Llun a Chyflwyniad
Cydlynydd Prosiect Academaidd (Prentisiaeth Plismona)
Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
E-bost: sarah.jones@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Sarah yw Cydlynydd Prosiect Academaidd y Brentisiaeth Plismona yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
Mae Sarah yn gyfrifol am oruchwylio gweithredu’r contract Prentisiaeth Plismona sydd rhwng PCYDDS a Heddluoedd Gwent a De Cymru. Mae Sarah yn gyfrifol am ddarpariaeth weithredol y rhaglen academaidd.
Mae’n hwyluso addysgu ac asesu heddweision sydd newydd eu penodi, mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau dysgu ac yn cynnig adborth academaidd a bugeiliol a chymorth i fyfyrwyr.
Cefndir
Cyn ymuno â’r Brifysgol, gweithiodd Sarah am 20 mlynedd fel heddwas mewn lifrai. Ymunodd â’r heddlu yn 1999, gan gychwyn ei gyrfa’n 19 oed yn Heddlu Swydd Hertford. Trosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan ac ymgymerodd â nifer o rolau wrth weithio yng Nghanol Llundain.
Yn 2011, trosglwyddodd Sarah ei phrofiad a’i sgiliau i Heddlu De Cymru. Gweithiodd ym maes hyfforddi, gan ddarparu Cwricwlwm ‘Cyn Ymuno’ y Coleg Plismona, yn addysgu’r gyfraith, deddfwriaeth, a chymhwyso i swyddogion newydd eu penodi yn yr ysgol hyfforddi.
Mae gan Sarah gyfoeth o brofiad plismona, wedi gweithio fel swyddog ymateb mewn lifrai, a swyddog cymdogaeth. Mae hi wedi gweithio mewn uned cyffuriau a gwyliadwriaeth dactegol ac wedi gwasanaethu fel swyddog trefn gyhoeddus a swyddog cyswllt troseddau rhywiol. Mae Sarah wedi bod yn rhan o lawer o weithrediadau plismona ar raddfa fawr, lle mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw, fel trychineb olew Buncefield, uwchgynhadledd NATO a gemau Olympaidd 2012.
Cyflwynwyd Cymeradwyaeth i Sarah am ei gwaith a’i hymrwymiad fel Comander efydd yn ystod trychineb olew Buncefield. Yn ddiweddarach dyfarnwyd iddi Gymeradwyaeth Comisiynydd yr Heddlu am arestio terfysgwr yng nghanol Llundain pan nad oedd hi ar ddyletswydd.
Yn ddiweddarach cyflawnodd Sarah ei MA (Meistr yn y Celfyddydau).
Diddordebau Academaidd
Plismona Gweithredol
Meysydd Ymchwil
Arferion Plismona Modern
Gwybodaeth bellach
Mae cyfrifoldebau Sarah yn cynnwys rheoli partneriaethau cydweithredol rhwng heddluoedd a’r brifysgol.