
Rhaglen Fentora
Cynllun gwirfoddol
Fel aelod o’n cymuned o gyn-fyfyrwyr, gallai eich gwybodaeth a’ch profiad chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr heddiw.
Trwy ein Rhaglen Fentora, cewch gyfle i:
-
gysylltu’n uniongyrchol â myfyriwr
-
cynnig arweiniad iddynt
-
rhannu eich taith
-
chryfhau eich sgiliau proffesiynol eich hun ar hyd y ffordd
Mae’r cynllun gwirfoddol hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg, yn foddhaus ac i gael effaith - i chi a’ch mentai.
Become a mentor

Manteision dod yn fentor
Trwy fod yn Fentor, byddwch yn:
-
helpu myfyriwr i feithrin hyder, datblygu sgiliau gyrfa, a chael mewnwelediad i’r byd gwaith
-
gwella eich sgiliau cyfathrebu, hyfforddi ac arwain eich hun
-
eEhangu eich rhwydwaith proffesiynol trwy gysylltiadau newydd
-
profi’r boddhad o roi’n ôl i gymuned PCYDDS
Manteision dod yn fentor
Mae’r rhaglen yn syml ac wedi’i chynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau.
Mae’n cynnwys:
-
hyd: rhaglen dreigl 6 mis
-
ymrwymiad amser: tua 2 awr y mis (ar-lein neu wyneb yn wyneb)
-
paru: byddwch yn cael eich paru â myfyriwr yn seiliedig ar ddiddordebau a lle bo’n bosibl, lleoliad daearyddol. Ar ôl i chi gael eich paru, chi sydd i benderfynu pryd i ddechrau ar eich mentora
-
cefnogaeth: darperir canllawiau ac adnoddau drwy gydol y cyfnod, ynghyd â sesiynau hyfforddi a gwybodaeth i fentoriaid
Eich rôl
Nid eich rôl chi yw darparu’r holl atebion, ond yn hytrach i wrando, annog a rhannu mewnwelediadau o’ch taith eich hun. Gofynnir i chi:
-
gefnogi eich mentai wrth osod a gweithio tuag at eu nodau eu hun
-
bod yn glust i wrando, gan gynnig adborth adeiladol a safbwyntiau ffres
-
annog myfyrwyr i archwilio syniadau, meithrin hunan-gred, a chymryd perchnogaeth o’u dewisiadau
-
cynnal cyfrinachedd a pharch o’r ddwy ochr trwy gydol y berthynas fentora
Mentora anghyfeiriol
Er y gallwch arwain sgyrsiau weithiau, y myfyriwr sy’n gosod yr agenda. Mae eich rôl yn fwy o hwylusydd a hyfforddwr – yn eu tywys, eu herio a’u grymuso i feddwl yn wahanol a datblygu hyder yn eu penderfyniadau.
Cofrestrwch eich diddordeb i ddod yn fentor
Os ydych chi’n barod i helpu i lunio’r genhedlaeth nesaf o raddedigion PCYDDS, cofrestrwch eich diddordeb heddiw i fod yn rhan o’r rhaglen foddhaus hon.