Skip page header and navigation

Mae Canolfan Arloesi Cymdeithasol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio menter newydd ysbrydoledig sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl i ailgysylltu â’r byd naturiol, ac wrth wneud hynny, gwella llesiant ar draws cymunedau.

a group of people on a walk in the fields

Mae’r rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Natur yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau iechyd, gofal a chymunedol ddefnyddio natur fel offeryn ar gyfer lles. Trwy annog rhagor o bobl i sylwi, symud a chysylltu ym myd natur, nod y rhaglen yw lleihau straen a gorbryder, cryfhau perthnasoedd, a chreu cymunedau iachach, mwy gwydn.

Meddai James Moore, Arweinydd y Rhaglen yn y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol: 

“Rydym wrth ein bodd bod y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol yn caniatáu inni adeiladu ar y gwaith o werthuso a dysgu sut rydym yn helpu pobl i fod yn iachach trwy symud ym myd natur. Trwy gefnogi pobl a grwpiau lleol i deimlo’n fwy hyderus i helpu eraill i fod yn iach trwy fod yn yr awyr agored, mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Natur eisoes wedi dangos ei bod yn cael effaith sylweddol. 

“Mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth bod treulio amser ym myd natur yn cefnogi llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol. Yr hyn sy’n gwneud y gwaith hwn yn gyffrous yw gweld pobl sydd eisoes yn cefnogi eraill yn eu cymunedau yn magu’r hyder i blethu natur i’r hyn maen nhw’n ei wneud, a gwylio’r effaith y mae hynny’n ei gael. Trwy herio sut mae pethau’n cael eu gwneud, gallwn droi iechyd a lles ar ei ben yng Ngorllewin Cymru!”

Mae gan dîm y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol flynyddoedd o brofiad yn cyflwyno rhaglenni lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys menter “Archwilio a Cherdded” Academi Cymru, teithiau cerdded llesiant “Gwyrddio’r Tir” Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac amrywiaeth o hyfforddiant sy’n seiliedig ar natur yn y Drindod Dewi Sant.

Mae partneriaeth ddiweddar gyda Phartneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn arbennig o effeithiol. Trwy’r prosiect Gweithio gyda Natur, cefnogodd y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol drigolion lleol i ddod yn Arweinwyr Natur Cymunedol, gan eu helpu i ysbrydoli eraill a chreu newid hirdymor, cynaliadwy.

image of people in field

Mae’r rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Natur yn cyfuno dysgu ymarferol a datblygu arweinyddiaeth. Mae cyfranogwyr yn archwilio sut mae natur yn cefnogi lles, ymarfer arddulliau arweinyddiaeth sy’n hwyluso, ennill dealltwriaeth ecolegol, ac arwain teithiau cerdded natur mewn grwpiau, gan fagu hyder go iawn ar y daith.

Eleni, bydd y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol yn ymestyn ei chefnogaeth ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro, gan weithio gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol i deilwra’r rhaglen i anghenion lleol. Bydd Tîm Presgripsiynu Cymdeithasol Sir Gâr yn cwblhau fersiwn deuddydd o’r cwrs a gynlluniwyd i’w helpu i integreiddio natur mewn ffordd fwy uniongyrchol i’w gwaith.

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach o sut i ddefnyddio natur i gefnogi llesiant, nid yn unig i eraill, ond iddyn nhw eu hunain hefyd. Mae’r ffocws ar greu arweinwyr cymunedol hyderus, cysylltiedig sy’n gallu ysbrydoli newid ymhell ar ôl i’r hyfforddiant ddod i ben.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archwilio sut y gall y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol gefnogi’ch sefydliad, cysylltwch â James Moore ar j.moore@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon