Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi wedi’ch swyno gan gemau cyfrifiadurol a’r dechnoleg y tu ôl iddynt? Mae ein gradd Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) yn canolbwyntio ar ddatblygu meddalwedd, graffigwaith cyfrifiadurol a gemau cyfrifiadurol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau technegol a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant gemau a sefydliadau meddalwedd arbenigol.

Datblygu meddalwedd sydd wrth wraidd y cwrs hwn. Byddwch yn dysgu’r agweddau technegol o raglennu gemau a thechnegau datblygu gemau. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth mecaneg gemau, a meithrin eich sgiliau rhaglennu. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu dylunio, datblygu a gweithredu meddalwedd cymhleth ar gyfer gemau a diwydiannau cysylltiedig eraill.

Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn datblygu meddalwedd ac yn ennill gwybodaeth gynhwysfawr am y maes Gemau Cyfrifiadurol. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr presennol y diwydiant, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu gydol oes, gan eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i ddiweddaru ac addasu eich galluoedd yn barhaus trwy gydol eich gyrfa.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i’ch helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau tra hefyd yn eich galluogi i ddilyn diddordebau mwy arbenigol. Byddwch yn dysgu am reoli prosiectau gemau, gan eich galluogi i arwain a chydweithio ar brosiectau datblygu gemau yn effeithiol. Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno archwilio gwahanol agweddau ar ddylunio a datblygu gemau, gan gynnig addysg gyflawn sy’n cynnwys agweddau creadigol a thechnegol y diwydiant.

Fel myfyriwr sydd wedi graddio o’r cwrs hwn, gallwch ddisgwyl dechrau eich gyrfa fel aelod o dîm, gan weithio ar ddylunio, datblygu a gweithredu meddalwedd cymhleth ar gyfer gemau neu ddiwydiannau cysylltiedig eraill. Gall eich rôl gynnwys cydweithio â rhaglenwyr, dylunwyr ac artistiaid eraill i ddod â chysyniadau gemau’n fyw. Bydd y profiad hwn nid yn unig yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ar unwaith, ond bydd hefyd yn gosod y seiliau ar gyfer twf gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiant gemau neu sefydliadau meddalwedd arbenigol.

Mae dewis y rhaglen hon yn golygu ymrwymo i lwybr sy’n heriol ac yn werthfawr. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous ym myd datblygu gemau cyfrifiadurol. P’un ai eich bod yn bwriadu gweithio ym maes rhaglennu gemau, dylunio  mecaneg gemau cymhleth, neu reoli prosiectau datblygu gemau ar raddfa fawr, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r arfau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i ragori.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
126S
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i addysgu gan staff sydd â phrofiad academaidd a diwydiant gemau perthnasol.
02
Darganfod cyfrinachau Datblygu Gemau drwy ddefnyddio C/C++.
03
Cwmpasu hanfodion rhaglennu Graffeg amser go iawn, systemau Rhith-wirionedd a Deallusrwydd Artiffisial.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein hathroniaeth yn y cwrs Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) yw cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â defnydd ymarferol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau creadigol a thechnegol sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant gemau. Rydym yn pwysleisio profiad ymarferol, perthnasedd i’r diwydiant, a dysgu gydol oes i’ch arfogi â set sgiliau gynhwysfawr ac addasadwy. 

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i hanfodion datblygu meddalwedd, graffeg graffigwaith cyfrifiadurol a rhaglennu gemau. Bydd modiwlau yn cynnwys sgiliau rhaglennu, mecaneg gemau, ac animeiddio sylfaenol, gan ddarparu sylfaen gadarn yn agweddau technegol gemau cyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dechrau deall rheoli prosiectau gemau a datblygu sgiliau dysgu gydol oes.

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Dylunio a Hanes Gemau

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn technegau datblygu gemau a datblygu meddalwedd. Byddwch yn ymchwilio’n ddyfnach i ddylunio meddalwedd cymhleth, datblygu eich gallu i weithredu  mecaneg gemau soffistigedig ac elfennau rhyngweithiol. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn cynnwys cyfleoedd i weithio ar brosiectau cydweithredol, gan wella eich galluoedd gwaith tîm a rheoli prosiectau.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Datblygu Gemau'n Annibynnol

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Mecaneg Gemau

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb, gan roi eich sgiliau technegol ar waith i greu portffolio cynhwysfawr. Byddwch yn gweithio ar brosiectau mawr sy’n efelychu amgylcheddau diwydiant gemau’r byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth. Rhoddir pwyslais ar berthnasedd i’r diwydiant a diddordebau arbenigol, gan sicrhau eich bod yn barod iymuno â’r gweithlu neu ddilyn astudiaethau pellach.

Gorfodol 

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Graffeg a Rhaglennu Gemau

(20 credydau)

Rhaglennu Unedau Prosesu Graffigol (GPU)

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

CISCO logo: Networking Academy Partner 2025.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol. 

Students walking on carmarthen campus

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored

Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 104 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: BCC, BTEC: DMM, IB: 31

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    TGAU 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. 

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd.  Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau.  Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel Rhaglennydd Iau, Prif Raglennydd, Rhaglennydd Injan/Offer, Rhaglennydd Graffeg/Effeithiau Arbennig/Rendro, Rhaglennydd/Peiriannydd Awdio, Rhaglennydd Deallusrwydd Artiffisial, Rhwydweithio/Aml-chwaraewr, Rhaglennydd Rhwydweithio, Rhaglennydd Gemau Symudol, Rhaglennydd Ffiseg, Pheiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd ayb.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau