Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, mae Calon Bailey, myfyriwr BA Actio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cwblhau semester dramor ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton. Wedi’i gyllido drwy ysgoloriaeth y rhaglen Taith, cynigiai amser Calon dramor gyfle unigryw iddo astudio, datblygu sgiliau, a chael safbwyntiau ffres mewn lleoliad rhyngwladol.

a group of acting students in Fullerton California

Yn ystod ei amser yn Fullerton, ymdrochodd Calon ei hun mewn amgylchedd academaidd deinamig.  Meddai: 

“Yn yr ardal ble astudiais i, roedd pobl o bob math, i gyd wedi’u hysgogi i gyflawni eu nodau.  Roedd cael cymaint o benderfyniad o’m cwmpas yn f’ysbrydoli, gan fy nghymell i’m gwthio fy hun ymhellach.”

Drwy’i brofiad, darganfu Calon sgiliau newydd gan addasu i amgylcheddau gwaith newydd ac anghyfarwydd.  Mae’r gallu hwn i addasu wedi rhoi iddo becyn o sgiliau, gan ei baratoi i ragori mewn mentrau yn y dyfodol. 

Gan adfyfyrio ar ei amser dramor, meddai Calon:

“Nid yn unig y mae’r profiad hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, mae hefyd yn rhoi’r amser i chi ganfod eich hunaniaeth eich hun, eich gwerthoedd craidd ac yn fwyaf pwysig beth hoffech ei wneud gyda’r amser sydd gennych pan fyddwch yn dychwelyd adref.” 

Tynnodd sylw hefyd at y safbwyntiau unigryw a geir drwy weithio wrth ochr cymheiriaid o gefndiroedd addysgol amrywiol.  

“Rhoddais i beth rwyf i wedi’i ddysgu ac rwy’n mynd â mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o ongl wahanol ar bethau ymhob pwnc rwyf wedi dymuno’i ddysgu, a’r pynciau rwyf wedi bod yn eu hastudio am y 6 blynedd ddiwethaf.”

Mae Calon yn annog myfyrwyr eraill PCYDDS i ystyried cyfleoedd rhyngwladol. 

“Mae’n fwy na phrofiad dysgu – mae’n gyfle i dyfu, archwilio, a pharatoi am y dyfodol.  Er bod f’amser i yng Nghaliffornia yn fyr, rhoddodd yr hyder a’r cymhelliad i mi adeiladu rhywbeth ystyrlon pan ddychwelais adref.”

Mae semester Calon dramor wedi siapio’i ddyheadau, gan roi iddo’r offer a’r penderfyniad i archwilio llwybrau gyrfa ac academaidd newydd. 

“Rwy’n credu bod gen i lawer mwy o gyfleoedd na rwy’n eu cymryd yn ganiataol, ac rwy’n gobeithio, o’r diwedd, y gallaf wneud defnydd o’r help rwyf wedi’i gynnig i bobl eraill, er mwyn dechrau sylfaen fy rhwydwaith fy hun.”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol, (Gogledd America a Symudedd Allanol) yn PCYDDS:   

“Mae’n eglur o adborth Calon fod hwn wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, mae ymdrochi mewn diwylliannau gwahanol yn cyfoethogi celfyddyd ac yn ehangu safbwyntiau creadigol. 

“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cefnogi myfyrwyr bob cam o’r ffordd drwy’r broses o wneud cais i deithio dramor, gan eu grymuso i archwilio’r byd a chyfoethogi eu haddysg gyda phrofiadau rhyngwladol.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd rhyngwladol yn PCYDDS, ewch i Cyfleoedd Byd-eang | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon