhaflwybr proffesiynol wedi’i nodi gan waith cydweithredol rhyngwladol ar draws sefydliadau academaidd, partneriaid diwydiant ac arferion pensaernïol.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Scravaglieri, P. M. (2024). Liquid Architecture: Experimental Practices of Design in a State of Flux. Llundain: Routledge.  

Scravaglieri, P. M., et al. (2022). ProKryos: protein crystallization for the benefit of people. Illkirch-Graffenstaden (France): Prifysgol Ofod Ryngwladol. 

Scravaglieri, P. M. (2022). Liquid Architecture: design in a state of flux. yn A. Mason & A. Sharr (Gol.), Creative Practice Inquiry in Architecture (tt. 230-239). Efrog Newydd: Routledge. 

Scravaglieri, P. M. (2019). Study of living wall. yn L. Yee, C. Foote, T. Fombella (Gol.), Is This Tomorrow? (tt. 141-149). Llundain: Whitechapel Gallery.  

Scravaglieri, P. M. (2018). Responsive Bricks. yn R. Armstrong, R. Hughes, & S. Ferracina (Gol.), Living Bricks (tt. 50-53). Newcastle upon Tyne: Experimental Architecture Group. 

Arddangosfeydd

Gorff  2024 - In and Out of Love: A Liquid Odyssey 

Arts Tower, Sheffield 

Yn cynnwys Mitra Cheraghi & Ralph Mackinder 

Arddangosyn: Fideo trochol a gosodwaith sain am gariad fel mynegiant creadigol a chymhlethdodau’r cyflwr dynol mewn byd sy’n newid o hyd. 

Mawrth 2024 - Liquid Architecture: Three Operators 

Arts Tower, Sheffield 

Arddangosynau: Living Bricks, dwy fricsen wedi’u ‘hacio’ sy’n defnyddio technoleg Cell Tanwydd Microbaidd (MFC); Flow Reader III, prototeip ymatebol sy’n defnyddio hylifau i ddelweddu’n gelfyddyd sut mae pobl yn symud trwy ofodau; a QUIC-PBR, uned Photobioymatebydd (PBR) arbrofol. 

Mehefin – Hydref 2019 - Eco-Visionaries: Art for a Planet in a State of Emergency 

Matadero, Madrid 

Yn cynnwys yr EAG gyda John Bowers, Tim Shaw a Ioannis Ieropoulos. 

Arddangosyn: Trace Hall, iteriad cyntaf o brototeip y bydd ei fersiwn terfynol yn defnyddio technoleg Cell Tanwydd Microbaidd (MFC) i yrru profiad defnyddiwr digidol rhyngweithiol. 

 Chwefror - Mai 2019 - Is This Tomorrow? 

Whitechapel Gallery, Llundain 

Yn cynnwys Cécile B. Evans, Rachel Armstrong, Ioannis Ieropoulos, a Simone Ferracina 

Arddangosyn: 999 Years, 13sqm (The Future Belongs to Ghosts), wal ‘fyw’ arbrofol sy’n defnyddio microbau i gynhyrchu posibiliadau newydd ar gyfer tai ym myd technolegol yfory. 

Tachwedd 2018 - Being Human Festival 

The Victoria Tunnel, Newcastle upon Tyne 

Yn cynnwys yr EAG a Labordy Diwylliant (John Bowers, Tim Shaw) 

Gosodwaith: Unquiet Earth: From Victoria Tunnel to Quantum Tunnelling, ymchwiliad i strwythur tanddaearol yn trafod ffyrdd i ailgysyniadu’r gofod trigiadwy fel llif anllinol. 

Mehefin – Medi 2018 - Self-Built Utopias 

Northern Stage, Newcastle upon Tyne 

Yn cynnwys yr EAG a Labordy Diwylliant (John Bowers, Tim Shaw) 

Dylunio arddangosfa a fframwaith curaduraidd: There be Monsters, gosodwaith sy’n darlunio dyfodol gwastraff a phensaernïaeth, gan integreiddio gwaith saith artist sydd wedi’u lleoli yn y DU yn rhan o’r ‘Innovation Route’ yn y ‘Great Exhibition of the North (GEOTN)’. 

