Skip page header and navigation

Cyfrifiadura Cymhwysol gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
4 Blynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector TG? Mae’r cwrs Cyfrifiadura Cymhwysol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe yn fan cychwyn ardderchog. Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu gan BCS (British Computer Society) ac mae’n cynnig cyfleoedd amrywiol mewn meysydd fel peirianneg meddalwedd, rheoli data, deallusrwydd artiffisial (AI), rhwydweithio, seiber ddiogelwch, profiad defnyddwyr a thechnolegau gwe.

Mae ein cwrs yn sicrhau eich bod yn cael y sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer y meysydd hyn. Mae’n cynnwys amrywiaeth o dechnolegau a ddefnyddir yn eang, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn cyfrifiadura. Mae’n canolbwyntio’n gryf ar reoli data a chreu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Fel myfyriwr graddedig, bydd gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arwain timau a rheoli prosiectau, sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y diwydiant.

Rydym yn deall nad oes gan bob myfyriwr syniad clir o’u diddordebau penodol wrth ddechrau eu hastudiaethau. Mae ein rhaglen ar Gampws Abertawe wedi’i chynllunio gyda hyn mewn golwg. Mae’n cynnig ystod eang o bynciau dewisol wedi’u hadeiladu ar sylfaen o fodiwlau craidd. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn eich arwain i ddewis y modiwlau sy’n cyd-fynd orau â’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa.

Mae’r cwrs yn pwysleisio gwybodaeth dechnegol a sgiliau mewn meysydd fel dylunio cronfa ddata a datblygu’r we. Mae’r pynciau hyn yn hanfodol ar gyfer cyfrifiadura modern a byddant yn gwella eich rhagolygon gyrfa yn fawr. P’un ai bod gennych ddiddordeb mewn peirianneg meddalwedd neu seiber ddiogelwch, mae ein rhaglen yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol.

Bydd cwblhau’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth mewn TG yn sylweddol. Bydd y sgiliau a gewch yn berthnasol i rolau amrywiol, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr i ddarpar gyflogwyr. Mae’r rhaglen yn cefnogi eich datblygiad, yn academaidd ac yn broffesiynol, gan sicrhau eich bod yn barod i gwrdd â heriau’r sector TG.

Mae campws Abertawe yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol gyda thiwtoriaid profiadol sy’n ymroddedig i’ch helpu i lwyddo. Gyda chyfuniad o wybodaeth ymarferol a damcaniaethol, mae’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn ddewis ardderchog i unrhyw un sydd am ddilyn gyrfa yn y sector TG.

Ymunwch â ni yn Abertawe a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa lwyddiannus mewn cyfrifiadura. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yma yn agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y diwydiant TG. P’un a ydych newydd ddechrau neu’n ystyried newid eich llwybr gyrfa, bydd ein rhaglen yn darparu’r sylfaen sydd ei hangen arnoch ar gyfer llwyddiant. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
ACO2
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i ddylunio i gynhyrchu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn niwydiant systemau cyfrifiadura a gwybodaeth y DU sy’n tyfu’n gyflym.
02
Mae’r rhaglen yn cynnwys cysyniadau, egwyddorion a thechnegau traddodiadol datblygu meddalwedd, cronfeydd data a systemau gwybodaeth ond yn cymhwyso’r rhain o fewn cyd-destun peiriannu systemau mawr a chymhleth.
03
Trwy ein cysylltiadau diwydiannol, rydym hefyd wedi datblygu strwythur rhaglen i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf ynghyd â gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, meddwl beirniadol, a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Rydym yn cyfuno profiad ymarferol gyda dysgu damcaniaethol dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector TG.

Mae twf enfawr y Rhyngrwyd, ymlediad rhwydweithiau cyfrifiadurol, dyfeisiau rhaglenadwy a systemau gwybodaeth yn eu gwahanol ffurfiau, a’r gyfradd newid gyflym yn sicrhau galw parhaus am weithwyr sydd â sgiliau a chymwysterau cysylltiedig â chyfrifiadura cyfoes.

