Skip page header and navigation

Theatr Gerddorol (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerdydd
2 Flynedd Llawn amser

Am Theatr Gerddorol (Llawn amser) Cod UCAS: THG2 ewch i’r ddolen yma 

Mae’r rhaglen Theatr Gerddorol yn rhaglen a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol a fydd yn cymhwyso cyfranogwyr yn y disgyblaethau triphlyg; actio, canu a dawnsio. Drwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol y diwydiant, bydd y rhaglen Theatr Gerddorol yn cynnig cwrs astudio perthnasol i’r diwydiant ac iddo ffocws. Mae athrawon y cwrs yn ymrwymo i ddatblygu artistiaid meddylgar, creadigol, annibynnol; artistiaid sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Wrth astudio Theatr Gerddorol bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth gadarn ac ymarferol o’r ffordd mae’r diwydiant theatr gerddorol yn gweithio, gan ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy a geir drwy’r hyfforddiant i’r byd yn gyffredinol gan gynyddu eu cyfleoedd am gyflogaeth.

Mae Lefel 4 yn ffocysu ar adeiladu egwyddorion sylfaenol, a fydd yn parhau’n berthnasol drwy gydol y radd a thu hwnt. Bydd y flwyddyn gyntaf yn sefydlu’r thema bod theori ac arfer wedi’u plethu. Mae Lefel 5 yn parhau i ddatblygu a gwella’r sgiliau hyn ac yn dechrau eu cymhwyso a’u rhoi yng nghyd-destun perfformiadau cyflawn. Mae Lefel 6 yn cyfoethogi’r sgiliau a’r profiadau a gafwyd ar lefel 5 a 6 mewn ystod o fodylau perfformio ac arfer proffesiynol 30-credyd, yn cynnwys dau gynhyrchiad mawr ac Arddangosfa Berfformio derfynol, gan eich paratoi ar gyfer darpar yrfa ym maes theatr gerddorol neu feysydd cysylltiedig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
MTH2
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd Theatr Gerddorol sy’n darparu hyfforddiant triphlyg
02
Dosbarthiadau bach
03
Addysgir gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Level 4

Cyfnod o ddatblygu sgiliau a thechnegau craidd yw Lefel 4. Mae’r 15 wythnos gyntaf yn gyfle i ganolbwyntio ar ddosbarthiadau actio, canu (1 i 1 a gwaith ensemble) a gwaith llais ynghyd â dosbarthiadau Tap, Bale, Jazz a dawns Gyfoes. Bydd cyfle i ddadansoddi ac ymchwilio ystod eang o arddulliau yn ein labordy theatr

Daw y cyfnod i ben gyda prosiect perfformio sy’n gyfle i gymhwyso yr holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y lefel.

Level 5

Mae Lefel 5 yn parhau i datblygu’r sgiliau craidd ac yn gyfle i ddechrau eu cymhwyso i greu perfformiad crwn. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ysgrifennu newydd a datblygu eu gwaith eu hunain yn ogystal ag adeiladu sgiliau a chymwyseddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwydnwch gyrfa a datblygiad proffesiynol ar gyfer y byd gwaith.

Level 6

Mae Lefel 6 yn ymwneud â dod â’r sgiliau a’r technegau at ei gilydd mewn dau gynhyrchiad sy’n rhoi cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol. Mae’r modiwl Diwydiannau Creadigol yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i bontio gyda’r byd gwaith yn cynnwys paratoi arddangosfa derfynol. Yn ogystal, byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol a all ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar y radd ac arddangos eich doniau unigol.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dosbarth Perfformio

(20 credydau)

Actio

(20 credydau)

Actio ar gyfer Theatr Gerddorol 2

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 1

(20 credydau)

Canu 1

(20 credydau)

Labordy Theatr

(20 credydau)

Sgiliau Clyweliad

(10 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Actio ar gyfer Theatr Gerddorol 2

(20 credydau)

Diwydiannau Creadigol

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 2

(20 credydau)

Canu 2

(30 credydau)

Prosiect Cydweithredol

(20 credydau)

Cynhyrchiad 1

(30 credydau)

Cynhyrchiad Terfynol

(30 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 90-120 o Bwyntiau UCAS.

    Mae’n bosibl y bydd y brifysgol yn ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os gallant ddangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.

  • Perfformiadau/digwyddiadau
    Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. 

    Tiwtorialau rheolaidd
    Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

    Cyflwyniadau
    Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

    Gweithlyfrau proses
    Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.