Gorffennaf – Awst 2018 - Manifesta12, European Biennale of Contemporary Art – The Planetary Garden 

Palermo, Yr Eidal 

Cymrawd cyfranogol ar gyfer Ingruttati Palermo, un o’r rhaglenni 5x5x5 Addysgol yn rhan o’r Biennale. Gweithgareddau ymchwil dylunio ar seilwaith rhwydwaith ‘ganat’ wedi’i adael Palermo a strwythur cymdeithasol Danisinni, cymuned ynysig a adeiladwyd yng nghorsydd hen ddyfrffordd tu allan i giatiau’r ddinas hynafol. 

Mai – Mehefin 2018 - Living with Adaptive Architecture 

Lakeside Arts Gallery, Nottingham 

Arddangosyn: Flow Reader III, prototeip sy’n cynnwys hylifau a thechnolegau ymatebol.  

Chwefror – Ebrill 2018 - Living Bricks 

Great North Museum: Hancock, Newcastle upon Tyne 

Cyd-guradu: Living Bricks, arddangosfa sy’n trafod gorffennol a dyfodol brics fel mynegeion diddordeb ecolegol ehangach. 

Arddangosynau: Sensory Brick (FRIII) ac Hourglass Brick, dau brototeip sy’n cynnwys hylifau fel ffordd o gronni deunyddiau a systemau delweddu. 

Tachwedd 2017 - Being Human Festival 

Carliol House, Newcastle upon Tyne 

Yn cynnwys Simone Ferracina 

Arddangosyn: A spark of being into the lifeless thing, gosodwaith sy’n ail-ddehongli uwchgylchu ac archif pensaernïol trwy ddarllen yr adeilad gyda thema Ffrankensteinaidd. 

Medi – Tachwedd 2017 - Tallinn Architecture Biennale 2017: BioTallinn 

Amgueddfa Pensaernïaeth Estonaidd (Eesti Arhitektuurimuuseum), Tallinn 

Arddangosyn: Flow Reder II, prototeip sy’n delweddu’n ddichellgar weithgareddau pobl wrth iddynt symud trwy ofod trwy hylifau.

Gwybodaeth bellach

Sgyrsiau 

Mai 2024 - Ysgol Bensaernïaeth Manceinion 

Canolfan Dechnoleg Manceinion 

M.O.N.S.T.E.R. and D.E.F.E.N.D.E.R., rhan o Gonfensiwn TECHNICA 2. 

Mawrth 2024 - Ysgol Bensaernïaeth Sheffield 

Arts Tower, Sheffield 

Liquid Architecture, dan arweiniad Architecture Students for Climate Action (ASCA). 

Tachwedd 2023 - Prifysgol Northymbria 

Squires Cinema, Lipman Hub ac Experimental Studio, Newcastle upon Tyne 

Liquid Architecture, rhan o Space Assembly: The Cultural Negotiation of Space Science. 

Gorffennaf 2023 - Prifysgol Northymbria 

Cymrawd Cyfranogiad ar gyfer Ways of Working: New Models for Interdisciplinary Working between Art, Space Science and Publics, dan arweiniad The Cultural Negotiation of Sgience Group (CNoS) a Space IDRT. 

Gwobrau

Mai – Awst 2022 - Scholarship for Space Studies Program (SSP) 2022 

Y Brifysgol Ofod Ryngwladol (ISU) trwy’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) ac Agenzia Spaziale Italiana (ASI) 

Ariannwyd y prosiect: Liquid Architecture: 

2019 – 2021 - Ysgoloriaeth Ymchwil Ôl-Raddedig 

Ysgol Pensaernïaeth, Cynllunio a Thirlun, Prifysgol Newcastle 

Ariannwyd y prosiect: Liquid Architecture: Experimental Practices of Design in a State of Flux, ymchwil PhD 

Hydref 2016 - Falling Walls Lab 

International Conference on Future Breakthroughs in Science and Society, Naples, Yr Eidal 

Prosiect: Design of Everything: Map for the known Universe 

Awst 2015 - BIG URBAN CRUNCH 

International Ideas Competition of Architecture 

Prosiect: NEZAHUALCÓYOTL CITY VISION: Four-Step-Plan for urban development 

Gorffennaf 2014  - EURegeneration – New Ecotower Hotel in Rome 

International Ideas Competition of Architecture 

Prosiect: CITIES WITHIN THE CITY