Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Y Celfyddydau Breiniol (BA)
Mae’r rhaglen Celfyddydau Breiniol yn radd hyblyg a luniwyd i ganiatáu i chi ddatblygu rhaglen astudio, o dan arweiniad eich tiwtor personol, sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol.
Mae’r rhaglen Celfyddydau Breiniol wedi’i chreu i fod yn rhaglen ryngddisgyblaethol hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu rhaglen astudio sy’n adlewyrchu eu diddordebau personol. Mae’n caniatáu i bob myfyriwr greu gradd bwrpasol trwy ddewis modylau o blith yr opsiynau sydd ar gael a allai fel arall fod yn gaeth i ffiniau pwnc traddodiadol. Fel y cyfryw, mae’r rhaglen yn cynnig dewis o bob modwl o’r Dyniaethau sydd ar gael mewn blwyddyn benodol.
Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd
Celfyddydau Breiniol (BA
Cod UCAS: HU01
Gwnewch Gais drwy UCAS
Celfyddydau Breiniol (BA) Dysgu o bell (amser llawn)
Cod UCAS: HUO1
Gwnewch Gais drwy UCAS
Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: LAF1
Gwnewch Gais drwy UCAS
Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen Pellter
Cod UCAS: LAFD
Gwnewch Gais drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Ystod eang o fodylau ar bynciau perthnasol fel athroniaeth y meddwl, hanes hil-laddiad, neu lenyddiaeth diwylliannau’r Gorllewin.
- Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr.
- Addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un.
- Lle i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd i ddilyn eich hoff bynciau a diddordebau.
- Cyfle i gyfuno eich astudiaethau gyda modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Dyluniwyd y BA yn y Celfyddydau Breiniol i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb cyffredinol yn y Dyniaethau ac i roi iddynt raglen astudio eang, sy’n ymgysylltu ag ystod lawn pynciau’r Dyniaethau yn hytrach nag arbenigo mewn un maes pwnc unigol.
Mae dwy flynedd gyntaf y rhaglen radd yn cynnwys model addysgo arloesol: dwy flynedd o ‘Astudiaethau Sylfaenol’, sy’n gyflwyniad eang i’r Dyniaethau ac yn cynnwys modylau o’r gwahanol Ysgolion o fewn y Gyfadran.
Yn y ddwy flynedd yma bydd y myfyriwr yn gwneud dewisiadau pwysig am gynnwys y cwrs y byddant yn ei ddilyn: trwy ddewis cyrsiau o blith pedwar cainc ymholiad hanesyddol, ymgysylltu â diwylliant, Dyniaethau ymarferol a’r meddwl dynol, bydd y myfyrwyr yn dewis i rhyw raddau ar ba feysydd o’r Dyniaethau y byddant yn ffocysu.
O’r dechrau, fe gewch ddealltwriaeth eang o’r Dyniaethau, a thrwy hyn byddwch yn raddol hogi eich proffil yn arbenigedd yn eich trydedd flwyddyn. Yn y drydedd flwyddyn, dewisir dwy gainc i’w hastudio.
Y ddwy gainc arbenigol honno y byddwch yn eu hastudio’n fanwl ac a fydd yn llunio eich gradd Baglor. Mae hyn yn rhoi’r posibilrwydd i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth ryngddisgyblaethol yn y Dyniaethau, gan greu’r gydberthynas orau gyda diddordebau proffesiynol y myfyriwr a’u posibiliadau gwaith yn y dyfodol. Mae gan bob myfyriwr y rhyddid i ddewis y ddwy gainc a fydd yn llunio eu gradd Baglor.
Ymhlith y pynciau perthnasol mae:
- Sgiliau Digidol
- Gallu i ymgyfaddasu
- Cyfathrebu
- Creu portffolios
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn feirniadol
- Gwneud cyflwyniadau
- Datrys problemau
- Rheolaeth prosiect
- Ysgrifennu adroddiadau
- Hunan-fyfyrio
- Gwaith tîm a chydweithredu gyda chyd-fyfyrwyr
- Defnyddio technegau amlgyfrwng
- Gweithio’n annibynnol
- Gweithio i derfynau amser
Plîs sylwch, gall y pynciau hyn newid neu gylchdroi o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Lefel 3 (Blwyddyn Sylfaen)
Ar y campws
- Sgiliau Goroesi Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fywyd Prifysgol (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwiliad Annibynnol (10 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i'r Dyniaethau (10 credyd; gorfodol)
- Ysgrifennu Academaidd (10 credyd; gorfodol)
- Deall Llenyddiaeth (20 credyd; dewisol)
- Siarad â'r Meirw (20 credyd; dewisol)
- Bod yn Ddynol (20 credyd; dewisol)
- Deall Democratiaeth (20 credyd; dewisol)
Dysgu o Bell
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Y Dyniaethau (20 credyd; gorfodol)
- Ysgrifennu ar gyfer y Brifysgol (20 credyd; gorfodol)
- Gwybodaeth a Chred (20 credyd; gorfodol)
- Pobl ar draws amser (20 credyd; dysgu)
- Iaith a Diwylliant (20 credyd; gorfodol)
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan
Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cyfathrebu, busnes
- Eiriolaeth ddiwylliannol a chymdeithasol
- Ffilm a’r cyfryngau
- Codi arian, ymgynghoriaeth ar reoli, ymchwil
- Iechyd, bwyd a ffordd o fyw
- Hawliau dynol, anifeiliaid a thir
- Datblygu rhyngwladol, cymorth a sefydliadau elusennol
- Amgueddfeydd, treftadaeth, twristiaeth
- Cyhoeddi
- Cysylltiadau hiliol, cymuned, gwaith cymdeithasol, y proffesiynau gofal
- Addysgu
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
- Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
- Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50.
Hanes (BA)
Cod UCAS: V100
Athroniaeth (BA)
Cod UCAS: V502
Astudiaethau Crefyddol (BA)
Cod UCAS: RV60
Ewch i’n hadran Llety Llambed i ddysgu rhagor.