Skip page header and navigation

Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae Crefftau Dylunio yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu’r sgiliau dylunio a chreu 3D creadigol y mae eu hangen arnoch i weithio’n broffesiynol â gwydr, cerameg, a gemwaith. Hynny drwy ganiatáu i chi ddarganfod eich llais creadigol wrth ddatblygu sgiliau traddodiadol o ran sgiliau gwneud â llaw a dulliau cyfoes megis rhai torri dŵr jet laser ac argraffu 3D.

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod amrywiol o arferion deunydd a phrosesau, gan gynnwys cerameg, prosesau gwydr oer ac odyn, pren, metel, plastigau, gwydr ffibr a resinau, tecstilau, gemwaith, gwneud mowldiau, dulliau torri laser a dŵr jet, CAD / CAM, argraffu 3D a sganio.

Byddwch yn profi rhaglen gynhwysfawr o addysg ymarferol ar sail gweithdai, a ategir gan astudiaethau cyd-destunol a hanesyddol, lleoliadau, interniaethau a phreswyliadau.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr, sgiliau ymarferol a dulliau arloesol i arferion crefft cynaliadwy, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol a dyfeisgarwch i’ch galluogi i sefydlu ymatebion newydd ym maes esblygu crefftau dylunio.

Wedi ei ddarparu gan dîm o ymarferwyr crefft sefydledig gydag enw da yn rhyngwladol ac a gefnogir gan dîm technegol profiadol, bydd eich profiad yn cael ei wella ymhellach gan y rhaglen o ddarlithwyr ac ymarferwyr sy’n ymweld â’i gilydd. Mae sgiliau entrepreneuraidd yn rhan annatod o’r cwrs.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
GCJ1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Archwilio eich angerdd am ddeunyddiau a gwneud.
02
Datblygu sgiliau a phrofiad gweithdy proffesiynol.
03
Darganfod ffyrdd o ddatblygu a chynnal gyrfa rydych chi'n ei charu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y DU enw da ledled y byd am grefft a dylunio creadigol ac arloesol, gyda galw mawr am raddedigion o’r sectorau hyn ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Bydd graddedigion o’n cwrs Crefftau Dylunio yn datblygu sgiliau creadigol, datrys problemau, dylunio a gwneud cryf y gellir eu rhoi ar waith i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth, o hunangyflogaeth (yn artistiaid annibynnol, dylunwyr a gwneuthurwyr) hyd at weithio i gwmnïau sefydledig mewn amrywiaeth o rolau.

Mae entrepreneuriaeth wedi’i gwreiddio yn y cwrs, gyda thrafodaethau eang o’r dulliau amrywiol o ddatblygu a chynnal ymarfer creadigol yn ogystal â dod o hyd i lwybrau i gyflogaeth yn y sector agos a’r tu hwnt. Caiff hyn ei wella drwy ddarlithoedd rheolaidd gan wneuthurwyr ymarfer gwadd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.

Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn cefnogi datblygiad eich syniadau a’ch dyluniadau creadigol drwy gydol y cwrs ac yn eich cyflwyno i arloesiadau cyfredol mewn deunyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf. Yn ogystal â staff parhaol, bydd y myfyrwyr yn elwa o ymgysylltu parhaus ag amrywiaeth o artistiaid gwadd, cyn-fyfyrwyr a darlithwyr.

Mae’r Cwrs Crefftau Dylunio yn ymfalchïo mewn ystod eang o gyfleusterau gwneud arbenigol, a gefnogir gan amrywiaeth gynhwysfawr o weithdai cyffredinol.

