Skip page header and navigation

Roedd Elyse Hopkins o Ystalyfera wedi gosod ei brid ar addysgu ers yn ferch ifanc ond ar ôl graddio yn 2019 aeth i weithio fel swyddog yn yr heddlu gan ei bod yn teimlo ei fod yn opsiwn swydd ddiogel. 

Elyse Hopkins in cap and gown in Brangwyn Hall

Wedi rhai blynyddoedd o weithio gyda’r heddlu, trodd Elyse ei golwg tuag at addysgu eto gan fod nifer o’i ffrindiau wedi gwneud cais am y cwrs Addysg ac Hyfforddiant Ôlorfodol (AHO).

Meddai Elyse: “Roeddwn i’n gwybod bod ffrindiau yn gwneud cais am y cwrs hwn a gan ei fod yn Abertawe, roedd yn gyfleus iawn i mi.  Roeddwn i eisiau darganfod mwy am addysgu oedolion er mwyn gwneud yn siŵr mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa, ac rwy’n teimlo bod y cwrs wedi gwneud hyn yn fawr iawn”.

“Rydw i wedi mwynhau pob eiliad o’r cwrs yn fawr iawn. Roedd y staff yn hynod o gymwynasgar yn enwedig fy tiwtor Marion Phillips. Fe wnaeth yr amrywiaeth o bynciau a drafodwyd a’r arweiniad fy helpu i ddysgu agweddau damcaniaethol ac ymarferol addysgu mewn ffordd galonogol a chadarnhaol”.

Fel rhan o’r cwrs roedd gofyn i Elyse addysgu mewn lleoliad ac fe aeth i wneud hynny yng Ngholeg Celf Abertawe lle oedd modd iddi hefyd ymgorffori’r Gymraeg yn ei gwersi. 

Meddai: “Roeddwn i eisiau cyflwyno mwy o Gymraeg i’r myfyrwyr a hefyd i ddatblygu fy sgiliau fy hun i ddod yn fwy hyderus yn yr iaith. Ar wahân i gyflwyno gwersi dwyieithog, roeddwn i hefyd yn siarad Cymraeg â’m tiwtor ac yn defnyddio’r Gymraeg mewn sgyrsiau gyda fy nghyfoedion”.

Y mae’r penderfyniad i ddychwelyd i’w dymuniad i addysgu wedi talu ar ei ganfed i Elyse.  Mae bellach wedi cael swydd ym Mhrifysgol De Cymru lle mae’n diwtor iaith Gymraeg ar y cwrs plismona proffesiynol.    Yn sicr, mae’n teimlo bod y cwrs AHO wedi agor drysau iddi. 

Meddai:  “Byddwn i’n bendant yn argymell y cwrs hwn i’r rhai sy’n ceisio dod yn addysgwr AHO. Mae’r tîm mor groesawgar a chefnogol a byddan nhw’n eich arfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i addysgu’n hyderus.  Gyda’r gefnogaeth rydw i wedi’i derbyn, mae fy hyder wedi tyfu cymaint mewn gwahanol agweddau fel fy ngallu yn y Gymraeg ynghyd â’r hyder i siarad mewn grwpiau i gyflwyno sesiynau.  Rwy’n gobeithio ymestyn fy sgiliau addysgu ymhellach i bynciau gwahanol wrth i fy ngyrfa fynd rhagddi”.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon