Skip page header and navigation

Llety Canllaw Glirio

Llety Canllaw Glirio

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am le yn PCYDDS drwy’r broses Glirio? Ar ôl sicrhau eich lle ar eich cwrs delfrydol, eich cam allweddol nesaf yw dod o hyd i’r llety myfyrwyr cywir.

Ar ba bynnag gampws y byddwch yn astudio, mae PCYDDS yn darparu ystod o opsiynau llety i ddiwallu eich anghenion a sicrhau proses bontio hwylus i fywyd prifysgol. Gyda chefnogaeth Tîm Llety PCYDDS, byddwch yn cael eich tywys trwy eich dewisiadau bob cam o’r ffordd – p’un a ydych chi’n chwilio am ystafell yn y brifysgol, neu lety preifat.

Opsiynau Llety

Two students chatting in student accommodation

Llety ar y Campws (campws Caerfyrddin yn unig)

Os ydych chi’n astudio ar gampws Caerfyrddin, rydym yn cynnig fflatiau hunanarlwyo ar y campws. Mae’r fflatiau hyn yn cynnwys ystafelloedd sengl i fyfyrwyr gyda chyfleusterau cegin a lolfa a rennir, gan greu man gwych ar gyfer astudio a chymdeithasu. Mae hwn yn opsiwn ardderchog i’r rhai sy’n chwilio am lety yng Nghaerfyrddin.

I wneud cais am lety a reolir gan y brifysgol, ewch i Borth Ymgeisio Hallpad.

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni eich dewisiadau o ran llety myfyrwyr, ni allwn warantu mathau penodol o ystafelloedd neu ddyraniadau. Os nad yw’r ystafell yn y brifysgol y gwnaethoch gais amdani ar gael, byddwn yn cynnig yr hyn sy’n cydweddu orau yn seiliedig ar argaeledd. Os na allwn gynnig llety prifysgol, byddwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i lety preifat addas.


Sicrwydd o Lety yng Nghaerfyrddin

Sicrwydd o lety myfyrwyr yng Nghaerfyrddin i fyfyrwyr sy’n gwneud cais drwy glirio.

Cyrsiau yng Nghaerfyrddin sydd ar gael drwy Glirio.


Bronze bedroom wiht single bed and study space

Darparwyr Llety Myfyrwyr Preifat (campws SA1 Abertawe)

I’r rhai sy’n astudio yn Abertawe, mae PCYDDS wedi partneru â darparwyr llety myfyrwyr preifat ger campws SA1, gan gynnig opsiynau byw amrywiol gyda mynediad rhwydd i gyfleusterau’r brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • St Davids (Student Roost): Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae St Davids yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd myfyrwyr a reolir i’w rhentu yn Abertawe, gan gynnwys ystafelloedd en-suite gyda biliau cyfleustodau hollgynhwysol. Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am brofiad byw cymdeithasol, gyda mannau cymunedol ac yn agos iawn at ganol dinas Abertawe a’ch darlithwyr.
  • Crown Place : Wedi’i leoli ar Farina Abertawe sy’n edrych dros Afon Tawe, mae Crown Place yn darparu llety myfyrwyr o ansawdd uchel yn Abertawe gydag ystafelloedd en-suite, Wi-Fi cyflym, diogelwch 24 awr, a mannau astudio a rennir.

Mae’r opsiynau hyn yn berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am lety yn Abertawe sy’n fodern, yn gyfleus ac yn agos at y campws.

gcgcvg

Eiddo Preifat

Ar gyfer opsiynau mwy annibynnol, mae llwyfannau fel UniHomesStuRents yn cynnig amrywiaeth o dai myfyrwyr i’w rhentu, o fflatiau a rennir i stiwdios i fyfyrwyr. Mae’r llwyfannau hyn yn darparu ar gyfer gwahanol ddewisiadau a chyllidebau, gan ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r lletyau gosod i fyfyrwyr preifat cywir yn agos at ble byddwch chi’n astudio.

Cyn i chi wneud penderfyniad, ystyriwch y canlynol:

  • Agosrwydd at gampws Abertawe, Caerfyrddin neu Gaerdydd
  • Costau rhentu (gan gynnwys cyfleustodau a’r dreth gyngor)
  • Hyd y brydles
  • Dodrefn (gallai eiddo ddod heb ei ddodrefnu)

Ar ôl i chi ddod o hyd i eiddo rydych chi’n ei hoffi, cysylltwch â’r darparwr yn uniongyrchol – fel arfer gallwch wneud cais ar-lein neu dros y ffôn am fwy o fanylion.

