Skip page header and navigation

Mae’r fyfyrwraig Arwen Garland, sy’n astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cael ei choroni’n Weinydd Ifanc y Flwyddyn 2025 yng nghystadleuaeth fawreddog Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Stadiwm Swansea.com. Gwnaeth y ferch 19 oed o Abertawe argraff ar y beirniaid gyda’i phroffesiynoldeb, ei sgiliau a’i hangerdd dros letygarwch, gan sicrhau’r wobr uchaf yn y categori gweinydd. 

Image of Arwen holding a bottle of rum and trophy

A hithau’n Gymraes rugl  o Abertawe, dechreuodd angerdd Arwen am letygarwch yn yr union leoliad hwn ar ei  phen-blwydd yn 16 oed, pan weithiodd ei shifft gyntaf yn ystod  cyngerdd Elton John. Ers hynny, mae hi wedi codi trwy’r rhengoedd, gan ennill profiad mewn timau cynadleddau a digwyddiadau, criwiau gosod, a lletygarwch diwrnod gêm. Heddiw, ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae hi hefyd yn oruchwyliwr bar yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe.

Dewisodd Arwen astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn PCYDDS oherwydd pwyslais cryf y cwrs ar ddysgu ymarferol ac ymgysylltu â’r diwydiant. Mae hi eisoes wedi cofnodi dros 100 awr o brofiad gwaith, gan gynnwys helpu i gyflwyno Cynhadledd Flynyddol ITT a theithio i Farchnad Deithio’r Byd  yn Llundain gyda’i chyd-ddisgyblion.

an image of Arwen serving wine

Wrth fyfyrio ar ei buddugoliaeth, dywedodd Arwen:

“Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd mor anhygoel. Mae fy nghwrs yn PCYDDS wedi rhoi cymaint i mi – o ennill cymwysterau gweini a gwin i archwilio cynaliadwyedd a rheolaeth digwyddiadau – ac rwyf wedi gallu rhoi’r sgiliau hynny ar waith mewn lleoliadau diwydiant go iawn. Un o’r heriau yn y gystadleuaeth oedd ymateb i gwestiynau cyfweliad yn seiliedig ar senarios, gan gynnwys yr hyn sy’n newid ac yn heriol ar hyn o bryd o fewn lletygarwch. Diolch i’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am gynaliadwyedd ac esblygiad parhaus y diwydiant, roeddwn i’n teimlo’n barod ac yn hyderus yn fy ateb.”

Gan feithrin cysylltiadau cryf â busnesau a phartneriaid diwydiant i adeiladu rhwydweithiau sy’n gwella myfyrwyr a chymunedau, roedd y Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gystadleuaeth unwaith eto i ehangu’r rhwydwaith hwn i ymgorffori sector lletygarwch ehangach Cymru.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol a Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn PCYDDS: 

“Rydym yn hynod falch o Arwen am ennill Rownd Derfynol Gweinydd Ifanc Cymru. Mae Arwen yn fyfyrwraig 2il flwyddyn yn astudio Rheolaeth Digwyddiadau sy’n angerddol am Ddigwyddiadau a Lletygarwch ar ôl gweithio yn Stadiwm Swansea.com ers ei bod yn 16 oed. Yn rhan o bartneriaeth PCYDDS ag Arena Abertawe, cwblhaodd ei phrofiad ar leoliad yn y flwyddyn 1af yn yr Arena gan weithio mewn ystod eang o ddigwyddiadau gan ei galluogi i ddod yn Oruchwyliwr Bariau a VIP.

“Mae llwyddiant Arwen yn dangos ffocws cyflogadwyedd y cwrs Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol a sut mae’n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol. Dymunwn bob llwyddiant i Arwen yn cynrychioli Cymru, ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi yn Rowndiau Terfynol y Byd.”

Ychwanegodd Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn PCCYDS: 

“O fewn y gystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc (YYY)  mae Cymru’n enwog am sicrhau lle ar y podiwm buddugol; fel gwlad fach ond wedi’i ffurfio’n berffaith, sy’n arddangos cynnyrch Cymreig a set sgiliau gweithwyr proffesiynol ifanc ym maes lletygarwch Cymru, mae ethos PCYDDS a chystadleuaeth YYY wedi’u cydblethu wrth sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus i’n cystadleuwyr. Edrychaf ymlaen at weithio gydag enillwyr y categorïau wrth baratoi ar gyfer rownd derfynol y Byd a gynhelir yn Llundain ym mis Chwefror 2026.”