Mae modylau blwyddyn gyntaf wedi’u cynllunio i sefydlu llwyfan craidd o sgiliau hanfodol i bob myfyriwr ac annog datblygu dylunio a gwneud mewn gwydr, cerameg a gemwaith:

  • Arferion Cyd-destunol i ddatblygu a chyfoethogi gwybodaeth y myfyriwr am ddylunio a chrefft.
  • Modylau Dylunio a Gwneud sy’n datblygu lluniadu 2D a 3D a llythrennedd gweledol trwy ddeunyddiau.
  • Ymarfer Proffesiynol i ennill sgiliau craidd mewn portffolios digidol a phresenoldeb ar-lein.
  • Gweithdai deunyddiau i adeiladu sgiliau’r myfyriwr wrth weithio gyda gwydr, cerameg a deunyddiau eraill.
  • Gwybodaeth am ddylunio a deunyddiau er mwyn rhoi dealltwriaeth o ddylunio a chrefft.

Mae myfyrwyr ail flwyddyn yn datblygu’r wybodaeth, y galluoedd ymarferol a’r creadigrwydd i ymgymryd â gwireddu dylunio ac arteffactau crefft. Maent yn gallu gweithio’n ddylunydd, gwneuthurwr unigol neu yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ar gyfer cynhyrchu crefftau dylunio. Yn ystod y flwyddyn hon caiff myfyrwyr brofiad o ‘friffiau byw’ a senarios sy’n seiliedig ar gleientiaid.

Mae modylau trydedd flwyddyn wedi’u cynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr lunio eu cyfeiriad gyrfa unigol eu hunain a’u dyheadau yn un o raddedigion crefftau dylunio. Mae’r myfyrwyr yn dewis ac yn rheoli eu prosiectau personol a mawr eu hunain gyda chefnogaeth y tîm staff er mwyn iddynt allu dangos eu sgiliau a’u profiad craidd a datblygu:

  • Gwybodaeth uwch am grefftau dylunio, meddwl ac ymarfer.
  • Athroniaeth dylunio bersonol i fod yn sail i’w harfer presennol ac yn y dyfodol.
  • Ymwybyddiaeth uwch o werth eu gallu deallusol a chreadigol a strategaeth wedi’i diffinio’n dda ar gyfer brand personol a datblygu gyrfa.

Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn yn paratoi ar gyfer eu lansio i’r farchnad i raddedigion gyda chymorth Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi a Menter y Brifysgol.

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Arfer Proffesiynol 1

(20 credydau)

Arfer Proffesiynol 2

(20 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Myfyriwr Gwydr yn gweithio ar brosiect

Cyfleusterau Crefft Dylunio

Mae’r adran Crefftau Dylunio yn falch o’i hystod eang o gyfleusterau gwneud a phrosesu arbenigol ar gyfer gwydr, cerameg a gemwaith, wedi’i gefnogi gan arae gynhwysfawr o weithdai cyffredinol.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle rhoddir ystyriaeth i’ch sgiliau, cyflawniadau a phrofiad bywyd yn ogystal â’ch portffolio gwaith.

    Ein cynnig arferol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu’n uwch mewn Cymraeg Iaith (neu Saesneg) ar lefel TGAU, ynghyd â llwyddo pedwar pwnc arall. Ac rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tri TAG Safon Uwch neu gyfatebol
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag isafswm graddau Teilyngdod
    • Sgôr o 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill ar sail unigol

    Mae cymwysterau’n bwysig, fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol cysylltwch â’r tiwtor derbyniadau cyrsiau neu anfonwch e-bost i artanddesign@pcydds.ac.uk gan y gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr yn seiliedig ar deilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Y tri phrif ddull asesu a ddefnyddir ar y rhaglen hon yw:

    Prosiectau Stiwdio – gwaith a wnaed i gyflawni gofynion briff penodol neu a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr. Bydd prosiectau’n archwilio galluoedd y myfyriwr i feistroli integreiddio egwyddorion a sgiliau dylunio newydd i’w / ei hymarfer dylunio. Gall prosiectau stiwdio gael eu gosod a’u cynnal mewn amrywiaeth o ffurfiau a thros ystod o hyd, a chynnwys gweithgaredd yn y gweithdai gwydr, stiwdios CAD yn ogystal â stiwdios dylunio traddodiadol. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno amrywiaeth o fathau o waith i’w hasesu megis; portffolios, llyfrau braslunio a chylchgronau prosiect, byrddau cyflwyno, modelau tri dimensiwn, samplau o ddeunyddiau ac arteffactau.

