Llyfrgelloedd Abertawe
Mae ein campws yn ninas yn Abertawe yn gartref i ddwy lyfrgell sydd ar gael i’n holl fyfyrwyr. Campws Busnes Abertawe yw cartref ein llyfrgell yn ein safle yng nghanol y ddinas sydd ger Coleg Celf Abertawe ac yn agos at lawer o’r llety myfyrwyr yn y ddinas. I lawr yn ein Hardal Arloesi newydd sbon fe welwch ein llyfrgell ddiweddaraf, Y Fforwm, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe, Dociau Abertawe ac Afon Tawe.
Cyfleusterau’r Fforwm
Mae’r Fforwm yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Y Fforwm a ble y gellir dod o hyd iddynt isod.
-
P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).
Mae StackMaps ar gyfer Llyfrgell Campws Busnes Abertawe isod.
Ystafelloedd Astudio y Llawr Isaf
Ystafelloedd Astudio yr Ail Lawr
-
- Mae mynedfeydd hygyrch bob ochr i’r adeilad.
- Mynediad mewn lifft i bob llawr.
- Toiledau hygyrch ar gael ar bob llawr.
- Ffynhonnau dŵr hygyrch ar bob llawr.
-
- Mae ein casgliadau llyfrau a chyfnodolion wedi’u lleoli ar yr ail lawr.
- Mae desg ymholiadau’r llyfrgell wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf ac mae peiriannau hunanfenthyca ar y llawr cyntaf a’r ail lawr.
- Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau ar y llawr gwaelod.
- Mae loceri wedi’u lleoli ar y llawr cyntaf a gellir benthyg allweddi bob dydd.
- Mae peiriannau gwerthu sy’n cael ei reoli gan staff y Gwasanaethau Arlwyo ar gael ar y llawr gwaelod
- Mae gofod arddangos ar y llawr gwaelod ar gyfer dangos gwaith myfyrwyr, arddangoswyr allanol, ac eitemau o’n Casgliadau Arbennig ac Archifau.
-
Mae teithiau o gwmpas Y Fforwm ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.
- Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
- Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
- Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
- Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.
Cyfleusterau Llyfrgell Campws Busnes Abertawe
Mae’r Llyfrgell wedi’i lleoli ar y llawr 1af ar Gampws Ysgol Fusnes Abertawe. Mae’r Llyfrgell yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr.
-
P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).
Mae StackMaps ar gyfer Llyfrgell Campws Busnes Abertawe isod.
-
- Mae mynedfa hygyrch yn nhu blaen Campws Busnes Abertawe.
- Mynediad i’r Llyfrgell mewn lifft o’r llawr gwaelod.
- Mae toiled mynediad i’r anabl ar y llawr gwaelod.
- Ffynhonnau dŵr hygyrch ar bob llawr.
-
- Mae ein casgliadau llyfrau a chyfnodolion wedi’u lleoli ym mhrif ardal y Llyfrgell.
- Mae desg y Llyfrgell a’r peiriant hunan-fenthyca wedi’u lleoli ym mhrif ardal y Llyfrgell.
-
Mae teithiau o gwmpas llyfrgell Campws Busnes Abertawe ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.
- Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
- Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
- Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
- Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.