
Cyfleusterau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio Caerfyrddin
Ein Cyfleusterau
Yn fyfyriwr ffilm, cyfryngau a diwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o fannau stiwdio, ystafelloedd golygu, gweithdai, a mannau theatr.
Ein Cyfleusterau
Ymhlith ein cyfleusterau Ffilm a Chyfryngau arbenigol mae:
Mae gan fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur fynediad at labiau Mac, stiwdio sgrin werdd, ac ystafell olygu ôl-gynhyrchu, yn ogystal â Chanolfan Addysg Awyr Agored Cynefin. Gall myfyrwyr ddefnyddio gweithfannau i fireinio eu gwaith golygu a thrafod gwaith gyda chymheiriaid. Mae’r ystafell olygu ôl-gynhyrchu yn defnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfrifiaduron Apple Mac gydag offer sain i raddio a thrin elfennau gweledol a sain eu ffilmiau, a’u sgrinio er mwyn cael adborth. Hefyd, mae gan fyfyrwyr fynediad at bensetiau Rhith-wirionedd ac Ystafell Drochi ar y campws lle gellir creu ac arddangos amgylcheddau digidol. Yn ein storfa offer clyweled gallwch gwrdd â’n harddangoswyr technegol i drafod syniadau, archebu, a chasglu offer. Rydym yn defnyddio ystod o frandiau offer camera gan gynnwys Canon, Lumix, OM Digital, Zoom, Benro, Insta360, GoPro, a Sennheiser.
Ein Lleoliad
Mae Caerfyrddin yn ganolfan gyfoethog a bywiog o greadigrwydd sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau o’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformio gyda phrosesau ffilm a chyfryngau digidol uwch-dechnoleg, i greu cymuned ddysgu ddeinamig, arloesol a chyffrous. Mae’r campws yn bair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid wedi’i leoli o fewn adeiladau trawiadol ac eiconig. Mae ein lleoliad ger arfordir bendigedig, coetir dramatig, a chestyll hynafol. Mae pob un yn le gwych i greu gwaith gwreiddiol.
Gwahanol fath o ystafell ddosbarth mewn profiad trochol ar y campws
Rydym yn tanysgrifio i’r syniad bod pob man yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Yn y cyfleoedd hynny i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau y caiff syniadau eu llunio, trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chael cyfleoedd.
P’un a ydych yn wneuthurwr ffilmiau, yn ffotograffydd, neu’n ymchwilydd, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr creadigol, actorion, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, dylunwyr setiau, perfformwyr, cyfarwyddwyr, ac addysgwyr antur.
Gwneud Ffilmiau Antur (BA Anrh)
Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur wedi’i lleoli mewn lleoliad unigryw sy’n elwa ar dirluniau arfordirol a mynyddig hardd. Mae alldeithiau rheolaidd a gweithdai lleoliad yn galluogi i fyfyrwyr ffilmio a thynnu llun natur a gweithgareddau anturus dan arweiniad ymarferwyr profiadol.
Cynhyrchu
Bydd hyfforddiant cynhyrchu’n cael ei gynnal ar leoliad ac yn ein stiwdios a labordai cyfrifiadurol. Bydd gan fyfyrwyr fynediad i’n hystafell sgrinio trochi Samsung arloesol, yn ogystal ag ystafell Apple Mac sydd â monitorau 4K mawr a meddalwedd Adobe Creative Cloud. Hefyd, mae mannau creadigol yno fel Y Llwyfan, Ystafell Sgrin Werdd, Ystafell Olygu Ôl-gynhyrchu, a chyfleusterau sgrinio.
Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin y Brifysgol yn cynnwys hwb werdd, trac pwmp, wal ddringo, storfeydd offer antur, a mynediad i gaeau, cynefinoedd a thirluniau naturiol.
Cydweithio
Rydym yn cydweithio ar nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda darlledwr cenedlaethol Cymru, S4C, yn ei gartref yng nghanolfan Yr Egin. Mae digwyddiadau fel yr Ŵyl Ffilmiau Antur, arddangosfa graddedigion, a gweithdai gyda brandiau camera enwog yn caniatáu i fyfyrwyr gysylltu gyda’r diwydiant. Hefyd, mae tenantiaid cynhyrchu cyfryngau yno sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiadau o’r diwydiant.
Penset VR

Sgrin Werdd

Ystafelloedd Mac

Ystafell Drochi

Ystafell Drochi
Mae ein hystafell sgrinio trochi Samsung o’r radd flaenaf yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau.





Oriel gyfleusterau
Bywyd ar y Campws

Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.