Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch) (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cadw gwybodaeth ddigidol yn ddiogel a chreu systemau cyfrifiadurol diogel? Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch yma i’ch helpu i ddysgu’r sgiliau pwysig hyn.
Yn y rhaglen hon, byddwch yn dysgu sut mae rhwydweithiau cyfrifiadurol yn gweithio mewn gwahanol leoedd, fel busnesau a sefydliadau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i greu atebion ar gyfer problemau rhwydweithio a chael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweinyddu rhwydwaith. Erbyn i chi orffen, byddwch yn gwybod sut i sefydlu a rheoli systemau rhwydwaith.
Mae’r rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol, gan gynnig cyfle i chi weithio yn ein labordai seiberddiogelwch arloesol, lle byddwch yn defnyddio’r offer a’r technolegau diweddaraf i efelychu senarios o’r byd go iawn. O ffurfweddu rhwydweithiau diogel i gynnal ymchwiliadau fforensig i seiberddigwyddiadau, byddwch yn datblygu’r sgiliau ymarferol sy’n ofynnol i gymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau proffesiynol. Bydd y profiad hwn yn rhoi’r hyder i chi fynd i’r afael â heriau seiberddiogelwch a diogelu seilwaith hanfodol mewn amryw o ddiwydiannau.
Gydol y cwrs, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau, o ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau i brotocolau diogelwch a dadansoddi fforensig. Mae’r dull cyfannol hwn yn sicrhau nid yn unig eich bod yn deall sut i reoli a diogelu rhwydweithiau ond hefyd sut i ymchwilio i seiberddigwyddiadau a’u lliniaru. Yn ogystal â’r sgiliau technegol, byddwch yn datblygu galluoedd datrys problemau, dadansoddi, a meddwl yn feirniadol, y mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi pob un ohonynt.
Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant, gan fod yn aelod o Academi Cisco er 1999 ac yn bartner Academi EC Council er 2018. Byddwch hefyd yn cael dysgu yn ein labordy seiberddiogelwch ardderchog. Mae ganddo’r offer a’r technolegau diweddaraf, gan roi lle gwych i chi ddysgu. Yma, byddwch yn gweithio gyda thechnolegau newydd ac yn deall sut mae systemau TG yn gweithio. Mae’r profiad ymarferol hwn yn hanfodol ar gyfer eich dysgu a’ch gwaith yn y dyfodol.
Ar ôl cwblhau’r HND, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ymuno â’r gweithlu mewn rolau megis gweinyddwr rhwydwaith, dadansoddwr seiberddiogelwch, neu arbenigwr diogelwch TG. P’un a fyddwch yn dewis dilyn gyrfa ar unwaith neu barhau â’ch addysg mewn rhaglen radd, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i chi ffynnu ym maes seiberddiogelwch sy’n tyfu’n gyflym. Gyda’r HND mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, byddwch yn cymryd cam arwyddocaol tuag at yrfa foddhaus yn un o’r diwydiannau mwyaf hanfodol yn y byd sydd ohoni, sydd â galw mawr amdano.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein hathroniaeth yw cyfuno gweithredu ymarferol â thrylwyredd academaidd, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol. Mae’r dull hwn yn eich paratoi ar gyfer heriau byd go iawn mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar hanfodion technolegau rhwydweithio a datblygu meddalwedd. Byddwch yn dysgu am ddadansoddi data, egwyddorion delweddu sylfaenol, a chyflwyniad i waith fforensig. Mae’r wybodaeth sylfaenol hon yn gosod y sylfaen ar gyfer pynciau uwch yn y blynyddoedd dilynol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i weinyddu rhwydwaith a seilwaith rhwydwaith. Byddwch yn ymgymryd â thasgau ymarferol, gan wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth. Mae’r ail flwyddyn hefyd yn cyflwyno mesurau diogelwch mwy cymhleth a thechnegau fforensig, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r diwydiant.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.

Mae Clirio ar Agor
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
48 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: D, BTEC: PPP, IB: 24
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith SaesnegOs nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol seilweithiau rhwydwaith. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn pwysleisio pedair thema allweddol o fewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol: llwybro a switsio, technolegau rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.
Bydd graddedigion yn gallu ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig â rhwydweithio mewn sefydliadau ac yn gallu datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau rhwydweithio.
Rhagwelir bod graddedigion ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol (RhC) yn gallu dod o hyd i waith mewn nifer o wahanol feysydd o RhC, gan gynnwys llwybro a switsio, dylunio rhwydweithiau a diogelwch.
Disgwylir i raddedigion chwilio am swyddi fel:
- Gweinyddwyr Rhwydwaith
- Cymdeithion Rhwydwaith
- Peirianwyr Rhwydwaith
- Gweinyddwr System
-
Eich dilyniant academaidd naturiol o’n rhaglen HND Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch fyddai i’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch) neu’r BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol.
Rhagor o wybodaeth am symud ymlaen o HNC, HND, CertHE a DipHE
Gall myfyrwyr sy’n graddio gyda Thystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE), neu Ddiploma Addysg Uwch (DipHE) ddilyn llwybrau strwythuredig, mynediad uwch i raglenni gradd Anrhydedd cysylltiedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
- Mae deiliaid CertHE fel arfer yn mynd i Flwyddyn 2 gradd BA neu BSc gysylltiedig.
- Gall deiliaid DipHE a HND wneud cais yn uniongyrchol i Flwyddyn 3 (blwyddyn olaf) graddau anrhydedd.
- Mae deiliaid HNC yn gymwys i gael mynediad i Flwyddyn 2, yn dibynnu ar y pwnc a chredydau.
Mae’r rhaglenni atodol hyn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau – gan gynnwys Busnes, Cyfrifiadura, Peirianneg, Adeiladu, yr Amgylchedd, Diwydiannau Creadigol, a Chwaraeon – ac yn eich galluogi i adeiladu ar eich dysgu blaenorol i ennill gradd BA neu BSc (Anrh) lawn.