Ym mis Chwefror 2022, ymrwymodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i sicrhau bod cymorth cenedlaethol ar gael ar gyfer datblygu dilyniant ac asesu yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd a’r pedwar diben sydd wrth ei wraidd.
Mewn ymateb, mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad prosiect Camau i’r Dyfodol. Mae’r prosiect 3 blynedd hwn, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i gefnogi ysgolion a lleoliadau drwy’r broses o drawsnewid y cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar ddilyniant ac asesu.
Mae Camau i’r Dyfodol yn cefnogi ein huchelgais ar y cyd trwy feithrin gallu a dwyn ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i gyd-ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant i bob dysgwr sy’n ystyrlon, yn hylaw ac yn gynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth drwy ein Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, sy’n creu gofodau i ysgolion a lleoliadau a phartneriaid addysgol fyfyrio ar ddilyniant ac asesu yng nghyd-destun eu harfer personol eu hunain a rhannu eu profiadau a’u dulliau gweithredu.
Ein huchelgais ar gyfer prosiect Camau i’r Dyfodol a’r sgyrsiau hyn, a’r holl gefnogaeth o ran pwrpas, dilyniant ac asesu, yw:
- Dod a’r holl bartneriaid addysgol at ei gilydd, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, i ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd eu hunain i feithrin dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant, gan gefnogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
- Meithrin dealltwriaeth o sut y gellir datblygu’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn effeithiol ar gyfer holl ddisgyblion Cymru drwy’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg.
- Cefnogi datblygiad arfer a all wireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys edrych heibio’r gweithredu i esblygiad tymor hir y cwricwlwm.
- Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn hylaw i ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol, wedi’i lywio gan dystiolaeth gyda thegwch, uniondeb ac aliniad rhwng pob rhan o’r system.
- Darparu sylfaen dystiolaeth esblygol, a all fwydo’n ôl i’r system a rhoi gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla seiliedig ar ddilyniant, arfer proffesiynol, a newid addysgol.
- Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn cynhyrchu adnoddau ac allbynnau i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaeth bellach yn eu hysgolion neu leoliadau. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cyhoedd drwy Hwb.
Wrth i’r sgyrsiau hyn gychwyn ar waith y prosiect, byddwn yn sefydlu grŵp cyd-adeiladu i arwain gweithgareddau, ffocws ac allbynnau’r prosiect, gan sicrhau ei fod yn ymgysylltu â’r holl sector addysg yng Nghymru.
Cadwch lygad ar flog Cwricwlwm i Gymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Camau i’r Dyfodol, a fydd yn cynnwys newyddion am ddigwyddiadau sydd i ddod a deunyddiau cyhoeddedi.
Mae Camau i’r Dyfodol yn adeiladu ar brosiect a gwblhawyd yn 2020 – eto mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu’r prosiect yn gweithio gyda gweithwyr addysg proffesiynol ac yn canolbwyntio ar ddilyniant dysgu wrth ddatblygu cwricwlwm i Gymru 2022. Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am y prosiect hwnnw, gan gynnwys yr adroddiad interim a therfynol o’r canfyddiadau.