Arloesi mewn Iechyd a Lles: PCYDDS a RSA yn Lansio Cyfres o Ddarlithoedd Newydd gyda Digwyddiad Agoriadol Ysbrydol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) wedi lansio eu Cyfres o Ddarlithoedd Arloesol newydd yn llwyddiannus gyda digwyddiad cychwynnol pwerus yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Daeth y ddarlith gyntaf yn y gyfres chwarterol, ar y thema “Arloesi mewn Iechyd a Lles,” â chynulleidfa o academyddion, myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ac aelodau’r cyhoedd ynghyd i archwilio sut y gall arloesi drawsnewid y ffordd rydym yn ofalu am bobl a chymunedau.
Mae’r gyfres a ddatblygwyd gan Alan Mumby, Darlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) PCYDDS wedi’i chynllunio i dynnu sylw at arloesi ar draws sawl sector a meithrin deialog rhwng addysg, menter a chymdeithas.

Roedd y noswaith yn cynnwys prif gyflwyniadau gan Dr Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Virtual Ward Technologies a’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS. Rhannodd y ddau siaradwr fewnwelediadau grymus am bŵer arloesi i wella canlyniadau iechyd, gyrru trawsnewid digidol, a gwella lles.
Swynodd Dr Thomas y gynulleidfa gydag enghreifftiau o’i waith arloesol ym maes technoleg feddygol ac iechyd digidol, tra adfyfyriodd yr Athro Davies ar bwysigrwydd rheolaeth arloesi ac arweinyddiaeth wrth lywio dyfodol systemau gofal iechyd a datblygu’r gweithlu.

Meddai’r Athro Gareth Davies ar ôl y digwyddiad:
“Roedd yn ysbrydol gweld cymaint o bobl o ddisgyblaethau gwahanol yn dod ynghyd i rannu syniadau a herio rhagdybiaethau. Mae’r bartneriaeth newydd hon rhwng PCYDDS a RSE yn darparu llwyfan parhaus ar gyfer cydweithredu, creadigrwydd, ac effaith.”
Bydd y Gyfres o Ddarlithoedd Arloesi, a gyflwynir mewn cydweithrediad â RSA yn parhau drwy gydol flwyddyn academaidd 2025-2026 gyda digwyddiadau’n archwilio:
Gaeaf 2026: Arloesi mewn Technoleg a Gwyddoniaeth
Gwanwyn 2026: Arloesi yn y Sector Gweithgynhyrchu
Haf 2026: Arloesi yn y Diwydiannau Creadigol
Cynhelir pob darlith ar gampws SA1 Glannau Abertawe, a byddant yn cael eu ffrydio’n fyw i sicrhau hygyrchedd ar gyfer cynulleidfaoedd eang.
Nododd y digwyddiad lansio gerrig milltir arwyddocaol ar ymrwymiad PCYDDS i feithrin arloesi, cydweithredu rhyngddisgyblaethol, ac effaith gymdeithasol, gan adlewyrchu partneriaeth barhaus y Brifysgol gyda sefydliadau sy’n rhannu ei gweledigaeth am lywio dyfodol mwy cynaliadwy a theg.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476