Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn Dychwelyd i Ysbrydoli Gweithwyr Proffesiynol Digwyddiadau’r Dyfodol
Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch i groesawu cyn-fyfyrwraig Heledd Williams Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru i Ganolfan Dylan Thomas y Brifysgol am ddigwyddiad arbennig yn hyrwyddo’r fenter Cwrdd yng Nghymru.
Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o Raglen Llysgenhadon Cwrdd yng Nghymru ymhlith staff academaidd ac ymchwil PCYDDS, gan annog cyfranogiad mewn menter genedlaethol a gynlluniwyd i ddenu cynadleddau, cyfarfodydd a digwyddiadau rhyngwladol i Gymru. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cefnogi’r uchelgais strategol i wella sector MICE (Cyfarfodydd, Cymhellion, Cynadleddau ac Arddangosfeydd) a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau busnes.
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad diddorol ac addysgiadol gan Heledd a thîm Cwrdd yng Nghymru, yn amlinellu amcanion y rhaglen a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cydweithio. Dilynwyd hyn gan drafodaethau yn archwilio sut y gall PCYDDS gynnal a chefnogi cynadleddau yn y dyfodol ar draws ei champysau.
Chwaraeodd myfyrwyr Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol Lefel 6 a Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth rôl allweddol mewn cefnogi’r digwyddiad, o drefnu’r digwyddiad a chysylltu â chynrychiolwyr i letygarwch a rheoli gwesteion. Darparodd y diwrnod gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gymhwyso eu dysgu academaidd mewn amgylchedd digwyddiad byw, gan gefnogi eu hastudiaethau mewn Rheolaeth Cynadleddau yn uniongyrchol.
Gan ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig, paratôdd a gweinodd myfyrwyr Gastronomeg Lefel 5 o dan arweiniad arbenigol Rheolwr y Rhaglen Jemma Symith ginio â thema Gymreig. Roedd hyn wedi darparu’r lleoliad perffaith ar gyfer rhwydweithio, gan ganiatáu i’r cynrychiolwyr, tîm Cwrdd yng Nghymru a’r Llysgenhadon presennol drafod cyfleoedd cynadledda ar draws ystod eang o sector gan gynnwys Addysg, Menter, eChwaraeon, Llythrennedd Corfforol, Cynaliadwyedd, a Thwristiaeth.
Yn dilyn cinio, cyflwynodd Helen Ddosbarth Meistr Cyfarfodydd unigryw i fyfyrwyr Rheolaeth Digwyddiadau, gan rannu mewnwelediadau o’i gyrfa helaeth yn y diwydiant digwyddiadau byd-eang. Gan dynnu ar ei phrofiad o gyflwyno digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, Uwchgynhadledd Arweinwyr y Byd, Ras Fôr Volvo a Chwpan Ryder, cynigiodd Heledd bersbectif unigryw ar gynllunio digwyddiadau, marchnata cyrchfannau, ac arweinyddiaeth strategol.
Cafodd myfyrwyr well ddealltwriaeth o’r sector MICE a’r strategaeth Cwrdd yng Nghymru, gan gysylltu damcaniaethau o fodylau mewn Marchnata arbenigol, Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol, Cynadleddau, a Rheolaeth Cyrchfannau Byd-eang i arfer yn y byd go iawn.
Yn ogystal, adfyfyriodd Heledd ar ei thaith yrfa ei hun, a ddechreuodd yn PCYDDS lle astudiodd Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden. Mae ei phrofiad proffesiynol yn cynnwys lleoliadau gyda S4C, Magic of Wales yn Epcot Walt Disney World (Florida) a Gwyliau Contiki yn Rhufain, ac yna rolau amlwg gyda Bwrdd Croeso Cymru yn Efrog Newydd, Digwyddiadau BBC Cymru, Twristiaeth Caerdydd, a Llywodraeth Cymru.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen, Portffolio Rheolaeth Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau yn PCYDDS:
“Mae bob amser yn braf croesawu ein graddedigion llwyddiannus i PCYDDS fel arweinwyr diwydiant i rannu eu harbenigedd proffesiynol a straeon am eu gyrfaoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.
“Mae angerdd a brwdfrydedd Heledd dros Ddigwyddiadau, Twristiaeth a Chymru yn heintus ac mae wedi cael effaith sylweddol iawn ar ein myfyrwyr.
“Yn ogystal, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fyfyrwyr o bob un o’n disgyblaethau Academaidd ddod at ei gilydd i ddangos eu sgiliau diwydiant a chynnal digwyddiad llwyddiannus hynod lwyddiannus arall.”
Mynychwyd y digwyddiad gan 15 o aelodau staff academaidd, gan gynnwys dau Ddeon ac Athro, yn ogystal â gwesteion nodedig megis yr Athro Terry Stevens a Phrif Swyddog Gweithredol eChwaraeon Cymru, y ddau ohonynt yn Llysgenhadon Cwrdd yng Nghymru. Yn ogystal, roedd y diwrnod yn cynnwys cyfweliad a recordiwyd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd strategol Rhaglen y Llysgenhadon a’i heffaith gadarnhaol ar fyfyrwyr a’r sector digwyddiadau ehangach.
Mae’n bleser gan PCYDDS gyhoeddi bod Heledd wedi cael ei gwahodd i fod yn siaradwr gwadd yn Nhrafodaethau Dathlu’r Brifysgol sydd ar ddod, gan nodi 30 mlynedd ers i’r graddedigion cyntaf raddio o’r Ddisgyblaeth Academaidd. Bydd yr Athro Terry Stevens, Deon y Gyfadran a lansiodd y cwrs yn wreiddiol yn ymuno â Heledd, wrth iddynt fyfyrio ar ei etifeddiaeth a’i effaith barhaus.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476