Diwrnodau agored israddedig
Os wyt ti’n gwneud cais i astudio dy radd gyntaf, mae ein digwyddiadau agored wedi’i gynllunio i dy helpu di i deimlo’n hyderus ac yn wybodus. Mae croeso i deuluoedd a chefnogwyr.
Digwyddiadau israddedig sydd ar ddod
Cynhelir digwyddiadau agored israddedig ar ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin.
Yn y digwyddiadau hyn, gelli di:
- Ddewis diwrnod agored neu noson agored, a dyddiad a lleoliad sy’n gweithio orau i ti - does dim angen i ti fynd i bob digwyddiad
- siarad â thimau academaidd am gyrsiau a addysgir ar bob campws
- cwrdd â myfyrwyr presennol a gofyn cwestiynau am astudio a bywyd myfyrwyr
Ar ôl i ti ddod o hyd i’r digwyddiad cywir, gelli di archebu dy le mewn munudau.
Dangosir digwyddiadau yn nhrefn y dyddiad, gan ddechrau gyda’r digwyddiad nesaf sydd ar gael.
Dewisa dy ddigwyddiad
Ddim yn siŵr pa ddigwyddiad sy’n iawn i ti? Dyma beth i’w ddisgwyl o bob opsiwn.
Teithio a chyrraedd
Mae ein holl gampysau yn hawdd i’w cyrraedd ar drên, bws, beic neu mewn car.
Dewisa gampws i weld gwybodaeth am:
- gyrraedd a ble i gofrestru
- cyfarwyddiadau a mapiau
- parcio
- mynediad
Dewisa dy gampws i weld gwybodaeth am deithio
Cei di fanylion llawn ar gyfer cyrraedd yn dy e-bost i gadarnhau dy fod ti wedi archebu lle.
-
Ble i fynd pan gyrhaeddi di:
Cofrestra yn nerbynfa Adeilad IQ ar y llawr gwaelod.
Opsiynau teithio
-
Ble i fynd pan gyrhaeddi di:
Cofrestra yn nerbynfa y Coleg Celf pan gyrhaeddi di.
Bydd y staff yn dy gyfarwyddo di i’r adeilad neu’r man digwyddiad cywir
Opsiynau teithio
-
Ble i fynd pan gyrhaeddi di:
Cofrestra yn y dderbynfa yng Nghanolfan Halliwell.
Bydd staff a llysgenhadon myfyrwyr yn barod i dy gyfarch di.
Opsiynau teithio
Cyn i ti gyrraedd
Rhestr wirio gyflym i dy helpu di i fanteisio i’r eithaf ar dy ymweliad.
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau cyffredin am ddiwrnodau agored a nosweithiau agored.
-
Oes. Bydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw er mwyn dod.
Mae archebu lle yn ein helpu ni i gynllunio’r digwyddiad ac anfon y manylion a’r diweddariadau perthnasol atoch chi.
-
Ydyn. Mae ein digwyddiadau a’n campysau yn hygyrch.
Gallwch chi ddweud wrthym ni am unrhyw anghenion cymorth pan fyddwch chi’n archebu lle, a bydd staff ar gael ar y diwrnod.
-
Mae parcio yn amrywio yn ôl campws.
Byddwn ni’n anfon gwybodaeth am deithio a pharcio ar ôl i chi archebu lle, fel y gallwch chi gynllunio ymlaen llaw.
-
Cewch. Mae croeso i chi ddod â rhieni, gofalwyr, cefnogwyr, neu blant.
Cewch chi ddweud wrthym faint o bobl sy’n dod pan fyddwch chi’n archebu lle.
-
Nac oes. Dim ond un archeb y mae ei hangen arnoch chi.
Gallwch chi gynnwys pawb sy’n dod yn rhan o’ch archeb.
Cysylltu â ni
Mae ein tîm yma i dy helpu di gydag archebu, gwybodaeth deithio, neu unrhyw beth arall y mae ei angen arnat ti cyn dy ymweliad.
Yn barod i ddechrau dy daith yn y brifysgol?
Yn barod i ddechrau dy daith yn y brifysgol?
Dere i ymweld â’r campws rwyt ti wedi’i ddewis, cwrdd â dy ddarlithwyr, a gweld sut mae bywyd myfyrwyr yn PCYDDS.
Archeba dy le mewn munudau.