Cyhoeddi enwau’r rhai sydd yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc Cymru 2025
Mae sêr y dyfodol yn y maes lletygarwch yng Nghymru yn paratoi i ddod i amlygrwydd yn Stadiwm Swansea.com
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyhoeddi enwau’r cystadleuwyr talentog sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc Cymru 2025, sydd i’w chynnal yn fyw yn Stadiwm Swansea.com ddydd Llun, 22 Medi.

Bydd y digwyddiad mawreddog, sy’n arddangos goreuon y dalent newydd sy’n datblygu yn y maes lletygarwch yng Nghymru, yn gweld cogyddion, gweinyddwyr a chymysgwyr ifanc o dan 28 oed yn cystadlu am y teitlau cenedlaethol mawr eu bri – a chyfle i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.
Mae’r gystadleuaeth yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach PCYDDS i gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad yn y diwydiant. Mae’r rhaglenni Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth y Brifysgol, gan gynnwys Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol, Rheolaeth Lletygarwch a Gwestai, a Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd ymarferol i fyfyrwyr. Mae cystadlaethau fel Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc yn cynnig enghraifft fyw o’r modd mae dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn cysylltu ag arfer y byd go iawn, gan roi cyfle i bobl ifanc brofi eu sgiliau, adeiladu rhwydweithiau, a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil mewn lletygarwch.
Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yw:
Cogydd
- Rob Griffiths – Penmaenuchaf
- Jordan Newton – Beach House
- Edward Junaidean – Thomas
- Tia Davies – The Welsh House, Neath
Cogydd
- Joseph Young – Swansea.com
- Arwen Garland – PCYDDS / Swansea.com
- Bronte Lorimer – Beach House
- Ruby Westwood – The Welsh House, Abertawe
Cymysgydd
- Adhwaith Chandra – Browns, Caerdydd
- Charlotte Malin – Lab 22, Caerdydd
- Bethany Fawkes – Sant Ffraid House, The Oldwalls Collection
- Ellen Budd – Penny, Caerdydd
Y dasg i’r rhai sydd yn y rownd derfynol fydd creu argraff ar banel o feirniaid sy’n arwain yn y diwydiant trwy gyfres o heriau ymarferol a gynlluniwyd i brofi eu creadigrwydd, eu sgiliau technegol a’u proffesiynoldeb.
Adeiladu ar lwyddiant y llynedd
Yng nghystadleuaeth Cymru yn 2024, coronwyd y canlynol:
Cogydd Ifanc: Alex Dunham o The Whitebrook, Trefynwy
Gweinydd Ifanc: Jack Williams o Westy Penmaenuchaf, Dolgellau
Cymysgydd Ifanc: James Borley o The Dead Canary, Caerdydd
Aeth y tri ohonynt ymlaen i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc y Byd yn Singapore, lle gwnaethant arddangos eu doniau ar lwyfan rhyngwladol. Ymhlith y rhai ddaeth yn agos at y brig y llynedd roedd Dalton Weir o The Toad (Cogydd), Enes Hatipoglu o The Celtic Collection (Gweinydd), ac Ellen Budd o Penny (Cymysgydd), sy’n dychwelyd i’r gystadleuaeth eleni i gystadlu eto am y teitl.
Wrth adfyfyrio ar lwyddiant y llynedd, dywedodd Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd y cyrsiau Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn PCYDDS, ac arweinydd y gystadleuaeth dros Gymru:
“Unwaith eto, rydym yn falch iawn o ddathlu’r dalent anhygoel yn sector lletygarwch Cymru. Mae’r gystadleuaeth nid yn unig yn darparu llwyfan i’r gweithwyr proffesiynol ifanc hyn ddisgleirio ond hefyd yn dangos cryfder diwylliant bwyd a diod Cymru, sydd wedi’i wreiddio mewn cynnyrch lleol a chreadigrwydd o’r radd flaenaf.”
Arddangosfa ar gyfer lletygarwch Cymreig
Wedi’i sefydlu yn 1979, mae’r gystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc wedi dod yn gonglfaen calendr lletygarwch y DU. Mae rowndiau terfynol Cymru, a gynhelir gan PCYDDS, hefyd yn pwysleisio arferion cynaliadwy ac ysbryd cymunedol, gyda’r cynnyrch sydd dros ben o’r gystadleuaeth yn cael ei roi i Dŷ Matthew yn Abertawe, sy’n cefnogi pobl agored i niwed yn y ddinas.
Gyda chefnogaeth gan bartneriaid yn y diwydiant gan gynnwys Neft Vodka, Compass Cymru, Castell Howell, Mor Ladron Rum, Swansea Fish, Towy Fish & Game a Gwesty’r Village, Abertawe, mae’r gystadleuaeth yn tynnu sylw at yr ymdrech gydweithredol sy’n gyrru lletygarwch yng Nghymru yn ei flaen.
Wrth i’r edrych ymlaen gynyddu ar gyfer y rowndiau terfynol byw yr wythnos nesaf, bydd y sylw i gyd ar Stadiwm Swansea.com i weld pwy fydd yn cipio’r teitlau ac yn dilyn ôl troed pencampwyr y llynedd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071