Gwybodaeth am y Fwrsariaeth
Ynglŷn â’r Fwrsariaeth | Efallai caiff myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac mewn addysg uwch ac yn astudio’n rhan-amser gael hepgor eu ffioedd os ydynt yn bodloni amodau penodol, yn amodol ar bryd y dechreuasant eu cwrs. |
Cymwys/Meini Prawf |
Efallai caiff myfyrwyr sy’n astudio llai na 30 credyd y flwyddyn academaidd hon gael hepgor eu ffioedd os ydynt yn astudio gradd gyntaf, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu gwrs addysg uwch israddedig arall sy’n cario credydau a ariannwyd gan MEDR – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Meini prawf cymhwysedd myfyrwyr Rhaid i fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs cymwys: (i) gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cyllid yn ôl y diffiniad a ddarparwyd yn arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) MEDR (ii) byw yng Nghymru (fel arfer byddai cael cyfeiriad yng Nghymru gan y myfyriwr yn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddigonol o’u cartref yng Nghymru). a bodloni un neu fwy o’r amodau a ganlyn: a) mae’r myfyriwr neu deulu’r myfyriwr yn derbyn:
b) mae’r myfyriwr yn derbyn:
c) fod yn un o’r grŵp a ystyrir yn un sydd wedi’i dangyflawni mewn addysg uwch, fel:
At ddibenion meini prawf (a) diffiniad ‘teulu’ yw’r canlynol: pâr priod, partneriaeth sifil neu ddi-briod, neu bâr priod neu ddi-briod, neu bâr mewn partneriaeth sifil sydd â phlant dibynnol, neu unig riant â phlant dibynnol. Rhaid bod cartref myfyrwyr cymwys yng Nghymru. I weld y manylion cymhwysedd llawn, gweler y ddogfen a ganlyn: Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar radd gyntaf, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu gwrs addysg uwch israddedig arall sy’n cario credydau a ariennir gan MEDR – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster sydd o’r un lefel neu lefel is yn gymwys ar gyfer hepgor ffioedd. Nid yw cyrsiau nad ydynt y cario credydau na chyrsiau ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y cynllun. Nid yw myfyrwyr yn gymwys ar gyfer cyllid i ailadrodd cwrs neu unrhyw fodylau neu unedau o fewn cwrs o dan unrhyw amgylchiadau. Dylech hefyd nodi bod y cynllun hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol gan MEDR; fe allai gael ei dynnu’n ôl cyn i chi gyflawni’r cymhwyster llawn. |
Sut i wneud cais | Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. |
Gwerth y Dyfarniad | Hepgor Ffioedd |