Accommodation - cropped

Byw Gartref

Mae rhai myfyrwyr yn dewis byw gartref yn ystod eu hastudiaethau, yn enwedig os ydynt yn byw o fewn pellter teithio i’r campws. Gall yr opsiwn hwn fod yn fwy cost-effeithiol a gallai gynnig amgylchedd cefnogol ar gyfer eich taith academaidd. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried amser teithio a chostau cludiant. Os ydych chi’n penderfynu byw gartref, cynlluniwch eich amser ar y campws ar gyfer darlithoedd, sesiynau astudio, ac i gymryd rhan mewn clybiau a chymdeithasau myfyrwyr.

Sut i Wneud Cais am Lety drwy’r Broses Glirio

Mae gwneud cais am lety drwy’r broses Glirio yn syml. Y ffordd orau o wneud cais yw trwy ein porth ymgeisio Hallpad.

Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu yn ôl y cyntaf i’r felin, felly rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted ag y byddwch wedi cadarnhau eich lle yn PCYDDS.

Er ein bod yn anelu at ddarparu ar gyfer eich dewisiadau, nid yw mathau penodol o ystafelloedd neu ddyraniadau yn cael eu gwarantu. Os nad yw’r opsiwn a ddymunwch ar gael, byddwn yn cynnig yr hyn sy’n cydweddu orau yn seiliedig ar argaeledd cyfredol.

Os na allwn gynnig llety yn Abertawe a reolir gan PCYDDS neu lety ar gampws Caerfyrddin, bydd y Tîm Llety yn eich cefnogi i ddod o hyd  i lety preifat addas, boed hynny drwy UniHome, Unihousing, neu wasanaethau lletyau gosod i fyfyrwyr eraill.

Awgrymiadau Da ar Gyfer Myfyrwyr Clirio:
01
Ymatebwch yn gyflym: Mae llety yn llenwi'n gyflym yn ystod y cyfnod Clirio. Gwnewch gais cyn gynted ag y byddwch wedi cadarnhau eich lle yn PCYDDS.
02
Ystyriwch agosrwydd llety myfyrwyr i'r campws.
03
Rheolwch eich cyllideb yn ddoeth : Ystyriwch y rhent, cyfleustodau a ffioedd ychwanegol wrth gynllunio eich llety myfyrwyr yn Abertawe neu Gaerfyrddin.
04
Sicrhewch eich bod yn deall hyd y brydles.
05
Ar gyfer Eiddo Preifat, darganfyddwch a yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu neu heb ei ddodrefnu.
06
Cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost am ddiweddariadau gan y Tîm Llety ac ymatebwch yn brydlon i unrhyw gyfathrebu.

Mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Llety os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion penodol. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i sicrhau eich ystafell myfyriwr delfrydol.

Archwiliwch beth yw Byw fel Myfyriwr yn PCYDDS

I gael gwell syniad o sut beth yw bywyd yn PCYDDS, edrychwch ar y fideo Byw fel Myfyriwr yn Abertawe. Mae’r fideo hwn yn rhoi mewnwelediad i’r gymuned fywiog o fyfyrwyr, gan arddangos amrywiol opsiynau llety myfyrwyr a phrofiadau go iawn myfyrwyr.

Os ydych chi’n barod i ddechrau ar eich taith, mae Tîm Llety PCYDDS yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r llety myfyrwyr gorau i chi. Allwn ni ddim aros i’ch croesawu i PCYDDS.

Crown Place Kitchen

"Dewisais fyw mewn Neuaddau Preifat i Fyfyrwyr oherwydd ei fod yn gyfleus iawn gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, gwahanol opsiynau ystafell a mynediad at gyfleusterau gwych. Mae fy llety wedi'i leoli mewn lleoliad hyfryd, yn agos i’r afon ac yn agos at fy narlithoedd. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys mannau cegin/bwyta cymunedol, campfa, cyfleusterau adloniant gydag ystafelloedd gemau a charaoce, sinema, lolfeydd a mannau astudio preifat. Mae parcio ar gael a darperir cyfleusterau golchi dillad hefyd."

Aelod o staff yn helpu myfyriwr

Angen Cymorth? Mae'r Tîm Llety yma i'ch helpu chi i lywio'ch opsiynau a dod o hyd i'r hyn sy'n gweddu orau i'ch anghenion. P'un a oes gennych gwestiynau am letyau gosod i fyfyrwyr, mathau o ystafelloedd, prisiau, neu weithdrefnau ymgeisio, bydd ein tîm yn eich cefnogi chi drwy'r broses Glirio.