Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura (Datblygu’r We) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Pwysleisir datblygu meddalwedd, datblygu gwe a chyfrifiadura cwmwl ar y rhaglen hon. Wedi graddio, byddwch yn fedrus ac yn wybodus yn agweddau technegol ar ddatblygu gwe a chyfrifiadura cwmwl. Byddech yn dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth naill ai mewn mentrau bach a chanolig fel datblygwyr gwe neu weithio o fewn seilwaith cwmwl ar lefel menter.
Datblygwch eich dealltwriaeth o agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau sy’n gysylltiedig â datblygu cymwyseddau gwe, datblygu gwasanaeth gwe a chyfrifiadura cwmwl, wrth i chi ddysgu i ddadansoddi technolegau a gymhwysir wrth ddatrys problemau y gellir eu defnyddio yn y cwmwl i fodloni gofynion y byd go iawn.
Mae gan yr adran gyfrifiadura gysylltiadau datblygedig gyda diwydiant, sy’n bwydo cynnwys ymarferol lefel uchel gwerthfawr i mewn i’r rhaglen. Mae ymgorffori cynnwys fel Gwasanaethau Gwe Node.js, Docker a REST yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddeall a chymhwyso’r cysyniadau damcaniaethol a astudiwyd mewn cyd-destunau go iawn. Y fantais i chi yw y bydd cymhwysiad ymarferol, byd go iawn o’r fath yn gwella eich sgiliau, a thrwy hynny eich cyflogadwyedd, heb aberthu trylwyredd academaidd.
Mae’r cysylltiadau gyda diwydiant yn cynnwys DVLA, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Sony, S8080, Circle IT a Tevel Cyber Corps
Cyfrifiadura (Datblygu’r We)
BSc | Rhaglen Radd 3 Blynedd (Lefelau 4 i 6)
Cod UCAS: 979S
Gwneud cais drwy UCAS
HND | Rhaglen 2 Flynedd (Lefelau 4 i 5)
Cod UCAS: 923T
Gwneud cais drwy UCAS
BSc | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen
(Lefelau 3 i 6)
Cod UCAS: CWD1
Gwneud cais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrydiau Cyfrifiadurol)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefelau 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwneud cais drwy UCAS
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Cafodd strwythur y rhaglen ei ddatblygu ar y cyd â phrif gwmnïau’r diwydiant a’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain gan ei fod yn bodloni anghenion y diwydiant.
- Staff hyfforddedig sy’n diweddaru’r rhaglen yn gyson i adlewyrchu natur ddynamig, gyffrous datblygu’r we yn yr amgylchedd busnes sydd ohono.
- Mae profiad ymarferol o dechnolegau datblugyr we diweddaraf, fframweithiau meddalwedd, ieithoedd, a chronfeydd data wedi’u mewnosod trwy gydol y rhaglen gyda phwyslais arbennig ar gymhwyso’r theori drwy arfer. Caiff ystod eang o ieithoedd a thechnolegau eu cyflwyno i alluogi graddedigion i fodloni rolau datblygu’r we niferus.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r feddalwedd broffesiynol ac arferion proffesiynol sydd eu hangen i weithredu cymwysiadau gwe cymhleth. Byddant hefyd yn datblygu’r sgiliau i ddefnyddio technolegau ac egwyddorion priodol mewn meysydd sy’n cynnwys Gwasanaethau’r We a Data Mawr.
- Bydd graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar y sgiliau technegol i addasu a ffynnu mewn diwydiant arloesol, sy’n datblygu’n gyflym a chanddo gyfleoedd cyflogaeth sylweddol ar gyfer peirianwyr meddalwedd.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer y blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd i drosglwyddo ar draws llwybrau yn eich blwyddyn gyntaf.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu mwy o ddyfnder ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws ar gyfer eich astudiaethau.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol i roi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda’r technolegau diweddaraf a chymhwyso cysyniadau cyfredol mewn meysydd amrywiol fel cyfryngau cymdeithasol, datblygu’r rhyngrwyd ac e-fasnach.
Bydd graddedigion yn datblygu sgiliau sy’n cynnwys: dylunio’r we, rhaglennu o ochr y gweinyddwr, sgriptio o ochr y cleient a datblygu cronfeydd data. Ynghyd â gwerthfawrogiad o gysyniadau pwysig dylunio meddalwedd, defnyddioldeb a gweinyddu cronfeydd data.
