Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc Anrh)

Abertawe
4 blynedd, rhan amser

Mae systemau cronfa ddata wrth wraidd sefydliadau modern, gan ddarparu’r offer i reoli, dadansoddi a defnyddio data’n effeithiol. Mae’r brentisiaeth hon wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddyfnhau eu harbenigedd a symud eu gyrfaoedd ymlaen. Mae’n cyfuno profiad yn y gweithle â dysgu uwch i’ch paratoi ar gyfer heriau dylunio a rheoli systemau gwybodaeth soffistigedig.

Yn brentis, byddwch yn datblygu’r wybodaeth dechnegol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu datrysiadau arloesol a yrrir gan ddata. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gylch bywyd llawn systemau gwybodaeth: dylunio, gweithredu, profi a chynnal meddalwedd a chronfeydd data sy’n bodloni anghenion byd go iawn. Byddwch yn cyfoethogi eich medrau datrys problemau wrth ddysgu sut i fynd i’r afael âheriau cymhleth trwy ddatrysiadau effeithlon, a allai datblygu’n gyflym.

Erbyn diwedd y cwrs, nid yn unig y bydd gennych ddealltwriaeth fanylach o egwyddorion cyfrifiadura ond hefyd y sgiliau i ddylunio a chynnal systemau ansawdd uchel yn rhan o dîm cydweithredol. Mae galw mawr am y sgiliau hyn yn y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol i chi wrth i chi ddatblygu eich gyrfa.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd, rhan amser

Prentisiaeth 4 blynedd wedi’i hariannu’n llawn (Llywodraeth Cymru). Ymrwymiad cyflogwr: un diwrnod astudio’r wythnos a phrofiad yn y gweithle.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr y rhaglen hon yn datblygu arbenigedd o ran dylunio, creu, gweinyddu, a rhaglennu cronfeydd data i adeiladu cymwysiadau a yrrir gan ddata.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau a rennir ar draws y Portffolio Cyfrifiadura.Mae’r modylau sylfaenol hyn yn cwmpasu egwyddorion cyfrifiadura allweddol ac yn rhoi i chi’r hyblygrwydd i drosglwyddo i lwybrau eraill os bydd eich diddordebau’n datblygu.

Yn ystod eich ail flwyddyn, mae’r ffocws yn symud i fodylau mwy arbenigol sydd wedi’u teilwra i weddu i’ch dewis lwybr. Bydd y rhain yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r cysyniadau ac arferion craidd sydd wrth wraidd eich rhaglen.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n dod â’ch astudiaethau i ben. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth a sgiliau i her byd go iawn, gan ddangos eich gallu i ddarparu datrysiadau arloesol ac ymarferol.

testimonial

Premier partner 2026

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Cyflogedig mewn sector perthnasol, cymhwyster L3 a/neu brofiad perthnasol. 

    Gofynion Mynediad

    • Cyflogedig ar hyn o bryd mewn sector sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth.
    • Tair blynedd o brofiad gwaith, cymhwyster Lefel 3 (Lefel A, Diploma BTEC neu gyfwerth – 96-112 o Bwyntiau UCAS) neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn sector perthnasol. 
    • Mae angen TGAU gradd A*-C (neu radd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.

    Graddau Di-brentisiaeth

    Os nad ydych yn edrych am Radd-brentisiaeth, gallwch archwilio ein hystod lawn o gymwysterau Cyfrifiadura - gan gynnwys yr opsiwn llawn amser BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth).

    Cyngor a Chymorth Derbyn

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.

  • I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr.  
     
    Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen Ceisio am Brentisiaethau. Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.