Mae’r Rhyngrwyd, yn arbennig, yn chwildro technolegol mawr sy’n cael ac a fydd yn parhau i gael effaith enfawr ar gymdeithas. Mae’r newid radical a thrawsffurfiol a welwyd ym maes cyfrifiadura a dibyniaeth sefydliadau ar dechnoleg er mantais cystadleuol yn rhesymau cymhellol dros ymgorffori syniadau newydd, paradigmau a thechnolegau i mewn i raglenni cysylltiedig â chyfrifiadura.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau cyffredin â nifer o gyrsiau o fewn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach ac yn caniatáu hyblygrwydd wrth ddewis modylau sy’n bodloni goliau personol myfyrwyr eu hunain. Mae’r ymagwedd hon yn rhoi i fyfyrwyr gwell gyfle i ddatblygu’r sgiliau sydd wedi’u halinio fwyaf i’w profiad ac anghenion diwydiannol eu hunain. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n darparu ffocws ar gyfer eich astudiaethau.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref trwy astudio ystod eang o bynciau, gan gynnwys datblygu meddalwedd, mathemateg cyfrifiadura, cysyniadau gwe a chronfeydd data, a saernïaeth gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu hanfodol, gan osod y sylfaen ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd i ddod.

Gorfodol 

Dadansoddi a Datrys Problemau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach, gyda modiwlau mewn rheoli prosiectau TG, dadansoddi systemau, gwaith fforensig ar gyfrifiaduron ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi meddalwedd. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau gweithredu rhwydwaith a gwasanaethau rhwydwaith, gyda modiwlau dewisol fel rhwydweithio uwch, a rhaglennu ystadegol, gan wella eich galluoedd technegol a dadansoddol.

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Dewisol

Dadansoddi a Dychmygu Data

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar y defnydd ymarferol o’ch sgiliau. Mae’r pynciau’n cynnwys dylunio profiad defnyddwyr, seiber ddiogelwch, a datblygu cymwysiadau cymhleth ar gyfer y we a dyfeisiadau symudol.  Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiectau cydweithredol, gan efelychu amgylcheddau TG y byd go iawn, a fydd yn eich paratoi ar gyfer heriau’r diwydiant.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Dewisol

Rhwydweithio Uwch

(20 credydau)

Pensaernïaeth Cyfrifiadura Cwmwl

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Datblygu Gemau'n Annibynnol

(20 credydau)

Rhaglenadwyedd Rhwydweithiau

(20 credydau)

Technolegau Gwe a Symudol

(20 credydau)

Rhaglenni ac Algorithmau Seiliedig ar Wrthrychau

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Mecaneg Gemau

(20 credydau)

Rhaglennu Ystadegol

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

(20 credydau)

Fforenseg Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o weithrediadau systemau TG, rheoli data, saernïaeth cronfa ddata, perfformiad a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Byddwch yn cynnal prosiect annibynnol sylweddol, gan weithredu eich gwybodaeth ar gyfer senarios y byd go iawn a’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant TG.

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Dewisol

Seiberddiogelwch Uwch

(20 credydau)

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Peirianneg Defnyddioldeb

(20 credydau)

Graffeg a Rhaglennu Gemau

(20 credydau)

Switsio, Llwybro a Di-wifr

(20 credydau)

Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomatiaeth

(20 credydau)

Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl

(20 credydau)

Gweinyddu Cyfrifiadura Cwmwl

(20 credydau)

Warysu Data a Chloddio Data

(20 credydau)

Egwyddorion ac Arfer Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Rhaglennu a Natur Gydamserol Socedi

(20 credydau)

Rhaglennu Unedau Prosesu Graffigol (GPU)

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Students in Dynevor Cafe.

Mae Clirio ar Agor

CISCO logo: Networking Academy Partner 2025.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  

    TGAU  

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth.  Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau.  Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.  

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau