Skip page header and navigation

ID Myfyrwyr

Bydd gennych fynediad at eich cerdyn adnabod digidol ar ap Hwb unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Os hoffech gael cerdyn adnabod, siaradwch â thîm Hwb yn ystod eich Diwrnod Croeso

Ni fyddwn yn gallu argraffu eich cerdyn adnabod nes i chi lanlwytho llun i’ch cyfrif MyTSD. Gwnewch hyn cyn cofrestru. 

Undeb y Myfyrwyr

Mae person mewn siwt draig borffor fwythus yn cofleidio menyw ifanc sy’n chwerthin.

Croeso @ Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Gall Undeb y Myfyrwyr gynnig cyngor, cefnogaeth a chynrychiolaeth i chi tra byddwch yn astudio yn Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynllunio wythnos llawn gweithgareddau a digwyddiadau ar draws y campysau i ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Unibuddy

Sgwrsiwch gyda’n myfyrwyr presennol – lle byddan nhw’n onest ac yn llawn gwybodaeth. 

Poeni am fywyd myfyriwr? Neu angen mwy o wybodaeth am gwrs? 

Byddant yno i’ch cynorthwyo gyda beth bynnag sydd ei angen arnoch.

Eich Digwyddiad Croeso

Bydd angen i chi gadarnhau eich lle yn y digwyddiad trwy lenwi’r ffurflen gais, gofynnwn i chi gwblhau hwn cyn gynted â phosibl. 

Os ydych chi’n dechrau eich cwrs ar ôl mis Medi 2025, bydd tîm eich rhaglen mewn cysylltiad â chi gyda manylion am eich digwyddiad croeso a’ch sesiwn sefydlu. Chwiliwch am hyn yn eich mewnflwch, bydd yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych pan wnaethoch chi gais.

Bydd cofrestru’n agor o fewn 3 wythnos cyn eich dyddiad cychwyn swyddogol, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau hyn ar-lein trwy borth MyTSD.

Angen help? Mae ein canllaw defnyddiol yn eich tywys trwy’r broses gam wrth gam. Ac os hoffech chi gael ychydig mwy o gymorth, cysylltwch â ni: hwb@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 0300 131 3030 a byddwn yn hapus i helpu.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau’r penwythnos cyrraedd ar Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ac Ap HWB.

Silff yn llawn bagiau siopa pinc gyda brandio PCYDDS arnynt.

Cysylltu ac logio ymlaen