    Aseiniadau Ysgrifenedig – gwneir gwaith gan y myfyriwr yn ei amser ei hun. Gall aseiniadau ysgrifenedig fod ar ffurf papur neu adroddiad wedi’u hegluro. Yn y naill achos a’r llall, disgwylir i’r myfyriwr ddangos canfyddiad beirniadol a hyfedredd wrth gyfleu canlyniadau ymarfer neu aseiniadau sy’n seiliedig ar ymchwil.

    Cyflwyniadau Seminar – mae’r math hwn o asesiad yn gofyn i’r myfyriwr ddangos dealltwriaeth gysyniadol a gwerthuso trylwyredd a dilysrwydd ymchwil gyhoeddedig. Gall seminarau fod ar ffurf cyflwyniadau unigol a/neu grŵp i gyfoedion a grwpiau proffesiynol eraill.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.

    Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.  

    Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi.  Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Erasmus

    Yn ystod eich amser gyda ni, cewch chi gyfle i astudio dramor gyda rhaglenni cyfnewid Erasmus sy’n rhedeg ar hyn o bryd gyda Phrifysgolion yn Norwy, Barcelona a Sweden.

    Astudio Dramor

    Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn UDA a Chanada.

  • Mae gan Goleg Celf Abertawe record hir a llwyddiannus o gynhyrchu graddedigion o’r radd flaenaf ym meysydd celf a dylunio.

    Mae llwybrau gyrfa posib wedi cynnwys:

    • Sefydlu eich hun yn artist, dylunydd neu wneuthurwr.
    • Sefydlu stiwdio yn unig gyflenwr neu mewn partneriaeth ag eraill
    • Wedi’u cyflogi mewn stiwdios gwydr, cerameg neu emwaith arbenigol.
    • Ymgysylltu â gwaith llawrydd ar brosiectau pensaernïol a mewnol
    • Dylunio ar gyfer diwydiant neu weithio yn y diwydiannau gwydr, cerameg a gemwaith.
    • Gweithio ar gomisiynau preifat a chyhoeddus
    • Gweithio ar brosiectau celf a phrosiectau cymunedol
    • Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys gweinyddu’r celfyddydau, curadu, addysgu a mentora, gwaith cymunedol a golygyddol celfyddydol.
    • Parhad astudiaethau i lefel ôl-raddedig ar ein rhaglen MA.
    • Mae rhagor o ymchwil academaidd sy’n arwain at MPhil, neu PhD ar gael.

    Mae’n bosibl y bydd graddedigion yn cymryd rhan yn naturiol mewn amrywiaeth eang o’r cyfleoedd hyn ac yn fwy ac yn fwy, mae graddedigion yn mynd i weithio yn y sector diwydiannau creadigol ehangach lle mae’r sgiliau meddwl dylunio a rheoli prosiectau a ddatblygwyd ar y cwrs yn dod i’r amlwg. Bwriad y modwl Datblygiad Proffesiynol yw galluogi myfyrwyr blwyddyn olaf i ddatblygu eu proffil allanol a pharatoi ar gyfer ymarfer proffesiynol.

    Mae Coleg Celf Abertawe’n arddangos gwaith myfyrwyr yn flynyddol mewn arddangosfeydd dylunio a recriwtio graddedigion mawr, sy’n arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac yn arddangosfa New Designers yn Llundain yn lansiad ar gyfer gyrfa ddylunio gynnar.

    Mae myfyrwyr yn elwa o gyfleoedd i weithio ar gomisiynau byw amrywiol gyda phartneriaid yn y diwydiant. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad, dylunio ar gyfer comisiynau byw yn rhan o’u gwaith cwrs, neu yn ychwanegol at eu gwaith cwrs. Dewisir myfyrwyr ar sail teilyngdod, drwy gystadlaethau, i weithio ar gomisiynau byw sy’n dangos ymhellach y safonau uchel a gyflawnwyd.

Mwy o gyrsiau Art, Design and Photography

Chwiliwch am gyrsiau