Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) BSc wedi’i llunio i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i ffynnu yn y byd cyflym sydd ohoni sy’n cael ei yrru gan dechnoleg. Gyda phwyslais cryf ar dueddiadau’r diwydiant, arferion gorau, a thechnolegau o’r radd flaenaf, mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i fodloni gofynion y byd peirianneg meddalwedd datblygol.
Cewch ddealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygu meddalwedd ac egwyddorion dylunio, gyda ffocws ar gymwysiadau ymarferol o’r byd go iawn. O’r diwrnod cyntaf byddwch yn gweithio mewn labordai arbenigol, gan ddefnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant i ddatrys problemau cymhleth, gan sicrhau eich bod yn barod i gyfrannu tuag at brosiectau arloesol yn syth ar ôl graddio.
Gydol y rhaglen, byddwch yn ymgysylltu â methodolegau diweddaraf y diwydiant, megis datblygu ystwyth, arferion DevOps, a chyfrifiadura cwmwl, gan sicrhau eich bod yn aros yn gyfredol â disgwyliadau’r farchnad. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar draws ystod o feysydd y mae galw amdanynt, yn cynnwys datblygu ‘pentwr llawn’, pensaernïaeth meddalwedd, a thechnegau rhaglennu uwch, gan fireinio eich gallu i ddylunio, datblygu a defnyddio systemau meddalwedd cadarn.
Mae ein cwricwlwm wedi’i adeiladu o gwmpas meithrin profiad ymarferol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau sy’n efelychu heriau’r byd go iawn, gan roi’r cyfle i chi gymhwyso beth byddwch yn ei ddysgu mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu lleoliadau diwydiant. Bydd y profiad ymarferol hwn yn hanfodol o ran meithrin y sgiliau datrys problemau, a’r sgiliau cydweithio a thechnegol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Rydym yn blaenoriaethu eich cyflogadwyedd drwy ymgorffori sgiliau trosglwyddadwy allweddol yn y rhaglen. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn rheoli prosiectau, cydweithio mewn tîm, a meddwl yn feirniadol, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi ar gyfer rolau amrywiol mewn sefydliadau meddalwedd arbenigol neu gwmnïau sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg mewn amryw o sectorau.
Diweddarir cynnwys y rhaglen yn barhaus i adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf yn y maes, gan sicrhau eich bod yn graddio â’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i ragori mewn diwydiant sy’n newid yn barhaus. P’un a fydd llwybr eich gyrfa’n arwain at rolau ym meysydd datblygu meddalwedd, pensaernïaeth systemau, neu reoli prosiectau meddalwedd mawr, mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i’ch rhoi chi ar y ffordd i lwyddo.
Caiff ein rhaglen Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) BSc ei chyflwyno gan dîm o staff profiadol iawn â chefndir helaeth mewn diwydiant ac arbenigedd yn y maes. Mae llawer o’n darlithwyr wedi gweithio mewn cwmnïau technoleg blaenllaw ac yn dod â gwybodaeth o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth, gan sicrhau eich bod yn elwa o’r mewnwelediadau a’r arferion diweddaraf yn y diwydiant. Mae’r profiad ymarferol hwn yn cyfoethogi’r amgylchedd dysgu, gan ddarparu arweiniad ar eich cyfer sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r byd peirianneg meddalwedd sydd ohoni. Byddwch yn datblygu safbwyntiau gwerthfawr ar dueddiadau sy’n dod i’r amlwg ac arferion gorau, gan eich paratoi i ragori yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn fedrus wrth ddefnyddio offer a methodolegau peirianneg meddalwedd fodern, ac â’r sgiliau angenrheidiol i wneud eich ffordd drwy ecosystemau meddalwedd cymhleth heddiw ac yfory. Bydd ein gradd Peirianneg Meddalwedd yn eich paratoi nid yn unig am eich swydd gyntaf, ond am yrfa sydd ar flaen y gad o ran technoleg.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) BSc yn croesawu ymagwedd ymarferol, gymhwysol at ddysgu, gan gydbwyso theori academaidd â sgiliau ymarferol. Mae myfyrwyr yn ymgysylltu â phrosiectau’r byd go iawn a methodolegau datblygu meddalwedd cyfoes, gan sicrhau perthnasedd i’r diwydiant. Mae ein hathroniaeth addysgu yn meithrin dysgu annibynnol, cydweithredu, datrys problemau a gallu i addasu, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd deinamig ym maes peirianneg meddalwedd.
Byddwch yn astudio pynciau sylfaen, gan gynnwys pensaernïaeth gyfrifiadurol, systemau gweithredu, datblygu’r we, a chronfeydd data. Yn ogystal, mae modylau ar ddysgu digidol a datblygu meddalwedd rhagarweiniol yn darparu’r sgiliau rhaglennu sylfaenol a’r ddealltwriaeth dechnegol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Byddwch yn archwilio datblygiad meddalwedd uwch, diogelwch rhwydweithiau, a mathemateg ar gyfer cyfrifiadura. Bydd y flwyddyn hon yn gwella eich sgiliau datrys problemau ac yn cyflwyno rheolaeth systemau rhwydwaith, gan osod y sylfaen ar gyfer heriau cymhleth ym maes peirianneg meddalwedd a systemau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Mae’r modylau’n cwmpasu AI uwch a dysgu peiriannau, cyfrifiadura cwmwl, a heriau systemau amser real trwy raglennu soced a chyfred. Byddwch hefyd yn dewis rhwng astudio tueddiadau technegol sy’n dod i’r amlwg neu gynnal ymchwil sy’n seiliedig ar ddiwydiant, gan wella eich gallu i addasu yn y maes datblygu meddalwedd modern.
Daw’r rhaglen i ben mewn prosiect annibynnol, sy’n eich galluogi i gymhwyso’r wybodaeth rydych wedi’i chasglu i brosiect peirianneg meddalwedd neu brosiect ymchwil cynhwysfawr. Bydd y prosiect terfynol hwn yn dangos eich sgiliau uwch wrth ddatrys problemau, datblygu ac arloesi ym maes peirianneg meddalwedd.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Wedi’ch cyflogi mewn sector sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth.
3 blynedd o brofiad gwaith, cymhwyster L3 (Safon Uwch, Diploma BTech neu gyfwerth) neu Brentisiaeth L3 mewn sector perthnasol.
TGAU:
Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg.
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.
- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn.
Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr.
Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen Ceisio am Brentisiaethau. Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.