Skip page header and navigation

Ysgol Tsieinëeg Athrofa Confucius

Cyflwyniad

Mae Athrofa Confucius ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi creu ysgol unigryw yng Nghymru lle mae plant o gefndiroedd Tsieineaidd a Chymreig yn cyfarfod bob dydd Sul yn ystod y tymor i ddysgu Tsieinëeg a chael profiad o ddiwylliant Tsieina.​ Rydym yn croesawu disgyblion o bob cefndir.

Rydym yn Ganolfan Profion Rhyngwladol Caergrawnt ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel AS mewn Mandarin. Rydym hefyd yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y Prawf Tsieinëeg i Ieuenctid (YCT) a phrawf hyfedredd iaith Tsieinëeg HSK sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.  Mae ein staff addysgu hyfforddedig yn deall anghenion dysgu myfyrwyr yn y DU ac yn darparu addysg o’r safon orau. 

Mae’r ysgol yn cynnig cwricwlwm sydd wedi’i strwythuro’n ofalus yn sgiliau craidd Siarad, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu Tsieinëeg - er mwyn cefnogi disgyblion rhwng 5 a 18 oed o lefel dechreuwyr hyd at lefel uwch. Nod y dosbarthiadau yw cefnogi gallu disgyblion ac annog dysgu cyson.

Confucius Institute logo

Cyrsiau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025 i 2026

Oed yn Fras

Grŵp Blwyddyn yn yr Ysgol

Dosbarth yn yr Ysgol Tsieinëeg

Cymhwyster

5 i 7 oed

Blynyddoedd 1 i 2

Dosbarth Dechreuwyr A (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth Dechreuwyr B (ail flwyddyn)

Dim

6 i 8 oed

Blynyddoedd 2 i 4

Dosbarth 1 (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth 1 (ail flwyddyn)

YCT
Lefelau 1 i 2

8 i 10 oed

Blynyddoedd 2 i 4

Dosbarth 2 (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth 2 (ail flwyddyn)

YCT
Lefelau 2 i 3

11 i 12 oed

Blynyddoedd 4 i 6

Dosbarth 3 (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth 3 (ail flwyddyn)

YCT
Lefelau 3 i 4

12 i 15 oed

Blynyddoedd 7 i 10

Dosbarth 4 TGAU (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth 4 TGAU (ail flwyddyn)

IGCSE

14 i 18 oed Blynyddoedd 9 i 13 Dosbarth 5 HSK 4 uwch
Dosbarth 5 HSK 4 is
HSK 4
15 i 18 oed Blynyddoedd 10 i 13 Dosbarth 6 Lefel UG (blwyddyn gyntaf)
Dosbarth 6 Lefel UG (ail flwyddyn
HSK 5

Dewis Cyrsiau ar Sail Oedran a Gofynion Mynediad. 

Os nad ydych yn sicr pa gwrs sy’n addas i’ch plentyn, e-bostiwch cichineseschool@uwtsd.ac.uk neu cysylltwch â Phennaeth yr Ysgol Tsieineaidd, Cindy Chen, yn c.chen@uwtsd.ac.uk . Byddem yn hapus i drefnu cyfarfod i drafod y dosbarth mwyaf addas ar gyfer eich plentyn.

Cofrestru a Thalu Ffioedd

Cofrestru a thalu ar Siop Ar-lein PCYDDS.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i gwblhau’r taliad ar-lein a chofrestru oherwydd rhwystrau iaith, cysylltwch â neu c.chen@uwtsd.ac.uk.cichineseschool@uwtsd.ac.uk

Archebu gwerslyfrau ar gyfer Dosbarthiadau Dechreuwyr 1 a 2

Dyddiadau Tymor 2025 i 2026

  • Cyfnod 

    Dechrau

    Gwyliau

    Diwedd

    Cyfanswm yr wythnosau

    Tymor yr Hydref 2025

    Dydd Sul 7 Medi

    Dydd Sul 26 Hydref 

    Dydd Sul 14 Rhagfyr

    14 wythnos 

    Tymor y Gwanwyn 2026

    Dydd Sul 4 Ionawr

    Dydd Sul 15 Chwefror 

    Dydd Sul 29 Mawrth

    12 wythnos

    Tymor yr Haf 2026

    Dydd Sul 19 Ebrill

    Dydd Sul 24 Mai 

    Dydd Sul 19 Gorffennaf

    13 wythnos
    Cyfanswm  39 wythnos
  • Gwyliau

    Dyddiad yr ŵyl
    (Dyddiad y digwyddiad i’w gadarnhau)

    Math o ddigwyddiad

    Gŵyl Canol yr Hydref

    06/10/2025
    05/10/2025

    Digwyddiad ysgol gyfan
    Diwrnod Agored yr Ysgol Tsieinëeg

    Gŵyl y Gwanwyn

    17/02/2026
    15/02/2025

    Digwyddiad ysgol gyfan
    Diwrnod Agored yr Ysgol Tsieinëeg

    Gŵyl Cychod y Ddraig

    19/06/2026
    21/06/2026

    Digwyddiad ysgol gyfan
    Diwrnod Agored yr Ysgol Tsieinëeg

  • Arholiadau

    Dyddiad

    Nodiadau

    YCT

    Mai 2026

    Dyddiad yr arholiad i’w gadarnhau

    IGCSE

    Prawf llafar: Ebrill 2026
    Gwrando, darllen ac ysgrifennu: Mai 2026

    Dyddiad yr arholiad i’w gadarnhau

    Moc cyntaf: Rhagfyr 2025

    Ail foc: February 2026