Skip page header and navigation

Cyflwyniad Diwrnod Agored

Dewch i ymweld â ni a Darganfod Y Drindod Dewi Sant

Mae ein Diwrnodau Agored a’n Nosweithiau Agored yn gyfle perffaith i ddarganfod beth sydd gan ein cyrsiau a’n campysau i’w gynnig i chi. Bydd diwrnod agored yn rhoi blas i chi o astudio gyda ni, a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol a rhai o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd bwysicaf i chi, wrth benderfynu beth a ble i astudio. Cofrestrwch eich manylion heddiw i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau sydd ar ddod. 

Diwrnodau Agored sydd i ddod

Diwrnodau Agored sydd i ddod


Caerdydd

Dydd Sadwrn, 31 Ionawr 10yb - 2.30yp 

Cyrsiau sydd ar gael
BA Theatr Gerddorol | BA Perfformio (Cyfrwng Cymraeg) 

Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle gwych i chi gael blas go iawn ar sut brofiad yw astudio gyda ni yma yn Y Drindod Dewi Sant Caerdydd. Yn ystod y dydd, cewch fynediad at sesiynau cwestiwn ac ateb byw.

Canllawiau a Gwybodaeth am Ddiwrnodau Agored

Canllawiau a Gwybodaeth am Ddiwrnodau Agored