Modylau Blwyddyn 0 – Mynediad Sylfaen
- Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd)
- Mathemateg (10 credyd)
- Gwyddoniaeth (10 credyd)
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Raglenni Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 1 - MComp/BSc/HND/HNC
- Sgiliau Academaidd a Cyflogadwyedd (20 credyd)
- Pensaernïaeth a Rhwydweithiau Cyfrifiaduron (20 credyd)
- Dadansoddi Data a Delweddu (20 credyd)
- Peirianneg Gwybodaeth (20 credyd)
- Technoleg a Diogelwch y Rhyngrwyd (20 credyd)
- Datblygu Meddalwedd (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 2 - MComp/BSc/HND
- Datblygu Meddalwedd Uwch (20 credyd)
- Datblygu Cymwysiadau (20 credyd)
- Systemau Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
- Prosiect Grŵp Menter ac Arloesi (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr llawn amser yn unig)
- Prosiect Llywodraethu, Deddfwriaeth a Moeseg yn y Gwaith (20 credyd) (Sylwer: Myfyrwyr rhan amser yn unig)
- Rheoli Prosiectau a Dulliau Ymchwil (20 credyd)
- Technolegau’r We (20 credyd)
Modylau Blwyddyn 3 - MComp/BSc
- Prosiect Mawr (40 credyd)
- Datblygu’r We Uwch (20 credyd)
- Data Mawr (20 credyd)
- Cymwysiadau wedi’u Rhwydweithio (20 credyd)
- Peirianneg Defnyddioldeb (20 credyd)
Blwyddyn 4 Meistr Integredig - MComp
Mae’r MComp Datblygu’r We yn rhaglen israddedig pedair blynedd a ariennir yn llawn, sy’n arwain at gymhwyster lefel Meistr. Byddai disgwyl i chi ymuno â chyflogwyr ar gwrs carlam at reolaeth drwy ddysgu sgiliau arbenigol mewn:
- Diogelwch Data (20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
- Marchnata a Dadansoddeg y We (20 credyd)
- Prosiect Grŵp (60 credyd)
Sylwer: Mae mynediad Blwyddyn Sylfaen ar gael hefyd. Gweler Blwyddyn Sylfaen ar gyfer Cyfrifiadura ac Electroneg. Mae gennym hefyd opsiynau “Blwyddyn mewn Diwydiant”.
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfredol ac wedi’i siapio er cyflogadwyedd trwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gall marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy darn o waith cwrs a bennir ac a gwblheir yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Achrediadau Proffesiynol
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ar gyfer statws llawn.
Gwybodaeth allweddol
MComp Cyfrifiadura (Datblygu’r We) -Pedair Blynedd Llawn Amser – COD UCAS: 258R
120 o bwyntiau tariff UCAS (300 cynt) i gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Ddiploma Cenedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas, Pas; neu
- Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Cyfrifiadura, TGCh, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu debyg.
Mae’n well gennym bod gennych TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch.
BSc Cyfrifiadura (Datblygu’r We) – Tair Blynedd Llawn Amser – COD UCAS: 979S
104 o bwyntiau tariff UCAS (260 cynt) i gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Diploma Cenedlaethol BTEC graddau Pas, Pas, Pas; neu
- Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Pas; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.
Mae’n well gennym eich bod yn meddu ar TGAU Mathemateg gradd 4 (C cynt) neu uwch.
HND Cyfrifiadura (Datblygu’r We) – Dwy Flynedd Llawn Amser – COD UCAS: 923T
48 o bwyntiau tariff UCAS (120 cynt) i gynnwys:
- Gradd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Ddiploma/Tystysgrif/Dyfarniad Cenedlaethol BTEC - Pas; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg.
Mae’n well gennym eich bod yn meddu ar TGAU Mathemateg gradd 4 (C cynt) neu uwch.
HNC Cyfrifiadura (Datblygu’r We) – Un Flwyddyn Llawn Amser – COD UCAS: 753H
40 o bwyntiau tariff UCAS (100 cynt)
Mae graddau’n bwysig, ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Nodweddiadol:
Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Arall:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd â chymwysterau amgen. Cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM – COD UCAS: HR3U
Mae gan ein graddedigion ragolygon cyflogaeth rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill yr economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu llwybrau gyrfaol dewisol o fewn chwe mis ar ôl graddio.
Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith ym meysydd dylunio’r we, datblygu’r we a disgyblaethau cyfrifiadura tebyg.