3 YYY Winners with their trophies

Mae Arwen yn dathlu ochr yn ochr â Rob Griffiths o Westy Penmaenuchaf yn Nolgellau, enillydd y categori Cogydd Ifanc, ac Ellen Budd o Penny yng Nghaerdydd, enillydd y categori Cymysgydd Ifanc. Mae eu galluoedd rhagorol a’u sgiliau eithriadol wedi eu gosod ar wahân, ac wedi ennill lle i’r enillwyr yn rowndiau terfynol y byd i gynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang yn Llundain, gan arddangos eu doniau i gogyddion, arbenigwyr lletygarwch a chymysgwyr o’r radd flaenaf. 

Dywedodd Cadeirydd YYY, Robert Walton, MBE:

“Erbyn hyn rydyn ni’n gwybod pwy fydd yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Llundain. Gadewch i ni weld sut hwyl gawn nhw eto ar lwyfan y byd gyda chogyddion, gweinyddwyr, a chymysgwyr eraill o bob cwr o’r byd. Mae bob amser yn brofiad anhygoel i sêr ifanc y dyfodol. 

“Y tri tro diwethaf, mae Cymru wedi bod ar y podiwm, felly does dim pwysau ar unrhyw un yma heno! Rydym yn diolch  i Jayne, rydym yn diolch i Gymru, rydym yn diolch i’r Brifysgol am eu holl gefnogaeth, mae’n wych bod yma.”

Panel beirniaid YYY Cymru 2025, ar gyfer y  categori Cogydd oedd Hywel Griffith o’r Beach House, Oxwich;  Tom Simmons o Thomas, Caerdydd; Arwyn Watkins, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru a Cindy Challoner o Goleg Gwent, gyda Chogydd Gweithredol Clwb Pêl-droed Abertawe, Martyn Guest, yn  rheoli’r Gegin a’r man trosglwyddo ar gyfer y gystadleuaeth.

Y beirniaid ar gyfer y  categori Gweinydd oedd Lola Villard-Coles, PCYDDS, James Thomas o Compass Cymru; Andy Downton o Burnt Chocolate ac Antoinette Milne, PCYDDS fel beirniad gwin arbenigol.

Beirniaid y categori Cymysgydd oedd Christopher Wilkin, PCYDDS, Paul Robinson, Prif Swyddog Creadigol Neft Vodka, ac enillydd Cymysgydd YYY Cymru y llynedd, James Borley.

image of yyy winners and judges together

Cafodd cynnyrch a oedd dros ben o’r digwyddiad ei roi i Dŷ Matthew yn Abertawe, sydd â’r nod o ddarparu ‘cartref’ yng nghanol Abertawe i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae’n adeilad sy’n adnabyddus am gynnig lletygarwch a gobaith yn ddiamod – gan ddarparu cymorth hollbwysig i’r digartref ac eraill y mae arnynt ei angen.

Wedi’i sefydlu yn 1979, mae’r gystadleuaeth wedi atgyfnerthu ei phresenoldeb fel digwyddiad hanfodol yng nghalendr y diwydiant lletygarwch yn y DU, gan arddangos grwpiau o gogyddion, gweinyddwyr a chymysgwyr ifanc eithriadol o dalentog, pob un yn cystadlu am deitl mawreddog enillydd Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob cogydd, gweinydd a chymysgydd o dan 28 oed sy’n gweithio yng Nghymru, o unrhyw gefndir.

Mae hanes hir PCYDDS ym maes Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnwys ysgol Lletygarwch a Thwristiaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, gan ddod â gwell cyfleoedd i bobl Cymru.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth blaenllaw ochr yn ochr â rhoi llwyfan i gystadleuaeth Cogydd Ifanc a Gweinydd Ifanc y Byd. Mae modd dilyn y cyrsiau hyn sydd â ffocws ar y diwydiant ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys Rheolaeth Gastronomeg RyngwladolRheolaeth Lletygarwch a GwestaiRheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, gydag opsiynau i ddysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell, ac astudio amser llawn neu ran-amser.

Diolch i’r noddwyr, Neft Vodka, Compass Cymru, Castell Howell, Mor Ladron Rum, Swansea Fish, Towy Fish & Game a Gwesty’r Village, Abertawe.

Wrth edrych ymlaen, mae Arwen yn bwriadu parhau i ennill cymaint o brofiad â phosibl yn ystod ei hastudiaethau, gyda’r uchelgais o symud ymlaen i rôl reoli yn y sector lletygarwch. Am y tro, mae hi’n dathlu carreg filltir ragorol – cael ei choroni’n Weinydd Ifanc y Flwyddyn Cymru 2025.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon