Skip page header and navigation

Alessio Reina - Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth (BA Hons)

Alessior yn PCYDDS

Alessio 3

Enw: Alessio Reina

Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch: Dylunio Cynnyrch, Mathemateg a Ffiseg

Tref eich cartref: Maidenhead

Profiad Alessio ar BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Alessio 1

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am y campws yw pa mor agos yw popeth, sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyrraedd pobman. Mae ganddo awyrgylch gwych a golygfeydd hyfryd, o’r môr i’r bryniau.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS gan fod ganddi staff a chyfleusterau ardderchog ar gyfer Dylunio Modurol, gan gynnwys stiwdio ddylunio, stiwdio modelu clai, ystafelloedd cyfrifiadurol a’r holl offer hanfodol sydd eu hangen i ddod â syniadau’n fyw.

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n angerddol am chwaraeon moduro, yn enwedig Fformiwla 1. Rwy’n rhyfeddu at y cyfuniad o ddylunio, peirianneg a strategaeth sy’n rhan o rasio.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Pan fyddaf yn graddio rwy’n gobeithio cael swydd yn y Diwydiant Modurol yn Ddylunydd Modurol neu Fodelwr CAD.

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff ran o’r cwrs yw gweithio yn y stiwdio ddylunio, lle mae’r tri grŵp blwyddyn yn rhannu’r un gofod. Mae’n amgylchedd creadigol sy’n annog cydweithio, gan fy ngalluogi i gyfnewid syniadau, cael adborth a dysgu gan eraill.

Alessio 2

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS gan fod Adeilad IQ mewn lleoliad cyfleus iawn ac mae’r staff a chyfleusterau’n rhagorol.

Gwybodaeth Gysylltiedig