Dyma broffiliau rhai graddedigion o’r rhaglen hon ac ymhle maen nhw nawr:
- Simon Bennett (Fideo)
- Thomas Coleman
- Shaun Gregory
- Adam Kerrigan
- Neil Page
- Monica Phan
- Deborah Roberts
- Dafydd Moore
- Roxanne Studholme
Ar gyfer holl dystebau graddedigion, gweler yma:
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Gall myfyrwyr ddewis prynu deunyddiau ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.
- Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura ac Electroneg (Mynediad Sylfaen)
Daniel Tucker BSc (Anrh) Datblygu’r We
"Pan oeddwn yn y coleg roeddwn yn hoffi’r ffordd roedd gwefannau’n edrych ac roeddwn yn chwilfrydig ynghylch sut i fynd ati i’w hadeiladu. Roeddwn yn mwynhau’r gwaith HTML yn y BTEC ac rwyf wedi mwynhau dysgu codio uwch fel PHP, C#, JavaScript a CSS. Fy mhrosiect blwyddyn olaf yw effeithiolrwydd defnyddio fframwaith PHP, yn sgaffald, i addysgu patrymau dylunio meddalwedd myfyrwyr y drydedd flwyddyn. Dod o hyd i ddatrysiadau cyffredin, sydd wedi’u treialu a’u profi i broblemau sy’n codi’u pennau droeon o fewn y cod. Trwy ddefnyddio’r patrymau dylunio hyn mae’n helpu’r system i fod yn fwy hyblyg, gan eich caniatáu i ychwanegu at neu olygu’r cod heb amharu ar ei ymarferoldeb. Mae hyn wedi’i fabwysiadu gan lawer o weithwyr proffesiynol, gan achosi iddo fod yn sgil gofynnol ar draws y diwydiant datblygu’r we.”
Neil Page BSc Datblygu’r We, Rheolwr Ar-lein, ar gyfer Cruise Nation
"Rwyf wedi bod yn gaeth i bopeth sy’n ymwneud â’r we erioed, a dweud y gwir, felly mae gallu gweithio yn y diwydiant hwn bob diwrnod yn rhoi boddhad mawr i mi. Rwy’n defnyddio HTML, CSS a javascript/jQuery bob dydd ac fe ddysgais am y rhain yn ystod y cwrs
Adam Packer BSc (Anrh) Datblygu’r We
"Gwnes ddwy flynedd o waith fel Dylunydd Graffig yn y diwydiant cyn cofrestru ar y cwrs hwn, roedd angen dysgu ieithoedd datblygu, fel PHP, JavaScript yn ogystal â HTML a CSS. Mae yna ddiffyg datblygwyr y we ac mae’r diwydiant yn tyfu’n gyson a chyflym. Trefnodd y Brifysgol interniaeth gyda S8080 lle rwy’n gweithio bob dydd Gwener yn defnyddio’r System Drupal (system rheoli cynnwys) yn creu prosiect ar raddfa fach ar gyfer y diwydiant. Mae hyn wedi galluogi i mi gael profiad ymarferol o sut y mae asiantaeth ddylunio’n gweithio a manylion gweithio fel rhan o dîm. Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf, rwy’n ymchwilio i ddatblygu a yrrir gan brofion sy’n edrych ar y ffyrdd y gall profion yrru dyluniad meddalwedd. Mae prawf yn gysylltiedig â phob darn o god, i wirio ei fod yn weithredol ac yn bodloni gofynion y defnyddiwr. Nod adnabod ac ysgrifennu’r prawf cyn y cod yw cynyddu ansawdd y feddalwedd. Bellach, mae cwmnïau gwe yn ystyried newid i’r ymagwedd hon."
Richard Martin BSc (Anrh) Datblygu’r We
"Rwyf eisoes yn gweithio fel dylunydd pen-blaen a datblygwr gyda Quantarc, cwmni meddalwedd rheoli ystadau sy’n gweithio gyda’r sector cyhoeddus ac addysg. Roedd gen i HND mewn Cyfryngau Rhyngweithiol ond nid oedd gen i’r wybodaeth ochr ôl i symud fy ngyrfa ymlaen. Roedd arna’i angen dysgu C# sef y prif iaith a addysgir ar y cwrs Datblygu’r We, ynghyd â SQL a rheoli cronfeydd data. Mae’r cwrs wedi bodloni’r
disgwyliadau gan addysgu’r sgiliau roedd arnaf eu hangen ar gyfer y diwydiant."
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor
Ewch i adran Llety Abertawe i ddysgu rhagor.