Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn dod at ei gilydd i ddathlu'r 1980au
Yn ddiweddar, dychwelodd dros 50 o gyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin – sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) – ar gyfer aduniad llawen o’r 1980au, a drefnwyd ar y cyd gan dimau Cyn-fyfyrwyr ac Ystadau a Chyfleusterau’r Brifysgol, a’r cyn-fyfyriwr Richard Goodwin, a arweiniodd y gwaith o gynllunio’r digwyddiad.

Teithiodd gwesteion i Gaerfyrddin o bell ac agos - rhai o fewn y sir, eraill o ymhellach i ffwrdd gan gynnwys Cernyw, a dau hyd yn oed yn hedfan yr holl ffordd o’r Unol Daleithiau.
Daeth y gwesteion hyn o America i Gaerfyrddin am y tro cyntaf yn yr 1980au drwy Raglen Central College yng Nghymru – a lansiwyd yng Ngholeg y Drindod i roi cyfle i fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau i dreulio semester yng Nghymru ac ymdrochi yn niwylliant ac addysg Cymru. Roedd dychwelyd i’r campws ddegawdau yn ddiweddarach yn brofiad gwefreiddiol a oedd yn caniatáu iddynt i ailgysylltu â ffrindiau ac ailymweld â’r lle a oedd wedi llunio rhan mor bwysig o’u taith fel myfyrwyr.
Dechreuodd y diwrnod gyda thaith dywys o amgylch y campws, lle archwiliodd y cyn-fyfyrwyr fannau cyfarwydd a darganfod y newidiadau niferus ers eu dyddiau o fod yn fyfyrwyr. Roedd rhai gwesteion yn gweld y campws am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd - neu hyd yn oed ddegawdau - gan wneud y dychweliad yn un arbennig o ystyrlon.
Roedd y grŵp wrth eu bodd o weld y datblygiadau ar y campws, gan gynnwys Yr Egin - cartref S4C yn ogystal â chlwstwr o gwmnïau o’r diwydiannau creadigol - ochr yn ochr â’r cyfleusterau Addysgu a Dysgu newydd a llyfrgell fodern, yn lle’r llyfrgell flaenorol sydd bellach wedi’i thrawsnewid yn gaffi.
Mae adeilad Dewi, lle’r oedd llawer o’r cyn-fyfyrwyr wedi byw ar un adeg, bellach wedi’i ailddatblygu i fod yn hwb Gwasanaethau Myfyrwyr, gan ddod ag ystod eang o wasanaethau ar gyfer myfyrwyr at ei gilydd. Fe wnaeth yr Undeb Myfyrwyr, sy’n dal yn ei leoliad gwreiddiol, hefyd greu argraff ar y gwesteion gyda’i ddyluniad diweddaredig - lle modern ar gyfer cymdeithasu a dod â’r gymuned o fyfyrwyr ynghyd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
Bu hiraeth wrth i’r cyn-fyfyrwyr hefyd gamu yn ôl i ystafelloedd dosbarth lle roeddent unwaith wedi cael eu dysgu.
Gyda’r nos, daeth y cyn-fyfyrwyr at ei gilydd ym Mwyty Merlin ar y campws ar gyfer cinio dathlu i drac sain o glasuron cerddoriaeth yr 1980au.
Cawsant eu croesawu gan y Dirprwy Is-Ganghellor Mirjam Plantinga, a adfyfyriodd ar esblygiad y Brifysgol trwy ddweud:
“Fe wnaeth llawer ohonoch chi yma astudio addysg, y dyniaethau neu’r celfyddydau perfformio. Dros y blynyddoedd, mae ein rhaglenni wedi newid ac wedi esblygu i adlewyrchu anghenion newidiol myfyrwyr a’r sector.
“Heddiw, mae Caerfyrddin yn canolbwyntio ar addysg, chwaraeon a lles, gwneud ffilmiau, busnes a chynaliadwyedd ond er gwaethaf unrhyw newidiadau, mae’r ymdeimlad o gymuned yma yng Nghaerfyrddin mor gryf ag erioed. Mae’n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono ac mae’n rhan annatod o’n hunaniaeth.”
Fe wnaeth y gwesteion hel atgofion, rhannu straeon, a chwerthin tan yn hwyr gyda’r nos dros hen ffotograffau a phethau cofiadwy y daethant gyda nhw, a wnaeth sbarduno atgofion o fywyd yn y Drindod yn yr 1980au.
I lawer, roedd aros dros nos mewn neuadd breswyl – nad oedd hyd yn oed wedi bodoli pan oeddent yn astudio – yn ychwanegu at yr hwyl a’r ymdeimlad o gwblhau’r cylch.
Roedd yr awyrgylch drwy gydol y digwyddiad yn un o lawenydd, cyfeillgarwch a diolchgarwch. Disgrifiodd y cyn-fyfyrwyr yr aduniad fel:
- “Noson gofiadwy am gymaint o resymau da.”
- “Mor braf i weld pawb a hel atgofion am yr hen ddyddiau.”
- “Am fendigedig – i deimlo 40 mlynedd yn diflannu ac adnewyddu ein cyfeillgarwch yn syth. Tan y tro nesaf.”
- “Fe wnes i gwrdd â hen ffrindiau ac ailgydio yn ein cyfeillgarwch, a chwrdd â ffrindiau newydd hefyd.”
- “Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am yr amser a dreuliwyd gyda ffrindiau, pan oeddwn i’n astudio yno, a dros y penwythnos. Gwych i weld pawb eto a siarad am ein profiadau yn y coleg ac ers hynny.”
Profodd y digwyddiad, er gwaethaf degawdau o newid, bod ysbryd y Drindod - a’r clymau cyfeillgarwch a feithrinwyd - yn parhau i fod mor gryf ag erioed.
Os hoffech fynychu digwyddiadau yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn gyfredol gyda’r tîm Cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad. Ac os ydych chi’n cael eich ysbrydoli i drefnu aduniad o’ch grŵp blwyddyn eich hun, byddai’r tîm Cyn-fyfyrwyr yn falch iawn o’ch helpu chi i ddod ag ef yn fyw.
Diweddarwch Eich Manylion > Manylion Cyn-fyfyrwyr | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cysyllwtch â’r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr > alumni@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996